Pont y Gelynnen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Saif '''Pont Gelenau''' ar yr B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y Gelli rhwng [[Nantlle]] a [[Drws-y-coed]]. Mae'r bont yn sefyll hanner ffordd rhwng [[Ysgol Baladeulyn]] a fferm Gelli-ffrydiau. Pont weddol ddi-nôd yw, dros nant sy'n rhedeg i mewn i [[Llyn Nantlle Uchaf|Llyn Nantlle Uchaf]]. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 9 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Fe adeiladwyd yn newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud fod y brif angen yn y sir am waith ar bontydd newydd oedd ger [[Gelli-ffrydiau]], nid nepell o bentref [[Nantlle]], yn cynnwys '"Pont y Gelynan".<ref>Archifdy Gwynedd, XD2?24855.</ref> Yr oedd rhaid i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Fe adeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £52.10s.
Saif '''Pont y Gelynnen''' ar y B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y Gelli rhwng [[Nantlle]] a [[Drws-y-coed]]. Mae'r bont yn sefyll hanner ffordd rhwng [[Ysgol Gynradd Baladeulyn]] a fferm [[Gelli-ffrydiau]]. Pont weddol ddi-nod yw, dros nant sy'n rhedeg i mewn i [[Llyn Nantlle Uchaf|Lyn Nantlle Uchaf]], sef [[Afon Pontygelynnen]]<ref>Map Ordnans; Thomas Alun Williams, ''Afonydd Nantlle'' ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7]</ref>. Weithiau, ceir y ffurf ''Pont Gelenau'' ar enw'r bont, ond mae enw'r afon - a'r cyfeiriad isod - yn dangos beth yw enw cywir y bont.
 
Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 9 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Fe'i hadeiladwyd yn newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud mai ger [[Gelli-ffrydiau]], nid nepell o bentref [[Nantlle]], yr oedd y prif angen am waith ar bontydd newydd yn y sir, yn cynnwys '"Pont y Gelynan".<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/24855.</ref> Roedd yn rhaid i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Adeiladwyd y bont gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £52.10s.


Mewn dogfennau cyn cyfnod y mapiau Ordnans, fe elwir y bont yn ''Bont Gelynan''. Nid yw'n glir pa enw yw'r un cywir erbyn hyn. <ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/28</ref>
Mewn dogfennau cyn cyfnod y mapiau Ordnans, fe elwir y bont yn ''Bont Gelynan''. Nid yw'n glir pa enw yw'r un cywir erbyn hyn. <ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/28</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:16, 21 Mawrth 2022

Saif Pont y Gelynnen ar y B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y Gelli rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Mae'r bont yn sefyll hanner ffordd rhwng Ysgol Gynradd Baladeulyn a fferm Gelli-ffrydiau. Pont weddol ddi-nod yw, dros nant sy'n rhedeg i mewn i Lyn Nantlle Uchaf, sef Afon Pontygelynnen[1]. Weithiau, ceir y ffurf Pont Gelenau ar enw'r bont, ond mae enw'r afon - a'r cyfeiriad isod - yn dangos beth yw enw cywir y bont.

Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 9 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Fe'i hadeiladwyd yn newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud mai ger Gelli-ffrydiau, nid nepell o bentref Nantlle, yr oedd y prif angen am waith ar bontydd newydd yn y sir, yn cynnwys '"Pont y Gelynan".[2] Roedd yn rhaid i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Adeiladwyd y bont gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £52.10s.

Mewn dogfennau cyn cyfnod y mapiau Ordnans, fe elwir y bont yn Bont Gelynan. Nid yw'n glir pa enw yw'r un cywir erbyn hyn. [3]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans; Thomas Alun Williams, Afonydd Nantlle ar wefan Nantlle.com [1]
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/24855.
  3. Archifdy Caernarfon, XPlansB/28