Tom Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 6: Llinell 6:


Roedd  Y Prifardd '''Tom Huws''' (1910-1992) yn frodor o'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Cafodd ei eni 30 Mai 1910, i deulu uniaith Gymraeg, yn fab i Thomas Hughes ac Ellen ei wraig
Roedd  Y Prifardd '''Tom Huws''' (1910-1992) yn frodor o'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Cafodd ei eni 30 Mai 1910, i deulu uniaith Gymraeg, yn fab i Thomas Hughes ac Ellen ei wraig
<ref>Cyfrifiad Plwyf Llandwrog 1911</ref> - er mai fel Elin y'i hadnabyddid hi gan bawb. Daeth drasiedi i ran y teulu pan farwodd Elin y fam o'r diciáu yn 35 oed pan nad oedd Tom ond 5 oed. Ailbriododd y tad o fewn ychydig â chyfnither Elin, sef Lizzie, a chafwyd sawl plentyn o'r uniad hwnnw.     
<ref>Cyfrifiad Plwyf Llandwrog 1911</ref> - er mai fel Elin yr adwaenid hi gan bawb. Daeth trychineb i ran y teulu pan fu farw Elin y fam o'r diciáu yn 35 oed pan nad oedd Tom ond 5 oed. Ailbriododd y tad o fewn ychydig â chyfnither Elin, sef Lizzie, a chafwyd sawl plentyn o'r uniad hwnnw.     


Fe'i fedyddiwyd yn Thomas Griffith Hughes, er mai Tom Huws fuodd o i bawb erioed. Cartref y teulu yn y Groeslon oedd Dolnenan, ac roedd ganddo ddau frawd hŷn, David (neu Dafydd) ac Owen. Chwarelwr oedd y tad, ond "dyn ceffylau" oedd Tom ac fe adawodd ei gartref yn 14 oed i weithio mewn stablau ac fel joci. Yn y man, ac yntau'n 18 oed, fe ymunodd â Bataliwn y Marchfagnelau Brenhinol (''Royal Horse Artillery'') a gwasanaethodd gyda'r bataliwn yn yr Aifft am gyfnod. Bu gyda nhw tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Hoffai adrodd straeon am ei amser yn gofalu am geffylau'r fyddin.  
Fe'i bedyddiwyd yn Thomas Griffith Hughes, er mai Tom Huws fuodd o i bawb erioed. Cartref y teulu yn Y Groeslon oedd Dolnenan, ac roedd ganddo ddau frawd hŷn, David (neu Dafydd) ac Owen. Chwarelwr oedd y tad, ond "dyn ceffylau" oedd Tom ac fe adawodd ei gartref yn 14 oed i weithio mewn stablau ac fel joci. Yn y man, ac yntau'n 18 oed, fe ymunodd â Bataliwn y Marchfagnelau Brenhinol (''Royal Horse Artillery'') a gwasanaethodd gyda'r bataliwn yn yr Aifft am gyfnod. Bu gyda nhw tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Hoffai adrodd straeon am ei amser yn gofalu am geffylau'r fyddin.<ref>Atgofion personol cyd-athro</ref>


Wedi ei wasanaeth milwrol, aeth i'r chwarel i weithio i ddechrau, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlech, "Coleg yr Ail Gyfle", er mwyn sichau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig ag ymgeisiodd i gael eu derbyn yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,<ref>Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd</ref> cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud gyda'r teulu i fyw yn y Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1975.<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Huws]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws</ref> Rai blynyddoedd wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:
Wedi ei flynyddoedd yn y fyddin, aeth i'r chwarel i weithio i ddechrau, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlech, "Coleg yr Ail Gyfle", er mwyn sicrhau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig ag ymgeisiodd i gael eu derbyn yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol a oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,<ref>Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd</ref> cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud gyda'r teulu i fyw yn Y Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1975.<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Huws]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws</ref> Rai blynyddoedd wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:


     ''' ''Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd'' '''
     ''' ''Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd'' '''
Llinell 18: Llinell 18:
:::::::''Alaeth, a chlwyf i'r galon.''."''<ref>Ymddangosir yma gyda chaniatâd y teulu</ref>  
:::::::''Alaeth, a chlwyf i'r galon.''."''<ref>Ymddangosir yma gyda chaniatâd y teulu</ref>  


Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun ''Cadwynau'' lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".<ref>Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws</ref> Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn:
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun ''Cadwynau'' lle ymdriniodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".<ref>Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws</ref> Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn:


     Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
     Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
Llinell 32: Llinell 32:
Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant [[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon]], ''Capel Brynrhos (1880-1980)''.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/6665/74</ref>
Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant [[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon]], ''Capel Brynrhos (1880-1980)''.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/6665/74</ref>


Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr i'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.
Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr â'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.


Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [https://www.britishpathe.com/video/national-eisteddfod-3/query/Toms]]].
Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [https://www.britishpathe.com/video/national-eisteddfod-3/query/Toms]]].

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:32, 13 Chwefror 2022

Tom Huws ym 1970
Tom Huws yn cael ei gadeirio. Cynan sydd ar y chwith eithaf

Roedd Y Prifardd Tom Huws (1910-1992) yn frodor o'r Groeslon. Cafodd ei eni 30 Mai 1910, i deulu uniaith Gymraeg, yn fab i Thomas Hughes ac Ellen ei wraig [1] - er mai fel Elin yr adwaenid hi gan bawb. Daeth trychineb i ran y teulu pan fu farw Elin y fam o'r diciáu yn 35 oed pan nad oedd Tom ond 5 oed. Ailbriododd y tad o fewn ychydig â chyfnither Elin, sef Lizzie, a chafwyd sawl plentyn o'r uniad hwnnw.

Fe'i bedyddiwyd yn Thomas Griffith Hughes, er mai Tom Huws fuodd o i bawb erioed. Cartref y teulu yn Y Groeslon oedd Dolnenan, ac roedd ganddo ddau frawd hŷn, David (neu Dafydd) ac Owen. Chwarelwr oedd y tad, ond "dyn ceffylau" oedd Tom ac fe adawodd ei gartref yn 14 oed i weithio mewn stablau ac fel joci. Yn y man, ac yntau'n 18 oed, fe ymunodd â Bataliwn y Marchfagnelau Brenhinol (Royal Horse Artillery) a gwasanaethodd gyda'r bataliwn yn yr Aifft am gyfnod. Bu gyda nhw tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Hoffai adrodd straeon am ei amser yn gofalu am geffylau'r fyddin.[2]

Wedi ei flynyddoedd yn y fyddin, aeth i'r chwarel i weithio i ddechrau, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlech, "Coleg yr Ail Gyfle", er mwyn sicrhau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig ag ymgeisiodd i gael eu derbyn yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol a oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,[3] cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud gyda'r teulu i fyw yn Y Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1975.[4] Rai blynyddoedd wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:

    Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd 
Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,
ni ddaw nôl yr awron;
Daw hiraeth, hiraeth am hon
Alaeth, a chlwyf i'r galon.."[5]

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdriniodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".[6] Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn:

   Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
   Stelcian, stilio a sgwrs,
   Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
   Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener,
   Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd,
   A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[7]


Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon, Capel Brynrhos (1880-1980).[8]

Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr â'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.

Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [1]]].


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Plwyf Llandwrog 1911
  2. Atgofion personol cyd-athro
  3. Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd
  4. Wicipedia, [2]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws
  5. Ymddangosir yma gyda chaniatâd y teulu
  6. Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws
  7. Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1959
  8. Archifdy Gwynedd, XM/6665/74