Brwydr Brynderwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Brwydr rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frawd Owain Goch tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin'''. Roedd anghytuno wedi bod ynglŷn â ph...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 16 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Brwydr rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frawd Owain Goch tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin'''. Roedd anghytuno wedi bod ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr. Roedd rhai yn cefnogi Owain ac eraill yn cefnogi Llywelyn.
Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf, a'i frodyr Owain Goch a Dafydd, tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin''' nid nepell o le a elwid yn [[Bwlch Dau Fynydd|Fwlch Dau Fynydd]].<ref>Bu'r hanesydd John Davies yn darlithio ar frwydr Bryn Derwin yn Neuadd Bentref Clynnog yn y 1970au ac aeth pawb wedyn i weld y safle. Mae olion y frwydr i'w gweld yn dwmpath mawr ar fferm Terfynau, Bwlchderwin. Hyd y gwyddys nid oes cloddio wedi bod yma.</ref> Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.  


Mae Bryn Dewin yn ymyl [[Bwlch Dau Fynydd]] yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]] yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy.
Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]], mae'n debyg (ond gweler isod), er y gallai fod ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Yn sicr, mae yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer, ond caled, daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5</ref>
 
Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn ''Llyfr Coch Hergest'' o ''Brut y Tywysogion'':
 
Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall. Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch [Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. <ref>Gwefan Meysydd brwydro Comisiwn Henebion Cymru http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/collections/getrecord/402322] Adalwyd 29.03.2018</ref>


Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:
Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:
Llinell 11: Llinell 15:
     Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
     Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
     Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Brwydr_Bryn_Derwin] adalwyd 29.03.2018</ref>
     Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Brwydr_Bryn_Derwin] adalwyd 29.03.2018</ref>
Mae'r disgrifiad o leoliad y frwydr yn y gerdd uchod yn creu peth dryswch. Honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)|Eben Fardd]], mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gurn a'r mynydd a elwir yn [[Bwlch Mawr|Fwlch Mawr]] ar un ochr, a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal [[Pant-glas]]. Noda eraill, megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref [[Llanaelhaearn]] yw Bwlch Dau Fynydd. Rhaid felly amau ai yn ardal Pant-glas a safle [[Brwydr Bron-yr-erw]] oedd y man lle'r ymladdodd Llywelyn yn erbyn ei frodyr.<ref>Eben Fardd, ''Cyff Beuno'' (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, ''A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159</ref>


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==


J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.
J. Beverley Smith, ''Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru'' (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Milwrol]]
[[Categori:Brwydrau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:12, 30 Ionawr 2022

Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf, a'i frodyr Owain Goch a Dafydd, tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin nid nepell o le a elwid yn Fwlch Dau Fynydd.[1] Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.

Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr, mae'n debyg (ond gweler isod), er y gallai fod ym mhlwyf Llanaelhaearn. Yn sicr, mae yng nghantref Arfon ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer, ond caled, daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.[2]

Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn Llyfr Coch Hergest o Brut y Tywysogion:

Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall. Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch [Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. [3]

Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:

   Gwelai wawr ar wŷr lliosydd,
   Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd,
   A welai Lywelyn, lewenydd - dragon,
   Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd.
   Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
   Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[4]

Mae'r disgrifiad o leoliad y frwydr yn y gerdd uchod yn creu peth dryswch. Honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag Eben Fardd, mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gurn a'r mynydd a elwir yn Fwlch Mawr ar un ochr, a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal Pant-glas. Noda eraill, megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref Llanaelhaearn yw Bwlch Dau Fynydd. Rhaid felly amau ai yn ardal Pant-glas a safle Brwydr Bron-yr-erw oedd y man lle'r ymladdodd Llywelyn yn erbyn ei frodyr.[5]


Llyfryddiaeth

J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.

Cyfeiriadau

  1. Bu'r hanesydd John Davies yn darlithio ar frwydr Bryn Derwin yn Neuadd Bentref Clynnog yn y 1970au ac aeth pawb wedyn i weld y safle. Mae olion y frwydr i'w gweld yn dwmpath mawr ar fferm Terfynau, Bwlchderwin. Hyd y gwyddys nid oes cloddio wedi bod yma.
  2. J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5
  3. Gwefan Meysydd brwydro Comisiwn Henebion Cymru http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/collections/getrecord/402322] Adalwyd 29.03.2018
  4. Wicipedia [1] adalwyd 29.03.2018
  5. Eben Fardd, Cyff Beuno (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159