Tom Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 20 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Tom Huws 1970.jpg|bawd|de|300px|Tom Huws ym 1970]] | [[Delwedd:Tom Huws 1970.jpg|bawd|de|300px|Tom Huws ym 1970]] | ||
[[Delwedd:Y Prifardd Tom Huws.JPG|bawd|400px|chwith]] | |||
[[Delwedd:Coroni Tom Huws.jpg|bawd|de|450px|Tom Huws yn cael ei gadeirio. Cynan sydd ar y chwith eithaf]] | |||
[[Delwedd:Coron Tom Huws 2.jpg|bawd|chwith|250px]] | |||
[[Delwedd:Coron Tom Huws.jpg|bawd|chwith|250px]] | |||
Roedd Y Prifardd '''Tom Huws''' ( | Roedd Y Prifardd '''Tom Huws''' (1910-1992) yn frodor o'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Cafodd ei eni 30 Mai 1910, i deulu uniaith Gymraeg, yn fab i Thomas Hughes ac Ellen ei wraig | ||
<ref>Cyfrifiad Plwyf Llandwrog 1911</ref> - er mai fel Elin yr adwaenid hi gan bawb. Daeth trychineb i ran y teulu pan fu farw Elin y fam o'r diciáu yn 35 oed pan nad oedd Tom ond 5 oed. Ailbriododd y tad o fewn ychydig â chyfnither Elin, sef Lizzie, a chafwyd sawl plentyn o'r uniad hwnnw. | |||
Fe'i bedyddiwyd yn Thomas Griffith Hughes, er mai Tom Huws fuodd o i bawb erioed. Cartref y teulu yn Y Groeslon oedd Dolnenan, ac roedd ganddo ddau frawd hŷn, David (neu Dafydd) ac Owen. Chwarelwr oedd y tad, ond "dyn ceffylau" oedd Tom ac fe adawodd ei gartref yn 14 oed i weithio mewn stablau ac fel joci. Yn y man, ac yntau'n 18 oed, fe ymunodd â Bataliwn y Marchfagnelau Brenhinol (''Royal Horse Artillery'') a gwasanaethodd gyda'r bataliwn yn yr Aifft am gyfnod. Bu gyda nhw tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Hoffai adrodd straeon am ei amser yn gofalu am geffylau'r fyddin.<ref>Atgofion personol cyd-athro</ref> | |||
Wedi ei flynyddoedd yn y fyddin, aeth i'r chwarel i weithio i ddechrau, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlech, "Coleg yr Ail Gyfle", er mwyn sicrhau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig ag ymgeisiodd i gael eu derbyn yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol a oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,<ref>Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd</ref> cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud gyda'r teulu i fyw yn Y Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1975.<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Huws]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws</ref> Rai blynyddoedd wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd: | |||
''' ''Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd'' ''' | |||
::::::''Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,'' | |||
::::::::''ni ddaw nôl yr awron;'' | |||
:::::::''Daw hiraeth, hiraeth am hon'' | |||
:::::::''Alaeth, a chlwyf i'r galon.''."''<ref>Ymddangosir yma gyda chaniatâd y teulu</ref> | |||
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun ''Cadwynau'' lle ymdriniodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".<ref>Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws</ref> Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn: | |||
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun ''Cadwynau'' lle | |||
Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog, | Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog, | ||
Llinell 23: | Llinell 27: | ||
Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd, | Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd, | ||
A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.<ref>''Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1959''</ref> | A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.<ref>''Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1959''</ref> | ||
Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant [[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon]], ''Capel Brynrhos (1880-1980)''.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/6665/74</ref> | Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant [[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon]], ''Capel Brynrhos (1880-1980)''.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/6665/74</ref> | ||
Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr | Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr â'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni. | ||
Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [https://www.britishpathe.com/video/national-eisteddfod-3/query/Toms]]]. | Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [https://www.britishpathe.com/video/national-eisteddfod-3/query/Toms]]]. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Llinell 38: | Llinell 44: | ||
[[Categori: Pobl]] | [[Categori: Pobl]] | ||
[[Categori:Beirdd]] | [[Categori:Beirdd]] | ||
[[Categori:Athrawon]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:32, 13 Chwefror 2022
Roedd Y Prifardd Tom Huws (1910-1992) yn frodor o'r Groeslon. Cafodd ei eni 30 Mai 1910, i deulu uniaith Gymraeg, yn fab i Thomas Hughes ac Ellen ei wraig [1] - er mai fel Elin yr adwaenid hi gan bawb. Daeth trychineb i ran y teulu pan fu farw Elin y fam o'r diciáu yn 35 oed pan nad oedd Tom ond 5 oed. Ailbriododd y tad o fewn ychydig â chyfnither Elin, sef Lizzie, a chafwyd sawl plentyn o'r uniad hwnnw.
Fe'i bedyddiwyd yn Thomas Griffith Hughes, er mai Tom Huws fuodd o i bawb erioed. Cartref y teulu yn Y Groeslon oedd Dolnenan, ac roedd ganddo ddau frawd hŷn, David (neu Dafydd) ac Owen. Chwarelwr oedd y tad, ond "dyn ceffylau" oedd Tom ac fe adawodd ei gartref yn 14 oed i weithio mewn stablau ac fel joci. Yn y man, ac yntau'n 18 oed, fe ymunodd â Bataliwn y Marchfagnelau Brenhinol (Royal Horse Artillery) a gwasanaethodd gyda'r bataliwn yn yr Aifft am gyfnod. Bu gyda nhw tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Hoffai adrodd straeon am ei amser yn gofalu am geffylau'r fyddin.[2]
Wedi ei flynyddoedd yn y fyddin, aeth i'r chwarel i weithio i ddechrau, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlech, "Coleg yr Ail Gyfle", er mwyn sicrhau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig ag ymgeisiodd i gael eu derbyn yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol a oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,[3] cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud gyda'r teulu i fyw yn Y Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1975.[4] Rai blynyddoedd wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:
Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd
- Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,
- ni ddaw nôl yr awron;
- Daw hiraeth, hiraeth am hon
- Alaeth, a chlwyf i'r galon.."[5]
- Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdriniodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".[6] Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn:
Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog, Stelcian, stilio a sgwrs, Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener, Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd, A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[7]
Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon, Capel Brynrhos (1880-1980).[8]
Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr â'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.
Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [1]]].
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad Plwyf Llandwrog 1911
- ↑ Atgofion personol cyd-athro
- ↑ Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd
- ↑ Wicipedia, [2]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws
- ↑ Ymddangosir yma gyda chaniatâd y teulu
- ↑ Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws
- ↑ Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1959
- ↑ Archifdy Gwynedd, XM/6665/74