Ysgol Llandwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae'n amlwg bod rhyw fath ar ysgol yn bodoli (yn ôl pob tebyg yn yr [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog]]) er nad oes sicrwydd mai '''Ysgol Llandwrog''' oedd yr enw ar yr ysgol. Mae enw ysgolfeistr yn ymddangos yng nghofrestrau plwyf mwy nag unwaith yn yr 18g hwyr. Ym 1789, enwir David Wilson, Ffrwd, yn dad i ferch o'r enw Mary, plentyn siawns Ellin Parry o [[Collfryn Mawr|Gollfryn Mawr]]; fe'i bedyddiwyd 25 Ionawr 1789 ond ysywaeth fe'i chladdwyd 8 Mai yr un flwyddyn. Dichon bod Wilson wedi gwneud "y peth anrhydeddus" ac wedi priodi'r Ellin honno, gan ei fod o a'i wraig Ellin yn bedyddio mab, John, y mis Ionawr canlynol er i hwnnw eto'n farw'n fabi. <ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1789-90</ref>
Mae'n amlwg bod rhyw fath o ysgol yn bodoli ym mhentref Llandwrog yn y ddeunawfed ganrif (yn ôl pob tebyg yn [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog]]) er nad oes sicrwydd mai '''Ysgol Llandwrog''' oedd yr enw ar yr ysgol honno. Mae enw ysgolfeistr yn ymddangos yng nghofrestrau'r plwyf fwy nag unwaith yn niwedd y 18g. Ym 1789, enwir David Wilson, Ffrwd, ysgolfeistr, fel tad i ferch o'r enw Mary, plentyn siawns Ellin Parry o [[Collfryn Mawr|Gollfryn Mawr]]; fe'i bedyddiwyd 25 Ionawr 1789 ond ysywaeth fe'i claddwyd 8 Mai yr un flwyddyn. Dichon bod Wilson wedi gwneud "y peth anrhydeddus" ac wedi priodi'r Ellin honno, gan ei fod o a'i wraig Ellin yn bedyddio mab, John, y mis Ionawr canlynol er i hwnnw eto'n farw'n fabi. <ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1789-90</ref> Un arall a fu'n cadw ysgol yn [[Dolydd|Dolydd Byrion]] ym mhlwyf Llandwrog am gyfnod cymharol fyr ddiwedd y 18g neu ddechrau'r 19g oedd y bardd [[David Thomas (Dafydd Ddu Eryri)]] (1759-1822). 
 
Sefydlwyd ysgol dan nawdd y Gymdeithas Ysgolion Genedlaethol, a chyda chefnogaeth sylweddol [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]] a oedd yn awyddus i ddatblygu pentref [[Llandwrog]] fel [[Pentref model|pentref model]]. Dylunwyd adeilad pwrpasol gan y pensaer eglwysig, [[Henry Kennedy]].<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/871-2</ref> Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1854 fel ysgol yr eglwys, ac mae'n weithredol hyd heddiw fel ysgol y pentref, ac yn dal yn gysylltiedig â'r Eglwys yng Nghymru. Enw gwreiddiol yr ysgol oedd ''Llandwrog National School''.<ref>Llyfrau Log Ysgol Gynradd Llandwrog (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/72''' [1864-1965]</ref>
 
Yn ei ddyddiadur am 8 Hydref 1836 dywed Eben Fardd iddo fynd ag 8 o blant o'i ddosbarth cyntaf i ysgoldy Llandwrog i'w holi, ynghyd â phlant Ysgol Llandwrog, gan y Deon Cotton o Fangor. Roedd hwn yn achlysur blynyddol mewn ysgolion eglwysig pan fyddai'r Deon yn holi'r plant am Gatecism yr Eglwys a'r hyn y gwnaethant ei ddysgu yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, siomedig fu'r diwrnod yma i Eben gan i blant Llandwrog ateb cwestiynau'r Deon dipyn yn well na phlant Clynnog. Fodd bynnag, cafodd plant Clynnog fân wobrau, yn amrywio o dair ceiniog i ddimai yr un. Dywed Eben hefyd ei fod wedi prynu gwerth pedair ceiniog o fara a chwart o gwrw iddynt a thalu am hynny o'i boced ei hun!


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}
Llinell 5: Llinell 9:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Addysg]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:00, 17 Chwefror 2022

Mae'n amlwg bod rhyw fath o ysgol yn bodoli ym mhentref Llandwrog yn y ddeunawfed ganrif (yn ôl pob tebyg yn Eglwys Sant Twrog, Llandwrog) er nad oes sicrwydd mai Ysgol Llandwrog oedd yr enw ar yr ysgol honno. Mae enw ysgolfeistr yn ymddangos yng nghofrestrau'r plwyf fwy nag unwaith yn niwedd y 18g. Ym 1789, enwir David Wilson, Ffrwd, ysgolfeistr, fel tad i ferch o'r enw Mary, plentyn siawns Ellin Parry o Gollfryn Mawr; fe'i bedyddiwyd 25 Ionawr 1789 ond ysywaeth fe'i claddwyd 8 Mai yr un flwyddyn. Dichon bod Wilson wedi gwneud "y peth anrhydeddus" ac wedi priodi'r Ellin honno, gan ei fod o a'i wraig Ellin yn bedyddio mab, John, y mis Ionawr canlynol er i hwnnw eto'n farw'n fabi. [1] Un arall a fu'n cadw ysgol yn Dolydd Byrion ym mhlwyf Llandwrog am gyfnod cymharol fyr ddiwedd y 18g neu ddechrau'r 19g oedd y bardd David Thomas (Dafydd Ddu Eryri) (1759-1822).

Sefydlwyd ysgol dan nawdd y Gymdeithas Ysgolion Genedlaethol, a chyda chefnogaeth sylweddol Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough a oedd yn awyddus i ddatblygu pentref Llandwrog fel pentref model. Dylunwyd adeilad pwrpasol gan y pensaer eglwysig, Henry Kennedy.[2] Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1854 fel ysgol yr eglwys, ac mae'n weithredol hyd heddiw fel ysgol y pentref, ac yn dal yn gysylltiedig â'r Eglwys yng Nghymru. Enw gwreiddiol yr ysgol oedd Llandwrog National School.[3]

Yn ei ddyddiadur am 8 Hydref 1836 dywed Eben Fardd iddo fynd ag 8 o blant o'i ddosbarth cyntaf i ysgoldy Llandwrog i'w holi, ynghyd â phlant Ysgol Llandwrog, gan y Deon Cotton o Fangor. Roedd hwn yn achlysur blynyddol mewn ysgolion eglwysig pan fyddai'r Deon yn holi'r plant am Gatecism yr Eglwys a'r hyn y gwnaethant ei ddysgu yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, siomedig fu'r diwrnod yma i Eben gan i blant Llandwrog ateb cwestiynau'r Deon dipyn yn well na phlant Clynnog. Fodd bynnag, cafodd plant Clynnog fân wobrau, yn amrywio o dair ceiniog i ddimai yr un. Dywed Eben hefyd ei fod wedi prynu gwerth pedair ceiniog o fara a chwart o gwrw iddynt a thalu am hynny o'i boced ei hun!

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1789-90
  2. Archifdy Caernarfon, XD2A/871-2
  3. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Llandwrog (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/72 [1864-1965]