Melin-y-Cim: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae safle '''Melin-y-cim''', ychydig gannoedd o lathenni'n nes at y môr a phentref Pontlyfni na'r bont. Mae mapiau Ordnans 1888, 1899, 1920 a 1948 i...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 13 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae safle '''Melin-y-cim''', ychydig gannoedd o lathenni'n nes at y môr a phentref [[Pontlyfni]] na'r bont. Mae mapiau Ordnans 1888, 1899, 1920 a 1948 i gyd yn dangos y felin fel yn sy'n dal i droi.
Melin ŷd oedd '''Melin-y-Cim''', ychydig gannoedd o lathenni'n nes at y môr a phentref [[Pontlyfni]] na'r bont. Ceir cofnod o felinydd Melin-y-Cim ar ddechrau'r 19g, sef Robert Prichard, a fu farw ym 1832. Roedd ganddo eiddo (rhwng anifeiliaid, cert a dodrefn) a brisiwyd fel eiddo gwerth £47.5.0d. Bu farw ei weddw, Ann Prichard (Williams cyn priodi)
ym 1850 ac mae'n amlwg iddi hi barhau â'r gwaith am gyfnod; roedd ganddi sawl mab a nhw efallai a fu wrthi yn y felin. Ymysg ei heiddo pan fu farw, roedd mesurau ŷd, cloriannau a phwysau, yn ogystal â hobed o wenith. Roedd ar bobl £10 am ŷd a werthwyd ganddi.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor B/1832/66; B/1850/96</ref>. Ymddengys, fodd bynnag, ei bod wedi rhoi'r gorau i'r felin ddeng mlynedd cyn hynny: yn ôl y Map Degwm a'r Rhestr Bennu gysylltiedig, William Roberts oedd y tenant erbyn 1840 - a'r Parch. Hugh Rowlands yn berchennog.<ref>Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Clynnog Fawr [https://lleoedd.llyfrgell.cymru/viewer/4541531#?cv=87&h=2289&c=&m=&s=&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4541531%2Fmanifest.json&xywh=-100%2C167%2C1675%2C848], cyrchwyd 24.5.2021</ref>
 
Ym 1865, William Roberts oedd tenant y felin ynghyd â 9 acer o dir. Miss Jane Rowlands oedd y perchennog.<ref>Llyfr rhenti Clynnog Fawr, 1865</ref>
 
Mae mapiau Ordnans 1888, 1899, 1920 a 1948 i gyd yn dangos y felin fel un a oedd yn dal i droi. Roedd ffrwd felin yn cario dŵr i'r olwyn.
 
Mae'n eiddo bellach i Gymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni, <ref>Gwefan y Gymdeithas: http://www.sgll.co.uk/page60.html. Gwelir yno luniau o'r felin fel mae'n ymddangos heddiw,</ref> a throwyd yr adeilad yn fythynnod haf yn 2008-9, gan ei ehangu'n sylweddol. Roedd yr olwyn ddŵr ar dalcen yr adeilad lle mae balconi wedi ei osod erbyn hyn. Mae hen fwthyn y melinydd yn sefyll o hyd, mewn gardd tŷ arall gerllaw.<ref>Comisiwn Henebion Cymru: ''Coflein''</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Melinau]]
[[Categori:Melinau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:23, 20 Mawrth 2022

Melin ŷd oedd Melin-y-Cim, ychydig gannoedd o lathenni'n nes at y môr a phentref Pontlyfni na'r bont. Ceir cofnod o felinydd Melin-y-Cim ar ddechrau'r 19g, sef Robert Prichard, a fu farw ym 1832. Roedd ganddo eiddo (rhwng anifeiliaid, cert a dodrefn) a brisiwyd fel eiddo gwerth £47.5.0d. Bu farw ei weddw, Ann Prichard (Williams cyn priodi) ym 1850 ac mae'n amlwg iddi hi barhau â'r gwaith am gyfnod; roedd ganddi sawl mab a nhw efallai a fu wrthi yn y felin. Ymysg ei heiddo pan fu farw, roedd mesurau ŷd, cloriannau a phwysau, yn ogystal â hobed o wenith. Roedd ar bobl £10 am ŷd a werthwyd ganddi.[1]. Ymddengys, fodd bynnag, ei bod wedi rhoi'r gorau i'r felin ddeng mlynedd cyn hynny: yn ôl y Map Degwm a'r Rhestr Bennu gysylltiedig, William Roberts oedd y tenant erbyn 1840 - a'r Parch. Hugh Rowlands yn berchennog.[2]

Ym 1865, William Roberts oedd tenant y felin ynghyd â 9 acer o dir. Miss Jane Rowlands oedd y perchennog.[3]

Mae mapiau Ordnans 1888, 1899, 1920 a 1948 i gyd yn dangos y felin fel un a oedd yn dal i droi. Roedd ffrwd felin yn cario dŵr i'r olwyn.

Mae'n eiddo bellach i Gymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni, [4] a throwyd yr adeilad yn fythynnod haf yn 2008-9, gan ei ehangu'n sylweddol. Roedd yr olwyn ddŵr ar dalcen yr adeilad lle mae balconi wedi ei osod erbyn hyn. Mae hen fwthyn y melinydd yn sefyll o hyd, mewn gardd tŷ arall gerllaw.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor B/1832/66; B/1850/96
  2. Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Clynnog Fawr [1], cyrchwyd 24.5.2021
  3. Llyfr rhenti Clynnog Fawr, 1865
  4. Gwefan y Gymdeithas: http://www.sgll.co.uk/page60.html. Gwelir yno luniau o'r felin fel mae'n ymddangos heddiw,
  5. Comisiwn Henebion Cymru: Coflein