Botticelli Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 25 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Boticelli Glynllifon2.jpg|bawd|de|500px|Y Botticelli oedd yn hongian yng Nglynllifon]]
[[Delwedd:Boticelli Glynllifon2.jpg|bawd|de|500px|Y Botticelli oedd yn hongian yng Nglynllifon]]


Yr oedd un o weithiau mwyaf eiconig yr artist Eidalaidd Botticelli'n eiddo i'r [[Arglwyddi Newborough]] am ganrif a mwy, yn hongian mewn ystafell ochr neu lobi ym [[Plas Glynllifon|Mhlas Glynllifon]], a dichon nad oedd y teulu'n sylweddoli maint y trysor oedd ganddynt - trysor mwy gwerthfawr, debyg, na'r grochan lawn aur y dywedir i sefydlydd y teulu, [[Cilmin Droed-ddu]], gael hyd iddi ar ochr mynydd.
Yr oedd un o weithiau mwyaf eiconig yr artist Eidalaidd '''Sandro Botticelli''', ''Dyn Ifanc yn Dal Cylchig'', yn eiddo i'r [[Arglwyddi Newborough]], efallai am ganrif a mwy. Bu'n hongian mewn ystafell ochr neu lobi ym [[Plas Glynllifon|Mhlas Glynllifon]], a dichon nad oedd y teulu'n sylweddoli maint y trysor oedd ganddynt - trysor mwy gwerthfawr, debyg, na'r crochan llawn aur y dywedir i sefydlydd y teulu, [[Cilmin Droed-ddu]], gael hyd iddo ar ochr mynydd. Mae'r portread yn dyddio o'r 1470-80au. Mae un o arbenigwyr Sotheby's wedi disgrifio ei bwysigrwydd yn hanes celf cain fel a ganlyn<ref>Gwefan Sotheby's [https://www.sothebys.com/en/articles/the-ultimate-renaissance-portrait], cyrchwyd 28.10.2020</ref>:


Pan gwerthwyd llawer o gynnwys y Plas ym 1932 mewn ocsiwn, fe brynwyd y llun gan un oedd yn delio mewn lluniau, gan ei werthu i gasglwr preifat. Gwerthodd hwnnw'r llun mewn ocsiwn am £810,000. Am flynyddoedd roedd y llun ar fenthyg i'w ddangos yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Gelf yn Efrog Newydd, yr Oriel Gelf Genedlaethol yn Washington (DC) ac Amgueddfa Städel yn Frankfurt, yr Almaen. Bydd yn cael ei werthu eto, yn ocsiwn Sotheby's yn Efrog Newydd fis Ionawr 2021, pan disgwylir iddo gael ei werthu eto, a hynny am $80 miliwn neu fwy.
“Mae ''Dyn Ifanc yn Dal Cylchig'' yn grynhoad mewn llun o ddelfrydau, hud a harddwch Fflorens adeg y Dadeni, adeg - am y tro cyntaf ers yr Oes Glasurol - pan oedd yr unigolyn a'r corff dynol yn ganolog i fywyd a chelf fel ei gilydd, ac yn ffactorau a fyddent yn nes ymlaen yn diffinio ein dealltwriaeth o ddyneiddiaeth fel yr ydym yn ei deall heddiw. Roedd Botticelli ar flaen y gad yn hyn o beth, ac roedd ei arddull chwyldroadol yn peri iddo fod yn un o'r artistiaid cyntaf i ymadael â'r traddodiad o baentio pobl mewn ''silhouette''. Ond eto, er ei fod yn ymgorffori Dadeni Fflorens, mae'r llun yn hollol fodern o ran ei symlrwydd diaddurn, ei liwiau llachar a'i linoledd graffig."
 
Mewn termau llai technegol, disgrifiad Catalog Sotheby oedd "the ultimate Renaissance portrait" ac roedd yn uchafbwynt arwerthiant lluniau'r hen feistri yn Efrog Newydd yn Ionawr 2021.
 
Mae'n llun nodedig nid yn unig oherwydd ei grefft, ond hefyd ei brinder - nid oes ond deuddeg o bortreadau gan Botticelli'n hysbys. Nid oes sicrwydd ynglŷn â phwy oedd y dyn ifanc yn y portread, ond honnir gan rai mai Giovanni di Pierfrancesco de’ Medici, brawd Lorenzo de' Medici, un o noddwyr yr artist, oedd o. Nodwedd unigryw y llun yw'r cylchig neu darian gron sydd yn llaw'r dyn ifanc. Llun gwreiddiol gan artist cynharach, efallai Bartolommeo Bulgarini o Sienna, ydyw, wedi ei asio i'r panel a ddefnyddiwyd gan Botticelli i wneud ei bortread yntau.<ref>Gwefan ''Fine Art Conniosseur'' [https://fineartconnoisseur.com/2020/10/upcoming-auction-botticellis-young-man-holding-a-roundel/], cyrchwyd 28.10.2020</ref>
 
Prynwyd y llun mewn ocsiwn pan werthwyd llawer o gynnwys y Plas 23-27 Awst 1932, wedi i [[Frederick George Wynn]], mab iau'r 3ydd Arglwydd farw. Y prynwr oedd un oedd yn delio mewn lluniau, ac mi wnaeth hwnnw ei werthu, mae'n debyg, i gasglwr preifat, Frank Sabin, rhwng 1935 a 1938 am £12000. Gwerthodd Sabin y llun i gasglwr arall, Sir Thomas Ralph Merton, am £17000.  Gwerthodd hwnnw'r llun drachefn mewn ocsiwn ym 1982 am £810,000. Am flynyddoedd roedd y llun ar fenthyg i sefydliadau cyhoeddus, ac yn cael ei arddangos yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain, yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn Efrog Newydd, yr Oriel Gelf Genedlaethol yn Washington (DC) ac Amgueddfa Städel yn Frankfurt, yr Almaen. Mae'r ddelwedd ei hun yn ddigon cyfarwydd, gyda phrintiau rhad ar gael yn rhwydd ar y we.
 
Cafodd y llun ei werthu eto, yn ocsiwn Sotheby's yn Efrog Newydd, fis Ionawr 2021, pan ddisgwylid iddo gael ei werthu am $80 miliwn neu fwy. Yn y diwedd, fe'i gwerthwyd am $92.2 miliwn, sy'n golygu mai hwn oedd yr ail lun drutaf gan yr arlunwyr a elwir yn "hen feistri" i gael ei werthu erioed. Dim ond llun gan Michaelangelo aeth am bris uwch.<ref>Gwefan ''The Collector'' [https://www.thecollector.com/sandro-botticelli-young-man-holding-a-roundel-sothebys-auction/], cyrchwyd 28.10.2020</ref>
 
Fe erys y cwestiwn, fodd bynnag, sut y daeth llun gan un o arlunwyr cynnar yr Eidal i hongian yn ddisylw ar wal ym mhlas Glynllifon. Tybir gan yr arbenigwyr arlunio mai [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]] ddaeth â'r llun adref gydag ef pan ddychwelodd o'i hunan-alltudiaeth yn yr Eidal lle ffodd i osgoi ei gredydwyr gan ei fod mewn dyled. Yno, ym 1786, fe briododd â [[Maria Stella Petronella Chiappini]], hogan ifanc iawn a oedd yn ferch i geidwad carchar yn Nhyscani, cyn dychwelyd ym 1792 i'w ystadau yng Ngogledd Cymru. Tybir ymhellach gan rai mai anrheg briodas oddi wrth Uwch-ddug Fflorens oedd y llun, ond prin bod hynny'n wir: roedd Newborough yn codi cywilydd arno ef ei hun a'i ddosbarth aristocrataidd trwy ei ymddygiad cyffredinol a thrwy briodi merch mor ifanc ac o ddosbarth mor ddistadl.<ref>Richard Stapleford, ''Boticelli's portrait of a young man holding a trecento medallion'' (The Burlington Magazine, Cyf. 129 (1987)), t. 428 </ref> Hyd y gwyddys, fodd bynnag, nid oes prawf fod y llun wedi cyrraedd Cymru gyda'r Arglwydd Cyntaf ar ei ddychweliad ym 1792. Hefyd, bu tân difrifol ym Mhlas Glynllifon ym 1834, er ei bod yn bosibl na chafodd y llun ei ddinistrio (a bwrw ei fod yno erbyn hynny). Ymysg llythyrau [[Teulu Glynllifon]]<ref>Yn Archifdy Caernarfon, Papurau Newborough, Adran Glynllifon XD2</ref>, ceir nifer o lythyrau at y teulu yn cynnig gwerthu eitemau cain iddynt - roedd ambell i Eidalwr yn credu fod y "milord" a oedd wedi bod yn byw yn eu mysg â diddordeb mewn pethau Eidalaidd - ac wrth gwrs, roedd meibion Maria Stella, [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough]], a fu farw ym 1832, a'i frawd iau, [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]], â diddordeb yn eu tras Eidalaidd a chydag arian i brynu celf o'r wlad honno. Wedi'r cwbl, roedd Spencer Bulkeley nid yn unig yn fab i Maria Stella, ond roedd Fanny de Winton, ei wraig, yn nith iddi. Dichon, felly, oni ddaw tystiolaeth bendant i'r fei, y gallai'r llun fod wedi cyrraedd rywbryd yn ystod y 19g. Yn sicr, anfonodd Maria Stella ei hun luniau at ei mab yn ystod y 1830au pan oedd hi'n byw ym Mharis, ac mor hwyr ag 1871, prynodd Arglwydd Newborough luniau yn Llundain gan un J. Wilson, efallai John H. Wilson, y tirlunydd o'r Alban, a llun gan William Knell, yr arlunydd golygfeydd morwrol.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/4161, 4164, 9464, 9516</ref>
 
