Morfa Dinlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Morfa Dinlle''' yw enw'r darn o dir a fu gynt yn dywod, glasdraeth a chors rhwng traeth [[Dinas Dinlle]] a'r [[Y Foryd|Foryd]] hyd at gyrion fferm Cefnhengwrt os nad yn bellach i gyfeiriad pentref [[Llandwrog]]. Fe'i amgaewyd trwy ddeddf seneddol (gan gychwyn ym 1808) ar ôl i bob un ond un o'r tirfeddiannwr o bwys ym mhlwyfi Llandwrog a [[Llanwnda]] (sef y bonwr [[Bodvel Roberts]]) gydsynio. Y nhw, wrth gwrs, a gafodd y rhan helaethaf o bell o'r tir a sychwyd fel caeau braf eang, er bod peth o'r tir wedi ei gadw fel porfa i drigolion mwy distadl y plwyfi.
'''Morfa Dinlle''' yw enw'r darn o dir a fu gynt yn dywod, glasdraeth a chors rhwng traeth [[Dinas Dinlle]] a'r [[Y Foryd|Foryd]], o'r môr agored hyd at gyrion fferm Cefnhengwrt, a hyd yn oed ymhellach i gyfeiriad pentref [[Llandwrog]]. Fe'i hamgaewyd trwy ddeddf seneddol (gan ddechrau ym 1808) ar ôl i'r holl dirfeddianwyr o bwys (namyn un) ym mhlwyfi Llandwrog a [[Llanwnda]] gydsynio. Yr unig un i wrthwynebu oedd y bonwr Bodvel Roberts. Y tirfeddianwyr, wrth gwrs, oedd yn elwa trwy ennill y rhan helaethaf o'r tir a sychwyd gan greu caeau braf eang, er bod peth o'r tir ymylol wedi ei gadw fel tir pori i drigolion mwy distadl y plwyfi.


Mae'r llwybrau a ffyrdd unionsyth ar draws y tir yn dyddio o'r amser hwnnw, oherwydd yr oedd angen i'r rai a gafodd y tir gael mynedfa at y tir a ddyrannwyd iddynt. Dylent i gyd, mae'n debyg, fod yn llwybrau cyhoeddus os nad yn lonydd gwyrdd hyd heddiw, ond bu peth cau ar lawer ohonynt.
Mae'r llwybrau a ffyrdd unionsyth ar draws y tir yn dyddio o'r amser hwnnw, oherwydd yr oedd angen i'r rhai a gafodd y tir gael mynediad hwylus at y tir a ddyrannwyd iddynt. Dylai'r llwybrau hyn i gyd, mae'n debyg, fod yn llwybrau cyhoeddus os nad yn lonydd glas hyd heddiw, ond bu peth cau ar lawer ohonynt, ac eraill wedi cau gyda thyfiant ers blynyddoedd.


Mae rhan o'r morfa ger pertref Dinas Dinlle bellach yn gadwrfa natur lle gwneir ymdrech arbennig gan yr RSPB i gynyddu nifer y cornchwiglod sy'n nythu yno - ymdrech sydd wedi cael cryn lwyddiant. Mae'r ardal hefyd yn nodedig fel un o'r ychydig leoedd erbyn hyn ar yr iseldir lleol lle clywir yr ehedydd yn canu.
Mae rhan o'r morfa ger pertref Dinas Dinlle bellach yn gadwrfa natur lle gwneir ymdrech arbennig gan yr RSPB i gynyddu nifer y cornchwiglod sy'n nythu yno - ymdrech sydd wedi cael cryn lwyddiant. Mae'r ardal hefyd yn nodedig fel un o'r ychydig leoedd ar yr iseldir lleol lle clywir yr ehedydd yn canu erbyn hyn.


Gwireddwyd sychu'r tiroedd gwlyb yn bennaf trwy godi [[Morglawdd Dinas Dinlle]]. Mae llawer mwy o hanes yr amgáu i'w weld ar y dudalen honno.
Gwireddwyd sychu'r tiroedd gwlyb yn bennaf trwy godi [[Morglawdd Dinas Dinlle]]. Mae llawer mwy o hanes yr amgáu i'w weld ar y dudalen honno.
Llinell 12: Llinell 12:
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Amaethyddiaeth]]
[[Categori:Amaethyddiaeth]]
[[Categori:Llwybrau cyhoeddus]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:29, 28 Chwefror 2022

Morfa Dinlle yw enw'r darn o dir a fu gynt yn dywod, glasdraeth a chors rhwng traeth Dinas Dinlle a'r Foryd, o'r môr agored hyd at gyrion fferm Cefnhengwrt, a hyd yn oed ymhellach i gyfeiriad pentref Llandwrog. Fe'i hamgaewyd trwy ddeddf seneddol (gan ddechrau ym 1808) ar ôl i'r holl dirfeddianwyr o bwys (namyn un) ym mhlwyfi Llandwrog a Llanwnda gydsynio. Yr unig un i wrthwynebu oedd y bonwr Bodvel Roberts. Y tirfeddianwyr, wrth gwrs, oedd yn elwa trwy ennill y rhan helaethaf o'r tir a sychwyd gan greu caeau braf eang, er bod peth o'r tir ymylol wedi ei gadw fel tir pori i drigolion mwy distadl y plwyfi.

Mae'r llwybrau a ffyrdd unionsyth ar draws y tir yn dyddio o'r amser hwnnw, oherwydd yr oedd angen i'r rhai a gafodd y tir gael mynediad hwylus at y tir a ddyrannwyd iddynt. Dylai'r llwybrau hyn i gyd, mae'n debyg, fod yn llwybrau cyhoeddus os nad yn lonydd glas hyd heddiw, ond bu peth cau ar lawer ohonynt, ac eraill wedi cau gyda thyfiant ers blynyddoedd.

Mae rhan o'r morfa ger pertref Dinas Dinlle bellach yn gadwrfa natur lle gwneir ymdrech arbennig gan yr RSPB i gynyddu nifer y cornchwiglod sy'n nythu yno - ymdrech sydd wedi cael cryn lwyddiant. Mae'r ardal hefyd yn nodedig fel un o'r ychydig leoedd ar yr iseldir lleol lle clywir yr ehedydd yn canu erbyn hyn.

Gwireddwyd sychu'r tiroedd gwlyb yn bennaf trwy godi Morglawdd Dinas Dinlle. Mae llawer mwy o hanes yr amgáu i'w weld ar y dudalen honno.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma