Pont Tŷ'n-y-gors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Pont droed, neu bompren, yn croesi Afon Tâl yn Nhrefor yw '''Pont Ty'n Gors'''. Mae'n rhan o lwybr cyhoeddus sy'n cychwyn y tu ôl i res Tai Maesyneuadd...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:09, 3 Mawrth 2022
Pont droed, neu bompren, yn croesi Afon Tâl yn Nhrefor yw Pont Ty'n Gors.
Mae'n rhan o lwybr cyhoeddus sy'n cychwyn y tu ôl i res Tai Maesyneuadd ac sy'n dod i'r afon ymhen ychydig lathenni. Mae'r bompren yn agos iawn at ffermdy Ty'n Gors ac aiff y llwybr ymlaen wedyn drwy'r caeau gweddol serth nes cyrraedd ffermdy Lleiniau Hirion. Yna aiff ymlaen ymhellach am ychydig nes ymuno â Lôn 'r Eifl, fel y'i gelwir yn lleol, (sef y ffordd gul o Lanaelhaearn i Drefor gyda godrau'r Eifl), ger fferm Llwyn y Brig (Llwyn Pric ar lafar).