Melin-y-Cim: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Melin ŷd oedd '''Melin-y- | Melin ŷd oedd '''Melin-y-Cim''', ychydig gannoedd o lathenni'n nes at y môr a phentref [[Pontlyfni]] na'r bont. Ceir cofnod o felinydd Melin-y-Cim ar ddechrau'r 19g, sef Robert Prichard, a fu farw ym 1832. Roedd ganddo eiddo (rhwng anifeiliaid, cert a dodrefn) a brisiwyd fel eiddo gwerth £47.5.0d. Bu farw ei weddw, Ann Prichard (Williams cyn priodi) | ||
ym 1850 ac mae'n amlwg iddi hi barhau â'r gwaith am gyfnod; roedd ganddi sawl mab a nhw efallai a fu wrthi yn y felin. Ymysg ei heiddo pan fu farw, roedd mesurau ŷd, cloriannau a phwysau, yn ogystal â hobed o wenith. Roedd ar bobl £10 am ŷd a werthwyd ganddi.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor B/1832/66; B/1850/96</ref>. Ymddengys, fodd bynnag, ei bod wedi rhoi'r gorau i'r felin ddeng mlynedd cyn hynny: yn ôl y Map Degwm a'r Rhestr Bennu gysylltiedig, William Roberts oedd y tenant erbyn 1840 - a'r Parch. Hugh Rowlands yn berchennog.<ref>Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Clynnog Fawr [https://lleoedd.llyfrgell.cymru/viewer/4541531#?cv=87&h=2289&c=&m=&s=&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4541531%2Fmanifest.json&xywh=-100%2C167%2C1675%2C848], cyrchwyd 24.5.2021</ref> | |||
Mae'n eiddo bellach i Gymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni, <ref>Gwefan y Gymdeithas: http://www.sgll.co.uk/page60.html. | Ym 1865, William Roberts oedd tenant y felin ynghyd â 9 acer o dir. Miss Jane Rowlands oedd y perchennog.<ref>Llyfr rhenti Clynnog Fawr, 1865</ref> | ||
Mae mapiau Ordnans 1888, 1899, 1920 a 1948 i gyd yn dangos y felin fel un a oedd yn dal i droi. Roedd ffrwd felin yn cario dŵr i'r olwyn. | |||
Mae'n eiddo bellach i Gymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni, <ref>Gwefan y Gymdeithas: http://www.sgll.co.uk/page60.html. Gwelir yno luniau o'r felin fel mae'n ymddangos heddiw,</ref> a throwyd yr adeilad yn fythynnod haf yn 2008-9, gan ei ehangu'n sylweddol. Roedd yr olwyn ddŵr ar dalcen yr adeilad lle mae balconi wedi ei osod erbyn hyn. Mae hen fwthyn y melinydd yn sefyll o hyd, mewn gardd tŷ arall gerllaw.<ref>Comisiwn Henebion Cymru: ''Coflein''</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:23, 20 Mawrth 2022
Melin ŷd oedd Melin-y-Cim, ychydig gannoedd o lathenni'n nes at y môr a phentref Pontlyfni na'r bont. Ceir cofnod o felinydd Melin-y-Cim ar ddechrau'r 19g, sef Robert Prichard, a fu farw ym 1832. Roedd ganddo eiddo (rhwng anifeiliaid, cert a dodrefn) a brisiwyd fel eiddo gwerth £47.5.0d. Bu farw ei weddw, Ann Prichard (Williams cyn priodi) ym 1850 ac mae'n amlwg iddi hi barhau â'r gwaith am gyfnod; roedd ganddi sawl mab a nhw efallai a fu wrthi yn y felin. Ymysg ei heiddo pan fu farw, roedd mesurau ŷd, cloriannau a phwysau, yn ogystal â hobed o wenith. Roedd ar bobl £10 am ŷd a werthwyd ganddi.[1]. Ymddengys, fodd bynnag, ei bod wedi rhoi'r gorau i'r felin ddeng mlynedd cyn hynny: yn ôl y Map Degwm a'r Rhestr Bennu gysylltiedig, William Roberts oedd y tenant erbyn 1840 - a'r Parch. Hugh Rowlands yn berchennog.[2]
Ym 1865, William Roberts oedd tenant y felin ynghyd â 9 acer o dir. Miss Jane Rowlands oedd y perchennog.[3]
Mae mapiau Ordnans 1888, 1899, 1920 a 1948 i gyd yn dangos y felin fel un a oedd yn dal i droi. Roedd ffrwd felin yn cario dŵr i'r olwyn.
Mae'n eiddo bellach i Gymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni, [4] a throwyd yr adeilad yn fythynnod haf yn 2008-9, gan ei ehangu'n sylweddol. Roedd yr olwyn ddŵr ar dalcen yr adeilad lle mae balconi wedi ei osod erbyn hyn. Mae hen fwthyn y melinydd yn sefyll o hyd, mewn gardd tŷ arall gerllaw.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor B/1832/66; B/1850/96
- ↑ Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Clynnog Fawr [1], cyrchwyd 24.5.2021
- ↑ Llyfr rhenti Clynnog Fawr, 1865
- ↑ Gwefan y Gymdeithas: http://www.sgll.co.uk/page60.html. Gwelir yno luniau o'r felin fel mae'n ymddangos heddiw,
- ↑ Comisiwn Henebion Cymru: Coflein