Chwarel Cilgwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Chwarel lechi a lethrau’r Cilgwyn, Dyffryn Nantlle oedd y lle hwn. Mae’n bosib iddo fod y chwarel hynaf yng Nghymru. ===Dyddiau cynnar=== O tua 1750...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 12 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwarel lechi | Chwarel lechi ar lethrau [[Mynydd Cilgwyn]], [[Dyffryn Nantlle]] oedd y lle hwn. Mae’n bosib mai hon oedd y chwarel hynaf yng Nghymru, ac wedi cael ei gweithio yn nyddiau'r Rhufeiniaid, ac yn y Canol Oesoedd. | ||
===Dyddiau cynnar=== | ===Dyddiau cynnar=== | ||
[[Delwedd:CilgwynQuarry.JPG|bawd|300px|de|Chwarel Cilgwyn yn 2006]] | |||
Erbyn 1745, roedd nifer o dyllau chwarel bychain ar lethrau Mynydd Cilgwyn, oedd yn dir y Goron. Rhoddwyd prydles y tiroedd hyn yn nwylo ysgweier Glynllifon, John Wynn, am gyfnod o 31 o flynyddoedd. Ceisiodd ddal ei brydles ar y tiroedd am gyfnod hir, ond ym 1776 collodd ei gyfle. Nid oedd fawr o reolaeth ar waith chwarelyddol 'answyddogol' oedd yn mynd ymlaen, gyda llawer o chwarelwyr-dyddynwyr yn gweithio'r mynydd ar eu liwt eu hunain. Erbyn 1791 roedd y brydles yn cael ei gosod gan y Goron i unrhyw rai a fyddai’n barod i weithio’r chwareli eu hunain. Roedd cyd-weithio'r tyllau hyn yn nwylo’r chwarelwyr eu hunain am gyfnod, a chredir iddynt gyfarfod mewn tafarndai ledled yr ardal i drafod y gwaith a thrafod cytundebau ac ati – rhywbeth unigryw iawn yn y cyfnod. Roedd enwau amrywiol ar y tyllau hyn, megis ‘Gloddfa Glytiau’, ‘Twll Morus Ifans’, ‘Cloddfa Bach’, ‘Cloddfa Ddwfr’ a ‘Limerick’. | |||
Erbyn 1800, roedd grŵp o dirfeddianwyr lleol wedi cymryd mantais ar gyfle i redeg y chwareli bychain | Erbyn 1800, roedd grŵp o dirfeddianwyr lleol wedi cymryd mantais ar gyfle i redeg y chwareli bychain hyn fel un fenter. Sefydlwyd ‘Cwmni Chwarelau Cilgwyn’ ym 1800, gyda les ar y chwarel o’r Goron. O ganlyniad i hyn, roedd llawer o wrthdaro rhwng y gweithiwyr a’r rheolwyr newydd. Roedd llawer o’r dynion hyn, a oedd wedi rheoli eu tyllau eu hunain ynghynt, bellach yn gorfod is-gontractio i’r meistri hyn a cholli llawer o’u helw. Roedd rhai grwpiau o’r gweithiwyr yn mynd yn erbyn y rhybuddion i gadw allan o’r chwareli, ac yn tresmasu i gario ymlaen gyda’r gwaith. | ||
Erbyn | Erbyn tua 1810, roedd trefn yn dechrau ffurfio yn y chwarel ac roedd yn un o brif ffynonellau cyflogaeth i ddynion yr ardal. | ||
===1850 ymlaen=== | ===1850 ymlaen=== | ||
Erbyn ail hanner y ganrif, roedd hanesion y tresmasu wedi distewi ac roedd y chwarel ar ei phrysuraf. Roedd yn cynhyrchu | Erbyn ail hanner y ganrif, roedd hanesion y tresmasu wedi distewi ac roedd y chwarel ar ei phrysuraf. Roedd yn cynhyrchu 7430 tunnell o lechi ym 1882, ac yn cyflogi o gwmpas 300 o ddynion. Cyfrannodd datblygiad y system rheilffordd newydd lawer at lwyddiant y chwarel hefyd, gan gynyddu’r galw am lechi Dyffryn Nantlle. | ||
Parhaodd i fod yn fan hanfodol o bwysig yn yr ardal, ond erbyn 1956 | Parhaodd i fod yn fan hanfodol o bwysig yn yr ardal, ond erbyn 1956 caewyd y chwarel oherwydd y gostyngiad mewn galw. | ||
===Defnydd diweddarach=== | |||
Yn y 1960au dechreuwyd defnyddio'r tyllau mawr fel arllwysfeydd ar gyfer ysbwriel yr ardal, ond erbyn troad y ganrif roedd y ddau dwll cyntaf yn llawn, a sylweddolwyd mai peth anghyfeillgar i'r amgylchedd oedd cael gwared ar ysbwriel yn y fath fodd. Gorchuddiwyd y tipiau â phridd. Erbyn hyn, a'r ysbwriel tanddaearol yn dal i bydru a gollwng nwyon, mae'r nwyon yn cael eu dal at bwrpas cynhyrchu ynni. | |||
{{eginyn}} | |||
==Ffynonellau== | ==Ffynonellau== | ||
Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llafar Gwlad, 2007) | Tomos, Dewi ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llafar Gwlad, 2007) | ||
Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', (Newton Abbot, 1974), t. 314. | |||
[https://cy.wikipedia.org/wiki/Chwarel_y_Cilgwyn Egin ar hanes y Chwarel ar Wicipedia] | [https://cy.wikipedia.org/wiki/Chwarel_y_Cilgwyn Egin ar hanes y Chwarel ar Wicipedia] | ||
Llinell 22: | Llinell 30: | ||
[http://www.coflein.gov.uk/en/site/400647/details/cilgwyn-slate-quarry-s Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol] | [http://www.coflein.gov.uk/en/site/400647/details/cilgwyn-slate-quarry-s Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol] | ||
[[Categori: Diwydiant]] | [[Categori: Diwydiant a Masnach]] | ||
[[Categori: Chwareli llechi]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:26, 20 Chwefror 2022
Chwarel lechi ar lethrau Mynydd Cilgwyn, Dyffryn Nantlle oedd y lle hwn. Mae’n bosib mai hon oedd y chwarel hynaf yng Nghymru, ac wedi cael ei gweithio yn nyddiau'r Rhufeiniaid, ac yn y Canol Oesoedd.
