Tan-y-graig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Tan-y-graig''' yn enw ar fferm a chwarel ithfaen ger Pen-lôn Trefor, a bellach dyna'r enw a arddelir hefyd ar res o dai ar...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:32, 7 Ebrill 2022
Mae Tan-y-graig yn enw ar fferm a chwarel ithfaen ger Pen-lôn Trefor, a bellach dyna'r enw a arddelir hefyd ar res o dai ar y Lôn Bost a godwyd yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20g., o'r enw "Sea View Terrace". Saif olion y chwarel ar ochr mynydd Moel Penllechog ar y ffriddoedd uwchben y fferm. Fferm sylweddol oedd fferm Tan-y-graig, a thua 1840, pan wnaed y Map Degwm, fe'i ymddengys mai'r perchennog oedd Rowland Jones, ysw., perchennog Elernion, Penllechog a nifer o ffermydd eraill yn y cyffiniau; y tenant oedd Griffith Roberts, a oedd yn ffermio 77 erw o dir.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ LlGC, Map Degwm a Rhestr Pennu plwyf Llanaelhaearn