[[Delwedd:Sandro Botticelli - La nascita di Venere - Google Art Project - edited.jpg|bawd|500px|chwith|Genedigaeth Fenws gan Sandro Botticelli]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Artistiaid]]
[[Categori:Amryw]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:20, 17 Chwefror 2022

Y Botticelli oedd yn hongian yng Nglynllifon

Yr oedd un o weithiau mwyaf eiconig yr artist Eidalaidd Sandro Botticelli, Dyn Ifanc yn Dal Cylchig, yn eiddo i'r Arglwyddi Newborough, efallai am ganrif a mwy. Bu'n hongian mewn ystafell ochr neu lobi ym Mhlas Glynllifon, a dichon nad oedd y teulu'n sylweddoli maint y trysor oedd ganddynt - trysor mwy gwerthfawr, debyg, na'r crochan llawn aur y dywedir i sefydlydd y teulu, Cilmin Droed-ddu, gael hyd iddo ar ochr mynydd. Mae'r portread yn dyddio o'r 1470-80au. Mae un o arbenigwyr Sotheby's wedi disgrifio ei bwysigrwydd yn hanes celf cain fel a ganlyn[1]:

“Mae Dyn Ifanc yn Dal Cylchig yn grynhoad mewn llun o ddelfrydau, hud a harddwch Fflorens adeg y Dadeni, adeg - am y tro cyntaf ers yr Oes Glasurol - pan oedd yr unigolyn a'r corff dynol yn ganolog i fywyd a chelf fel ei gilydd, ac yn ffactorau a fyddent yn nes ymlaen yn diffinio ein dealltwriaeth o ddyneiddiaeth fel yr ydym yn ei deall heddiw. Roedd Botticelli ar flaen y gad yn hyn o beth, ac roedd ei arddull chwyldroadol yn peri iddo fod yn un o'r artistiaid cyntaf i ymadael â'r traddodiad o baentio pobl mewn silhouette. Ond eto, er ei fod yn ymgorffori Dadeni Fflorens, mae'r llun yn hollol fodern o ran ei symlrwydd diaddurn, ei liwiau llachar a'i linoledd graffig."

Mewn termau llai technegol, disgrifiad Catalog Sotheby oedd "the ultimate Renaissance portrait" ac roedd yn uchafbwynt arwerthiant lluniau'r hen feistri yn Efrog Newydd yn Ionawr 2021.

Mae'n llun nodedig nid yn unig oherwydd ei grefft, ond hefyd ei brinder - nid oes ond deuddeg o bortreadau gan Botticelli'n hysbys. Nid oes sicrwydd ynglŷn â phwy oedd y dyn ifanc yn y portread, ond honnir gan rai mai Giovanni di Pierfrancesco de’ Medici, brawd Lorenzo de' Medici, un o noddwyr yr artist, oedd o. Nodwedd unigryw y llun yw'r cylchig neu darian gron sydd yn llaw'r dyn ifanc. Llun gwreiddiol gan artist cynharach, efallai Bartolommeo Bulgarini o Sienna, ydyw, wedi ei asio i'r panel a ddefnyddiwyd gan Botticelli i wneud ei bortread yntau.[2]

Prynwyd y llun mewn ocsiwn pan werthwyd llawer o gynnwys y Plas 23-27 Awst 1932, wedi i Frederick George Wynn, mab iau'r 3ydd Arglwydd farw. Y prynwr oedd un oedd yn delio mewn lluniau, ac mi wnaeth hwnnw ei werthu, mae'n debyg, i gasglwr preifat, Frank Sabin, rhwng 1935 a 1938 am £12000. Gwerthodd Sabin y llun i gasglwr arall, Sir Thomas Ralph Merton, am £17000. Gwerthodd hwnnw'r llun drachefn mewn ocsiwn ym 1982 am £810,000. Am flynyddoedd roedd y llun ar fenthyg i sefydliadau cyhoeddus, ac yn cael ei arddangos yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain, yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn Efrog Newydd, yr Oriel Gelf Genedlaethol yn Washington (DC) ac Amgueddfa Städel yn Frankfurt, yr Almaen. Mae'r ddelwedd ei hun yn ddigon cyfarwydd, gyda phrintiau rhad ar gael yn rhwydd ar y we.

