Ysgol Rhostryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgol addysg gynradd ym mhentref [[Rhostryfan]] yw '''Ysgol Gynradd Rhostryfan'''. Nid hon oedd yr ysgol gyntaf ar gyfer plant yn y pentref gan fod [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]], mae'n ymddangos, wedi ceisio gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer y gymdogaeth cyn hynny. Cynhelid ysgol yn llofft tŷ capel Horeb gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y [[Bontnewydd]] tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym [[Melin Forgan]] ger [[Capel Bryn'rodyn]].
Ysgol addysg gynradd ym mhentref [[Rhostryfan]] yw '''Ysgol Gynradd Rhostryfan'''. Nid hon oedd yr ysgol gyntaf ar gyfer plant y pentref gan fod [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]], mae'n ymddangos, wedi ceisio gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer y gymdogaeth cyn hynny. Cynhelid [[Ysgol Capel Horeb, Rhostryfan|ysgol]] yn llofft tŷ capel Horeb i ddechrau, wedyn yn y capel ei hun ac wedyn, rhwng 1840 ac 1870, mewn adeilad a godwyd at y pwrpas.  


Ym 1849, penderfynodd y capel y dylid ceisio sefydlu ysgol mwy effeithiol, a chafwyd gwasanaeth Benjamin Rogers fel ysgolfeistr, a ddaeth o Abergele i Rostryfan. Am rai blynyddoedd cynhelid yr ysgol yn y capel nes adeiladu ysgoldy newydd ym 1855, gyda lle ar gyfer 100 o blant. Ariannwyd yr adeilad yn llwyr gan y capel heb grant, gan nad oedd yn cydymffurfio, ysywaeth, aâ gofynion yr awdurdodau.
Agorwyd ysgol Frytanaidd ddiwedd 1870 mewn adeilad pwrpasol newydd, ac mae'n agored hyd heddiw. Gelwid yr ysgol yn ''Rhostryfan British School'' (h.y. ysgol na noddwyd gan yr Eglwys Wladol ond gan gorff annibynnol) cyn cael ei throi'n ''Rhostryfan Board School'' yn ddiweddarach yn y 19g.<ref>Llyfrau Log Ysgol Gynradd Rhostryfan (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/118''' [1867-1934]</ref> Am flynyddoedd lawer ar ddechrau'r 20g, y prifathro oedd yr hanesydd lleol [[W. Gilbert Williams]], dyn a hanodd o'r pentref. Tua 1980, ymestynnwyd yr adeilad trwy godi neuadd newydd at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned fel ei gilydd gan nad oedd neuadd bentref yn Rhostryfan cyn hynny.
 
Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1867, ac mae hi ar agor hyd heddiw. Gelwid yr ysgol yn ''Rhostryfan British School'' (h.y. ysgol na noddwyd gan yr Eglwys ond gan gorff annibynnol) cyn cael ei droi'n ''Rhostryfan Board School'' yn y 19g.<ref>Llyfrau Log Ysgol Gynradd Rhostryfan (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/118''' [1867-1934]</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:51, 15 Chwefror 2022

Ysgol addysg gynradd ym mhentref Rhostryfan yw Ysgol Gynradd Rhostryfan. Nid hon oedd yr ysgol gyntaf ar gyfer plant y pentref gan fod Capel Horeb (MC), Rhostryfan, mae'n ymddangos, wedi ceisio gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer y gymdogaeth cyn hynny. Cynhelid ysgol yn llofft tŷ capel Horeb i ddechrau, wedyn yn y capel ei hun ac wedyn, rhwng 1840 ac 1870, mewn adeilad a godwyd at y pwrpas.

Agorwyd ysgol Frytanaidd ddiwedd 1870 mewn adeilad pwrpasol newydd, ac mae'n agored hyd heddiw. Gelwid yr ysgol yn Rhostryfan British School (h.y. ysgol na noddwyd gan yr Eglwys Wladol ond gan gorff annibynnol) cyn cael ei throi'n Rhostryfan Board School yn ddiweddarach yn y 19g.[1] Am flynyddoedd lawer ar ddechrau'r 20g, y prifathro oedd yr hanesydd lleol W. Gilbert Williams, dyn a hanodd o'r pentref. Tua 1980, ymestynnwyd yr adeilad trwy godi neuadd newydd at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned fel ei gilydd gan nad oedd neuadd bentref yn Rhostryfan cyn hynny.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Rhostryfan (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/118 [1867-1934]