Brwydr Brynderwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Daydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin''' nid nepell o le a elwid yn [[Bwlch Dau Fynydd|Fwlch Dau Fynydd]]. Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.  
Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf, a'i frodyr Owain Goch a Dafydd, tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin''' nid nepell o le a elwid yn [[Bwlch Dau Fynydd|Fwlch Dau Fynydd]].<ref>Bu'r hanesydd John Davies yn darlithio ar frwydr Bryn Derwin yn Neuadd Bentref Clynnog yn y 1970au ac aeth pawb wedyn i weld y safle. Mae olion y frwydr i'w gweld yn dwmpath mawr ar fferm Terfynau, Bwlchderwin. Hyd y gwyddys nid oes cloddio wedi bod yma.</ref> Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.  


Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]], mae'n debyg (ond gweler isod) er y gallai fod ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Yn sicr, mae yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5</ref>
Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]], mae'n debyg (ond gweler isod), er y gallai fod ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Yn sicr, mae yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer, ond caled, daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5</ref>


Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn ''Llyfr Coch Hergest'' o ''Brut y Tywysogion'':
Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn ''Llyfr Coch Hergest'' o ''Brut y Tywysogion'':
Llinell 16: Llinell 16:
     Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Brwydr_Bryn_Derwin] adalwyd 29.03.2018</ref>
     Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Brwydr_Bryn_Derwin] adalwyd 29.03.2018</ref>
   
   
Mae'r disgrifiad o leoliad y frwydr yn y gerdd uchod yn creu peth dryswch. Honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)|Eben Fardd]] mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gurn a'r mynydd a elwir yn [[Bwlch Mawr|Fwlch Mawr]] ar un ochr a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal [[Pantglas]]. Nodd ef, ac eraill megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref [[Llanaelhaearn]] yw Bwlch Dau Fynydd. Rhaid felly amau ai yn ardal Pantglas a safle [[Brwydr Bron-yr-erw]] oedd y man lle ymladdodd Llywelyn yn erbyn ei frodyr.<ref>Eben Fardd, ''Cyff Beuno'' (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, ''A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159</ref>
Mae'r disgrifiad o leoliad y frwydr yn y gerdd uchod yn creu peth dryswch. Honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)|Eben Fardd]], mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gurn a'r mynydd a elwir yn [[Bwlch Mawr|Fwlch Mawr]] ar un ochr, a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal [[Pant-glas]]. Noda eraill, megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref [[Llanaelhaearn]] yw Bwlch Dau Fynydd. Rhaid felly amau ai yn ardal Pant-glas a safle [[Brwydr Bron-yr-erw]] oedd y man lle'r ymladdodd Llywelyn yn erbyn ei frodyr.<ref>Eben Fardd, ''Cyff Beuno'' (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, ''A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159</ref>





Golygiad diweddaraf yn ôl 16:12, 30 Ionawr 2022

Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf, a'i frodyr Owain Goch a Dafydd, tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin nid nepell o le a elwid yn Fwlch Dau Fynydd.[1] Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.

Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr, mae'n debyg (ond gweler isod), er y gallai fod ym mhlwyf Llanaelhaearn. Yn sicr, mae yng nghantref Arfon ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer, ond caled, daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.[2]

Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn Llyfr Coch Hergest o Brut y Tywysogion:

Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall. Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch [Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. [3]

Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:

   Gwelai wawr ar wŷr lliosydd,
   Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd,
   A welai Lywelyn, lewenydd - dragon,
   Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd.
   Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
   Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[4]

Mae'r disgrifiad o leoliad y frwydr yn y gerdd uchod yn creu peth dryswch. Honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag Eben Fardd, mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gurn a'r mynydd a elwir yn Fwlch Mawr ar un ochr, a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal Pant-glas. Noda eraill, megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref Llanaelhaearn yw Bwlch Dau Fynydd. Rhaid felly amau ai yn ardal Pant-glas a safle Brwydr Bron-yr-erw oedd y man lle'r ymladdodd Llywelyn yn erbyn ei frodyr.[5]


Llyfryddiaeth

J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.

Cyfeiriadau

  1. Bu'r hanesydd John Davies yn darlithio ar frwydr Bryn Derwin yn Neuadd Bentref Clynnog yn y 1970au ac aeth pawb wedyn i weld y safle. Mae olion y frwydr i'w gweld yn dwmpath mawr ar fferm Terfynau, Bwlchderwin. Hyd y gwyddys nid oes cloddio wedi bod yma.
  2. J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5
  3. Gwefan Meysydd brwydro Comisiwn Henebion Cymru http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/collections/getrecord/402322] Adalwyd 29.03.2018
  4. Wicipedia [1] adalwyd 29.03.2018
  5. Eben Fardd, Cyff Beuno (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159