Cafodd y llun ei werthu eto, yn ocsiwn Sotheby's yn Efrog Newydd, fis Ionawr 2021, pan ddisgwylid iddo gael ei werthu am $80 miliwn neu fwy. Yn y diwedd, fe'i gwerthwyd am $92.2 miliwn, sy'n golygu mai hwn oedd yr ail lun drutaf gan yr arlunwyr a elwir yn "hen feistri" i gael ei werthu erioed. Dim ond llun gan Michaelangelo aeth am bris uwch.[3]

Fe erys y cwestiwn, fodd bynnag, sut y daeth llun gan un o arlunwyr cynnar yr Eidal i hongian yn ddisylw ar wal ym mhlas Glynllifon. Tybir gan yr arbenigwyr arlunio mai Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough ddaeth â'r llun adref gydag ef pan ddychwelodd o'i hunan-alltudiaeth yn yr Eidal lle ffodd i osgoi ei gredydwyr gan ei fod mewn dyled. Yno, ym 1786, fe briododd â Maria Stella Petronella Chiappini, hogan ifanc iawn a oedd yn ferch i geidwad carchar yn Nhyscani, cyn dychwelyd ym 1792 i'w ystadau yng Ngogledd Cymru. Tybir ymhellach gan rai mai anrheg briodas oddi wrth Uwch-ddug Fflorens oedd y llun, ond prin bod hynny'n wir: roedd Newborough yn codi cywilydd arno ef ei hun a'i ddosbarth aristocrataidd trwy ei ymddygiad cyffredinol a thrwy briodi merch mor ifanc ac o ddosbarth mor ddistadl.[4] Hyd y gwyddys, fodd bynnag, nid oes prawf fod y llun wedi cyrraedd Cymru gyda'r Arglwydd Cyntaf ar ei ddychweliad ym 1792. Hefyd, bu tân difrifol ym Mhlas Glynllifon ym 1834, er ei bod yn bosibl na chafodd y llun ei ddinistrio (a bwrw ei fod yno erbyn hynny). Ymysg llythyrau Teulu Glynllifon[5], ceir nifer o lythyrau at y teulu yn cynnig gwerthu eitemau cain iddynt - roedd ambell i Eidalwr yn credu fod y "milord" a oedd wedi bod yn byw yn eu mysg â diddordeb mewn pethau Eidalaidd - ac wrth gwrs, roedd meibion Maria Stella, Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, a fu farw ym 1832, a'i frawd iau, Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, â diddordeb yn eu tras Eidalaidd a chydag arian i brynu celf o'r wlad honno. Wedi'r cwbl, roedd Spencer Bulkeley nid yn unig yn fab i Maria Stella, ond roedd Fanny de Winton, ei wraig, yn nith iddi. Dichon, felly, oni ddaw tystiolaeth bendant i'r fei, y gallai'r llun fod wedi cyrraedd rywbryd yn ystod y 19g. Yn sicr, anfonodd Maria Stella ei hun luniau at ei mab yn ystod y 1830au pan oedd hi'n byw ym Mharis, ac mor hwyr ag 1871, prynodd Arglwydd Newborough luniau yn Llundain gan un J. Wilson, efallai John H. Wilson, y tirlunydd o'r Alban, a llun gan William Knell, yr arlunydd golygfeydd morwrol.[6]

Genedigaeth Fenws gan Sandro Botticelli

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Sotheby's [1], cyrchwyd 28.10.2020
  2. Gwefan Fine Art Conniosseur [2], cyrchwyd 28.10.2020
  3. Gwefan The Collector [3], cyrchwyd 28.10.2020
  4. Richard Stapleford, Boticelli's portrait of a young man holding a trecento medallion (The Burlington Magazine, Cyf. 129 (1987)), t. 428
  5. Yn Archifdy Caernarfon, Papurau Newborough, Adran Glynllifon XD2
  6. Archifdy Gwynedd, XD2/4161, 4164, 9464, 9516