Lleisiau Mignedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Côr merched o Dyffryn Nantlle yw '''Lleisiau Mignedd'''. Fe'i sefydlwyd ym 1982 ac mae'n parhau mewn bodolaeth hyd heddiw (2022). O...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:01, 1 Chwefror 2022
Côr merched o Dyffryn Nantlle yw Lleisiau Mignedd. Fe'i sefydlwyd ym 1982 ac mae'n parhau mewn bodolaeth hyd heddiw (2022). O 1982 hyd 2005, y baswr ac enillydd y Rhuban Glas, Maldwyn Parry oedd yr arweinydd. Fo oedd yr arweinydd pan enillodd y côr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1988, yn ogystal â phan daeth y côr yn agos at ennill ar sawl achlysur arall. Bu'r côr dan ei arweiniad hefyd yn llwyddiannus deirgwaith yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd. Cafodd y côr lysenw, sef "Cywion Maldwyn".
Erbyn hyn, mae'r côr yn cael ei arwain gan Ceren Lloyd. Maent wedi cyhoeddi dwy grynoddisg o ganeuon.