Brwydr Bron-yr-erw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ymladdwyd Brwydr Bron yr Erw, ar safle ger [[Clynnog Fawr]], ym 1075 rhwng byddin Gruffudd ap Cynan a lluoedd Trahaearn ap Caradog. Fe'i cofnodir ym ''Mrut y Tywysogion'' a ''Hanes Gruffudd ap Cynan''. | Ymladdwyd '''Brwydr Bron yr Erw''', ar safle ger [[Clynnog Fawr]] nid nepell o [[Bwlch Derwin|Fwlch Derwin]], ym 1075 rhwng byddin Gruffudd ap Cynan a lluoedd Trahaearn ap Caradog. Fe'i cofnodir ym ''Mrut y Tywysogion'' a ''Hanes Gruffudd ap Cynan''. Ar un ystyr, brwydr a ddigwyddodd gael ei hymladd yn Uwchgwyrfai oedd hon, lle cyfarfu lluoedd dau elyn yn eu hymgyrch am oruchafiaeth ddaearyddol. Roedd teyrnas Gwynedd yn y fantol, ond hap a damwain oedd iddi gael ei hymladd lle y cafodd. Gellid ei disgrifio fel ymrafael geowleidyddol. | ||
Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn, brenin teyrnas Powys, yn gynharach yn y flwyddyn, | Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn, brenin teyrnas Powys, yn gynharach yn y flwyddyn 1075, meddiannwyd ei deyrnas gan Trahaearn, arglwydd Arwystli a Cynwrig ap Rhiwallon o Faelor. Ceisiodd Trahaearn a Chynwrig sefydlu eu hawdurdod yn Llŷn gyda'r bwriad o reoli teyrnas Gwynedd yn y pen draw. | ||
Daeth Gruffudd ap Cynan drosodd o Ddulyn gyda mintai o filwyr cyflogedig o Lychlynwyr. Glaniodd yn [[Abermenai]] a chafodd fuddugoliaethau ysgubol yn erbyn Trahaearn a Chynwrig (a laddwyd) ac yn erbyn y Normaniaid dan Robert o Ruddlan hefyd, ond lladdwyd y Llychlynwyr a adawsai yn Llŷn a dychwelodd Gruffudd yno o Ruddlan gyda byddin gymharol fechan. | Daeth Gruffudd ap Cynan drosodd o Ddulyn ym 1075 gyda mintai o filwyr cyflogedig o Lychlynwyr, i hawlio gorsedd Gwynedd wedi marwolaeth ei dad Cynan ap Iago. Glaniodd yn [[Abermenai]] a chafodd fuddugoliaethau ysgubol yn erbyn Trahaearn a Chynwrig (a laddwyd) ac yn erbyn y Normaniaid dan Robert o Ruddlan hefyd, ond lladdwyd y Llychlynwyr a adawsai yn Llŷn a dychwelodd Gruffudd yno o Ruddlan gyda byddin gymharol fechan. | ||
Arweiniodd Trahaearn ei gefnogwyr yn Llŷn a'i fyddin o wŷr Powys, yn cynnwys ei gynghreiriad Gwrgenau ap Seisyllt, yn erbyn Gruffudd. Trechodd y cynghreiriaid fyddin Gruffudd ap Cynan ym Mron yr Erw gyda cholledion trwm. | Arweiniodd Trahaearn ei gefnogwyr yn Llŷn a'i fyddin o wŷr Powys, yn cynnwys ei gynghreiriad Gwrgenau ap Seisyllt, yn erbyn Gruffudd. Trechodd y cynghreiriaid fyddin Gruffudd ap Cynan ym Mron yr Erw gyda cholledion trwm, a ffôdd Gruffudd yn ôl i Abermenai, lle cafodd fynd ar gwch i Ynysoedd y Moelrhoniaid (''Skerries'') yn y lle cyntaf, ac wedyn i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Llwch Garman (''Wexford'').<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Brwydr_Bron_yr_Erw], adalwyd 29.03.2018; J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf.II,(Llundain, 1939) t.379-83</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Milwrol]] | |||
[[Categori:Brwydrau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:05, 30 Ionawr 2022
Ymladdwyd Brwydr Bron yr Erw, ar safle ger Clynnog Fawr nid nepell o Fwlch Derwin, ym 1075 rhwng byddin Gruffudd ap Cynan a lluoedd Trahaearn ap Caradog. Fe'i cofnodir ym Mrut y Tywysogion a Hanes Gruffudd ap Cynan. Ar un ystyr, brwydr a ddigwyddodd gael ei hymladd yn Uwchgwyrfai oedd hon, lle cyfarfu lluoedd dau elyn yn eu hymgyrch am oruchafiaeth ddaearyddol. Roedd teyrnas Gwynedd yn y fantol, ond hap a damwain oedd iddi gael ei hymladd lle y cafodd. Gellid ei disgrifio fel ymrafael geowleidyddol.
Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn, brenin teyrnas Powys, yn gynharach yn y flwyddyn 1075, meddiannwyd ei deyrnas gan Trahaearn, arglwydd Arwystli a Cynwrig ap Rhiwallon o Faelor. Ceisiodd Trahaearn a Chynwrig sefydlu eu hawdurdod yn Llŷn gyda'r bwriad o reoli teyrnas Gwynedd yn y pen draw.
Daeth Gruffudd ap Cynan drosodd o Ddulyn ym 1075 gyda mintai o filwyr cyflogedig o Lychlynwyr, i hawlio gorsedd Gwynedd wedi marwolaeth ei dad Cynan ap Iago. Glaniodd yn Abermenai a chafodd fuddugoliaethau ysgubol yn erbyn Trahaearn a Chynwrig (a laddwyd) ac yn erbyn y Normaniaid dan Robert o Ruddlan hefyd, ond lladdwyd y Llychlynwyr a adawsai yn Llŷn a dychwelodd Gruffudd yno o Ruddlan gyda byddin gymharol fechan.
Arweiniodd Trahaearn ei gefnogwyr yn Llŷn a'i fyddin o wŷr Powys, yn cynnwys ei gynghreiriad Gwrgenau ap Seisyllt, yn erbyn Gruffudd. Trechodd y cynghreiriaid fyddin Gruffudd ap Cynan ym Mron yr Erw gyda cholledion trwm, a ffôdd Gruffudd yn ôl i Abermenai, lle cafodd fynd ar gwch i Ynysoedd y Moelrhoniaid (Skerries) yn y lle cyntaf, ac wedyn i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Llwch Garman (Wexford).[1]