Cwm Du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Cwm Du''' yw'r cwm uchel ar lethrau gogleddol Mynydd Mawr, gyda nant yn ei waelod, sy'n rhedeg i lawr i Glogwyn Gellog nes ymuno ag Afon Gwyr...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cwm Du''' yw'r cwm uchel ar lethrau gogleddol [[Mynydd Mawr]], gyda nant yn ei waelod, sy'n rhedeg i lawr i Glogwyn Gellog nes ymuno ag [[Afon Gwyrfai]].
[[Delwedd:Heathery Cwm Du - geograph.org.uk - 225411.jpg|de|bawd|350px|Cwm Du, gyda Chraig Cwmbychan ar y dde. Llun:Eric Jones CC-BY-SA2.0]]
 
'''Cwm Du''' yw'r cwm uchel ar lethrau gogleddol [[Mynydd Mawr]], gyda nant yn ei waelod, sy'n rhedeg i lawr i Glogwyn Gellog nes ymuno ag [[Afon Gwyrfai]]. Y tu ôl i Gwm Du mae Craig Cwm Du, craig serth. Ym mhen draw gorllewinol y Graig mae 5 adit, neu gloddfa fach, sy'n tystio i'r man fod yn fwynglawdd (haearn mae'n debyg) rywbryd yn ystod y 300 mlynedd diwethaf; dichon na chafwyd hyd i fwynau ar raddfa fasnachol ac fe roddwyd y gorau i weithio'r lle yn fuan.<ref>Gwefan Coflein [https://www.coflein.gov.uk/en/site/287312/details/craig-cwm-du-trial-mine-iii], cyrchwyd 4.5.2020</ref>
 
Ymysg y dringwyr cyntaf i ddringo ar y graig uwchben y cwm oedd George Mallory (a gollwyd ar Everest). Ym 1912 fe ddarganfu dair ffordd i fyny'r graig, sef ''Pis Aller Rib'', ''Yellow Buttress'' ac ''Adam Rib''.<ref>Peter Gillman a Leni Gillman, ''Wildest Dream - the Biography of George Mallory'', (Seattle, 2000) t.101</ref> Dichon mai iddo fo a'i debyg, er gwaethaf eu gorchestion mynydda, y mae'r diolch am enwau Saesneg y cwm, megis ''Saxifrage Gully'', sydd yn ymddangos hyd yn oed ar fapiau Ordnans y dyddiau hyn o'r cwm.


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 5: Llinell 9:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Mwyngloddio]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:15, 23 Mawrth 2022

Cwm Du, gyda Chraig Cwmbychan ar y dde. Llun:Eric Jones CC-BY-SA2.0

Cwm Du yw'r cwm uchel ar lethrau gogleddol Mynydd Mawr, gyda nant yn ei waelod, sy'n rhedeg i lawr i Glogwyn Gellog nes ymuno ag Afon Gwyrfai. Y tu ôl i Gwm Du mae Craig Cwm Du, craig serth. Ym mhen draw gorllewinol y Graig mae 5 adit, neu gloddfa fach, sy'n tystio i'r man fod yn fwynglawdd (haearn mae'n debyg) rywbryd yn ystod y 300 mlynedd diwethaf; dichon na chafwyd hyd i fwynau ar raddfa fasnachol ac fe roddwyd y gorau i weithio'r lle yn fuan.[1]

Ymysg y dringwyr cyntaf i ddringo ar y graig uwchben y cwm oedd George Mallory (a gollwyd ar Everest). Ym 1912 fe ddarganfu dair ffordd i fyny'r graig, sef Pis Aller Rib, Yellow Buttress ac Adam Rib.[2] Dichon mai iddo fo a'i debyg, er gwaethaf eu gorchestion mynydda, y mae'r diolch am enwau Saesneg y cwm, megis Saxifrage Gully, sydd yn ymddangos hyd yn oed ar fapiau Ordnans y dyddiau hyn o'r cwm.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1], cyrchwyd 4.5.2020
  2. Peter Gillman a Leni Gillman, Wildest Dream - the Biography of George Mallory, (Seattle, 2000) t.101