Hendref (Llanaelhaearn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Hendref''', neu '''Yr Hendref''' yw hen enw | '''Hendref''', neu '''Yr Hendref''', yw hen enw rhan isaf plwyf [[Llanaelhaearn]], lle ceir pentref [[Trefor]] heddiw. Ni sefydlwyd y pentref tan yr 1850au, a chyn hynny casgliad o ffermydd a thyddynnod oedd yn yr ardal. Mae llawer o drigolion Trefor a'r cylch yn cyfeirio at yr ardal fel "'Rhendra" hyd heddiw. Mae'r enw "Hendre" ei hun yn golygu fferm y gaeaf, lle cedwid y stoc dros y gaeaf. Yn yr haf, byddid yn gyrru'r anifeiliaid i dir uwch i bori tra tyfid cnydau a gwair ar y tir isel gorau yn yr hendre. Gellir gweld mor addas yw ardal Trefor fel man i sefydlu hendre oherwydd mae'r rhan fwyaf o blwyf Llanaelhaearn yn fwy mynyddig a/neu gorsiog. | ||
Deillia'r enw hwn o fferm Tŷ Newydd, oedd gerllaw, ac a elwid hefyd yn "Hendre", a dros amser fe ddaeth yr enw "[[Pen Hendra]]" yn gyffredin i ddynodi'r groesffordd ar ganol pentref Trefor. | |||
[[Categori:Enwau lleoedd]] | [[Categori:Enwau lleoedd]] | ||
[[Categori:Amaethyddiaeth]] | [[Categori:Amaethyddiaeth]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:02, 7 Chwefror 2022
Hendref, neu Yr Hendref, yw hen enw rhan isaf plwyf Llanaelhaearn, lle ceir pentref Trefor heddiw. Ni sefydlwyd y pentref tan yr 1850au, a chyn hynny casgliad o ffermydd a thyddynnod oedd yn yr ardal. Mae llawer o drigolion Trefor a'r cylch yn cyfeirio at yr ardal fel "'Rhendra" hyd heddiw. Mae'r enw "Hendre" ei hun yn golygu fferm y gaeaf, lle cedwid y stoc dros y gaeaf. Yn yr haf, byddid yn gyrru'r anifeiliaid i dir uwch i bori tra tyfid cnydau a gwair ar y tir isel gorau yn yr hendre. Gellir gweld mor addas yw ardal Trefor fel man i sefydlu hendre oherwydd mae'r rhan fwyaf o blwyf Llanaelhaearn yn fwy mynyddig a/neu gorsiog.
Deillia'r enw hwn o fferm Tŷ Newydd, oedd gerllaw, ac a elwid hefyd yn "Hendre", a dros amser fe ddaeth yr enw "Pen Hendra" yn gyffredin i ddynodi'r groesffordd ar ganol pentref Trefor.