George Bowness: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''George Bowness''' (1815-1896) yn fab i Thomas Bowness (c1782-1850), amaethwr o Bland House, Orton yn Westmorland a'i wraig Barbara (ardal lle ceir chwareli llechi). Roedd wedi mudo i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] erbyn 1846, gan fyw yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]], pan briododd Catherine (1815-1902), a hanai o Lanllechid, Dyffryn Ogwen, yn eglwys y plwyf hwnnw; merch ydoedd i Owen Ellis, gŵr bonheddig o Hen Gefnfaes.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Priodasau Llanllechid</ref> | |||
Fe'i nodir mewn Cyfarwyddiaduron Masnach lleol fel asiant i [[Chwarel Tal-y-sarn]] ym 1850 a 1853.<ref>Gwefan ''Carnarvon Traders, (cyrchwyd 9.4.2019), [http://www.carnarvontraders.com/agents.shtml]</ref> Adeg Cyfrifiad 1851, nodir ei fod yn arolygwr chwarel lechi, gan fyw ym [[Plas Tal-y-sarn|Mhlas Tal-y-sarn]]. Roedd ei ddau blentyn, Barbara (3 oed) a George A. (2 oed), a hefyd y forwyn, Mary Hughes, i gyd wedi eu geni yn Llanllechid.<ref>Cyfrifiad Llandwrog 1851</ref> | |||
Ym 1857, roedd yn dal yn asiant i Chwarel Tal-y-sarn pan ddarllenwyd y Ddeddf Derfysg gan ynad heddwch ar y Cei yng Nghaernarfon oherwydd anhrefn a achoswyd gan ffrwgwd dros berchnogaeth llechi o'r chwarel. Fe'i gwysiwyd i ymddangos yn y llys ond cafwyd nad oedd wedi torri unrhyw ddeddf.<ref>''North Wales Chronicle'', 17.1.1857</ref> | |||
Erbyn Cyfrifiad 1861 roedd wedi gadael gwaith y chwareli, gan ffermio Tanybryn, plwyf [[Llanllyfni]]. Roedd yn fferm fawr 146 o aceri, a chyflogid 3 o weision yno, sef morwyn llaethdy, cowmon a chertmon. Nid oes sôn am ei fab George (dichon ei fod wedi marw), ond yn ychwanegol roedd Thomas Owen (9 oed) a Leonard Henry (7 oed).<ref>Cyfrifiad Llanllyfni 1861</ref> Roedd yn dal i ffermio Tanybryn ym 1891; roedd ei wraig yn dal yn fyw, a Barbara a Leonard yn dal i helpu ar y fferm. Diddorol yw sylwi ei fod (erbyn hynny o leiaf) yn ddwyieithog.<ref>Cyfrifiad Llanllyfni 1891</ref> Wedi ei farwolaeth ym 1896, cymerodd Leonard y fferm drosodd.<ref>Cyfrifiad Llanllyfni 1901</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Asiantwyr a rheolwyr chwareli]] | |||
[[Categori:Amaethwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:41, 8 Chwefror 2022
Roedd George Bowness (1815-1896) yn fab i Thomas Bowness (c1782-1850), amaethwr o Bland House, Orton yn Westmorland a'i wraig Barbara (ardal lle ceir chwareli llechi). Roedd wedi mudo i Ddyffryn Nantlle erbyn 1846, gan fyw yn Nhal-y-sarn, pan briododd Catherine (1815-1902), a hanai o Lanllechid, Dyffryn Ogwen, yn eglwys y plwyf hwnnw; merch ydoedd i Owen Ellis, gŵr bonheddig o Hen Gefnfaes.[1]
Fe'i nodir mewn Cyfarwyddiaduron Masnach lleol fel asiant i Chwarel Tal-y-sarn ym 1850 a 1853.[2] Adeg Cyfrifiad 1851, nodir ei fod yn arolygwr chwarel lechi, gan fyw ym Mhlas Tal-y-sarn. Roedd ei ddau blentyn, Barbara (3 oed) a George A. (2 oed), a hefyd y forwyn, Mary Hughes, i gyd wedi eu geni yn Llanllechid.[3]
Ym 1857, roedd yn dal yn asiant i Chwarel Tal-y-sarn pan ddarllenwyd y Ddeddf Derfysg gan ynad heddwch ar y Cei yng Nghaernarfon oherwydd anhrefn a achoswyd gan ffrwgwd dros berchnogaeth llechi o'r chwarel. Fe'i gwysiwyd i ymddangos yn y llys ond cafwyd nad oedd wedi torri unrhyw ddeddf.[4]
Erbyn Cyfrifiad 1861 roedd wedi gadael gwaith y chwareli, gan ffermio Tanybryn, plwyf Llanllyfni. Roedd yn fferm fawr 146 o aceri, a chyflogid 3 o weision yno, sef morwyn llaethdy, cowmon a chertmon. Nid oes sôn am ei fab George (dichon ei fod wedi marw), ond yn ychwanegol roedd Thomas Owen (9 oed) a Leonard Henry (7 oed).[5] Roedd yn dal i ffermio Tanybryn ym 1891; roedd ei wraig yn dal yn fyw, a Barbara a Leonard yn dal i helpu ar y fferm. Diddorol yw sylwi ei fod (erbyn hynny o leiaf) yn ddwyieithog.[6] Wedi ei farwolaeth ym 1896, cymerodd Leonard y fferm drosodd.[7]