Siop y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Hen bost y groeslon.jpg|bawd|de|400px|Y siop a gododd John Jones]] | |||
'''Siop y Groeslon''' oedd enw'r siop gyntaf y gwyddys amdani i gael ei chodi yn [[Y Groeslon]], a hynny ym 1856. Gelwir y lle yn ''Hen Bost'' ers blynyddoedd lawer, ac fe saif o hyd (a newydd gael ei adnewyddu'n llwyr fel tŷ annedd modern) ar ochr yr hen lôn bost rhwng [[Pen-y-groes]] a Chaernarfon. | |||
Fel y tyfodd y pentref yn fwy, agorwyd dros | Fe'i codwyd gan [[John Jones, Bryn'rodyn]] fel cartref a busnes, gan ei fod yn ddyn busnes lleol yn ogystal â gweinidog ar [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Gapel Bryn'rodyn]]. Ar draws y ffordd wrth ochr y rheilffordd yr oedd iard lo, lle gweithiai John Jones yn bennaf, tra bod ei wraig, Ellen Jones, yn rhedeg y siop. Mewn cofiant i'r gweinidog, disgrifir y siop fel a ganlyn: | ||
Yr oedd "Siop y Groeslon", fel ei gelwid, yn un gymysg ac amrywiol, yn cyfuno pob math o nwyddau at ''use'' gwlad, mewn tê a siwgr; blawd a bara; dillad a chlogsiau clasbiau; llestri pren a llestri pridd; snisyn a tybaco; hoelion a sgriws; cyffuriau meddygol dynion ac anifeiliaid; llythyrdy y Llywodraeth, a Mrs. Jones a ofalai am dani yn ei holl ranau, a hyny yn wir ddeheuig. | |||
Yr yr ochr arall i'r ffordd, gyferbyn â'r siop, ceid yr "Iard lô", ac yr hyn y gofalai John Jones. Byddai ynddi drwy y dydd ar adegau prysur, yn mesur ac yn pwyso yr "adamant du" i'w wahanol gwsmeriaid, ac mewn ymddangosiad yn ''real coal merchant'', os nad yn ''real collier''. Byddai y "cadach gwyn" a arhosai am ei wddf ar ol y Sabboth, a'i wyneb llyfn a diflew, mor ddued a'r gloyn a rawiai i'r clorian.<ref>John Jones (Pwllheli), ''John Jones, Brynrodyn '' (Caernarfon, 1903), t.27 </ref> | |||
Fel y tyfodd y pentref yn fwy, agorwyd dros ddwsin a hanner o siopau eraill a sawl siop fechan mewn tai yn y gymdogaeth (gweler yr erthygl ar [[Siopau'r Groeslon]]). Ond parhaodd John Jones i gynnal y siop am flynyddoedd lawer, er gwaethaf iddo golli ei wraig. Aethai hi, fel y bostfeistres, i gwrdd â thrên y post bob bore, ac un bore ym 1886 fe gafodd ei tharo gan injan y trên a bu farw o'i hanafiadau. Gan nad oedd John Jones, y pregethwr a'r masnachwr glo, yn gyfarwydd â materion y siop, cafodd gryn drafferth a cholledion.<ref>John Jones (Pwllheli), ''John Jones, Brynrodyn '' (Caernarfon, 1903), t.88</ref> | |||
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:38, 9 Chwefror 2022
Siop y Groeslon oedd enw'r siop gyntaf y gwyddys amdani i gael ei chodi yn Y Groeslon, a hynny ym 1856. Gelwir y lle yn Hen Bost ers blynyddoedd lawer, ac fe saif o hyd (a newydd gael ei adnewyddu'n llwyr fel tŷ annedd modern) ar ochr yr hen lôn bost rhwng Pen-y-groes a Chaernarfon.
Fe'i codwyd gan John Jones, Bryn'rodyn fel cartref a busnes, gan ei fod yn ddyn busnes lleol yn ogystal â gweinidog ar Gapel Bryn'rodyn. Ar draws y ffordd wrth ochr y rheilffordd yr oedd iard lo, lle gweithiai John Jones yn bennaf, tra bod ei wraig, Ellen Jones, yn rhedeg y siop. Mewn cofiant i'r gweinidog, disgrifir y siop fel a ganlyn:
Yr oedd "Siop y Groeslon", fel ei gelwid, yn un gymysg ac amrywiol, yn cyfuno pob math o nwyddau at use gwlad, mewn tê a siwgr; blawd a bara; dillad a chlogsiau clasbiau; llestri pren a llestri pridd; snisyn a tybaco; hoelion a sgriws; cyffuriau meddygol dynion ac anifeiliaid; llythyrdy y Llywodraeth, a Mrs. Jones a ofalai am dani yn ei holl ranau, a hyny yn wir ddeheuig. Yr yr ochr arall i'r ffordd, gyferbyn â'r siop, ceid yr "Iard lô", ac yr hyn y gofalai John Jones. Byddai ynddi drwy y dydd ar adegau prysur, yn mesur ac yn pwyso yr "adamant du" i'w wahanol gwsmeriaid, ac mewn ymddangosiad yn real coal merchant, os nad yn real collier. Byddai y "cadach gwyn" a arhosai am ei wddf ar ol y Sabboth, a'i wyneb llyfn a diflew, mor ddued a'r gloyn a rawiai i'r clorian.[1]
Fel y tyfodd y pentref yn fwy, agorwyd dros ddwsin a hanner o siopau eraill a sawl siop fechan mewn tai yn y gymdogaeth (gweler yr erthygl ar Siopau'r Groeslon). Ond parhaodd John Jones i gynnal y siop am flynyddoedd lawer, er gwaethaf iddo golli ei wraig. Aethai hi, fel y bostfeistres, i gwrdd â thrên y post bob bore, ac un bore ym 1886 fe gafodd ei tharo gan injan y trên a bu farw o'i hanafiadau. Gan nad oedd John Jones, y pregethwr a'r masnachwr glo, yn gyfarwydd â materion y siop, cafodd gryn drafferth a cholledion.[2]