Dyddiau cynnar
Erbyn 1745, roedd nifer o dyllau chwarel bychain ar lethrau Mynydd Cilgwyn, oedd yn dir y Goron. Rhoddwyd prydles y tiroedd hyn yn nwylo ysgweier Glynllifon, John Wynn, am gyfnod o 31 o flynyddoedd. Ceisiodd ddal ei brydles ar y tiroedd am gyfnod hir, ond ym 1776 collodd ei gyfle. Nid oedd fawr o reolaeth ar waith chwarelyddol 'answyddogol' oedd yn mynd ymlaen, gyda llawer o chwarelwyr-dyddynwyr yn gweithio'r mynydd ar eu liwt eu hunain. Erbyn 1791 roedd y brydles yn cael ei gosod gan y Goron i unrhyw rai a fyddai’n barod i weithio’r chwareli eu hunain. Roedd cyd-weithio'r tyllau hyn yn nwylo’r chwarelwyr eu hunain am gyfnod, a chredir iddynt gyfarfod mewn tafarndai ledled yr ardal i drafod y gwaith a thrafod cytundebau ac ati – rhywbeth unigryw iawn yn y cyfnod. Roedd enwau amrywiol ar y tyllau hyn, megis ‘Gloddfa Glytiau’, ‘Twll Morus Ifans’, ‘Cloddfa Bach’, ‘Cloddfa Ddwfr’ a ‘Limerick’.
Erbyn 1800, roedd grŵp o dirfeddianwyr lleol wedi cymryd mantais ar gyfle i redeg y chwareli bychain hyn fel un fenter. Sefydlwyd ‘Cwmni Chwarelau Cilgwyn’ ym 1800, gyda les ar y chwarel o’r Goron. O ganlyniad i hyn, roedd llawer o wrthdaro rhwng y gweithiwyr a’r rheolwyr newydd. Roedd llawer o’r dynion hyn, a oedd wedi rheoli eu tyllau eu hunain ynghynt, bellach yn gorfod is-gontractio i’r meistri hyn a cholli llawer o’u helw. Roedd rhai grwpiau o’r gweithiwyr yn mynd yn erbyn y rhybuddion i gadw allan o’r chwareli, ac yn tresmasu i gario ymlaen gyda’r gwaith.
Erbyn tua 1810, roedd trefn yn dechrau ffurfio yn y chwarel ac roedd yn un o brif ffynonellau cyflogaeth i ddynion yr ardal.
1850 ymlaen
Erbyn ail hanner y ganrif, roedd hanesion y tresmasu wedi distewi ac roedd y chwarel ar ei phrysuraf. Roedd yn cynhyrchu 7430 tunnell o lechi ym 1882, ac yn cyflogi o gwmpas 300 o ddynion. Cyfrannodd datblygiad y system rheilffordd newydd lawer at lwyddiant y chwarel hefyd, gan gynyddu’r galw am lechi Dyffryn Nantlle. Parhaodd i fod yn fan hanfodol o bwysig yn yr ardal, ond erbyn 1956 caewyd y chwarel oherwydd y gostyngiad mewn galw.
Defnydd diweddarach
Yn y 1960au dechreuwyd defnyddio'r tyllau mawr fel arllwysfeydd ar gyfer ysbwriel yr ardal, ond erbyn troad y ganrif roedd y ddau dwll cyntaf yn llawn, a sylweddolwyd mai peth anghyfeillgar i'r amgylchedd oedd cael gwared ar ysbwriel yn y fath fodd. Gorchuddiwyd y tipiau â phridd. Erbyn hyn, a'r ysbwriel tanddaearol yn dal i bydru a gollwng nwyon, mae'r nwyon yn cael eu dal at bwrpas cynhyrchu ynni.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Ffynonellau
Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llafar Gwlad, 2007)
Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t. 314.