Cymdeithas Caredigion Rhostryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ni wyddys fawr am '''Gymdeithas Caredigion Rhostryfan''' ar wahan i'r ffaith mai cymdeithas cyfeillgar o ryw fath oedd yn [[Rhostryfan]] a sefydlwyd i helpu'r anghenus. Ysgrifennydd olaf y gymdeithas oedd Ellis Jones, Glan'rafon, Rhostryfan, garddwr ac wedyn hwarelwr, ac ysgrifennydd [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]], dyn a nodweddid gan ei ysgrifen gain a'i drefnusrwydd.  
Ni wyddys fawr am '''Gymdeithas Caredigion Rhostryfan''' ar wahân i'r ffaith mai cymdeithas gyfeillgar o ryw fath ydoedd a sefydlwyd yn [[Rhostryfan]] i helpu'r anghenus. Ysgrifennydd olaf y gymdeithas oedd Ellis Jones, Glan'rafon, Rhostryfan, garddwr ac wedyn chwarelwr, ac ysgrifennydd [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]], dyn a nodweddid gan ei ysgrifen gain a'i drefnusrwydd.  


Daeth y gymdeithas hon i ben ym 1842, ond y flwyddyn ganlynol, sefydlwyd Cymdeithas Gynorthwyol Rhostryfan yn ei le ym 1843.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.226-7</ref>
Daeth y gymdeithas hon i ben ym 1842, ond y flwyddyn ganlynol, sef 1843, sefydlwyd '''Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai''' yn Rhostryfan yn ei lle. Ar  farwolaeth Ellis Jones ym 1857  fe'i holynwyd gan William Hughes, Y Siop, (1814-1877) blaenor yn Horeb ar  ôl 1860. <ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.226-7, 231</ref>  Erbyn 1895, John Roberts, Fronhyfryd, Rhostryfan oedd yr ysgrifennydd, a chynhelid cinio blynyddol yng Nghaernarfon ar ddydd Llun y Sulgwyn.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 26 Mawrth 1895, t.4</ref> Yn ôl atgofion Owen Ll. Williams (Wells, Vermont), fe'i gelwid hefyd weithiau'n "Glwb Capel Wesla": dyma beth sydd ganddo i'w ddweud:
 
Yr oedd y pryd hwn glwb cleifion neu Glwb Capel Wesla, ond ei enw swyddogol oedd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai, cymdeithas er cynorthwyo yr aelodau pan mewn gwaeledd neu wedi cyfarfod â damwain. Telid swm yn fisol gan yr aelodau i drysorfa arbennig o ba un pan mewn gwaeledd neu ddamwain nas gallai i rywun ddilyn ei alwedigaeth ceid swm wythnosol o'r drysorfa, yr hyn a ddosberthid yn fisol gan bwyllgor wedi ei benodi i'r pwrpas. Ar ddydd Llun y Sulgwyn byddai yr holl aelodau yn cyfarfod yng nghapel [[Capel Bethel (W), Rhos-isaf|Bethel, Rhos Isaf]] ac yn trafod materion a fyddai o fudd i'r gymdeithas eu trafod a derbyn adroddiad y gwahanol swyddogion am y flwyddyn, gorymdeithid i rywle i gael cinio gyda seindorf o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] neu [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]] ar y blaen. I Gaernarfon y bûm i yn mynd gyda hwy a chael cinio yno mewn rhyw ystafell oedd ddigon mawr i eistedd dau neu dri chant ar unwaith.<ref> Owen Ll. Williams, ''Atgofion am Rhos Isaf'', llawysgrif mewn dwylo preifat; atgynhyrchir yr ysgrif yng Ngof y Cwmwd.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:24, 25 Ionawr 2022

Ni wyddys fawr am Gymdeithas Caredigion Rhostryfan ar wahân i'r ffaith mai cymdeithas gyfeillgar o ryw fath ydoedd a sefydlwyd yn Rhostryfan i helpu'r anghenus. Ysgrifennydd olaf y gymdeithas oedd Ellis Jones, Glan'rafon, Rhostryfan, garddwr ac wedyn chwarelwr, ac ysgrifennydd Capel Horeb (MC), Rhostryfan, dyn a nodweddid gan ei ysgrifen gain a'i drefnusrwydd.

Daeth y gymdeithas hon i ben ym 1842, ond y flwyddyn ganlynol, sef 1843, sefydlwyd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai yn Rhostryfan yn ei lle. Ar farwolaeth Ellis Jones ym 1857 fe'i holynwyd gan William Hughes, Y Siop, (1814-1877) blaenor yn Horeb ar ôl 1860. [1] Erbyn 1895, John Roberts, Fronhyfryd, Rhostryfan oedd yr ysgrifennydd, a chynhelid cinio blynyddol yng Nghaernarfon ar ddydd Llun y Sulgwyn.[2] Yn ôl atgofion Owen Ll. Williams (Wells, Vermont), fe'i gelwid hefyd weithiau'n "Glwb Capel Wesla": dyma beth sydd ganddo i'w ddweud:

Yr oedd y pryd hwn glwb cleifion neu Glwb Capel Wesla, ond ei enw swyddogol oedd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai, cymdeithas er cynorthwyo yr aelodau pan mewn gwaeledd neu wedi cyfarfod â damwain. Telid swm yn fisol gan yr aelodau i drysorfa arbennig o ba un pan mewn gwaeledd neu ddamwain nas gallai i rywun ddilyn ei alwedigaeth ceid swm wythnosol o'r drysorfa, yr hyn a ddosberthid yn fisol gan bwyllgor wedi ei benodi i'r pwrpas. Ar ddydd Llun y Sulgwyn byddai yr holl aelodau yn cyfarfod yng nghapel Bethel, Rhos Isaf ac yn trafod materion a fyddai o fudd i'r gymdeithas eu trafod a derbyn adroddiad y gwahanol swyddogion am y flwyddyn, gorymdeithid i rywle i gael cinio gyda seindorf o Ben-y-groes neu Dal-y-sarn ar y blaen. I Gaernarfon y bûm i yn mynd gyda hwy a chael cinio yno mewn rhyw ystafell oedd ddigon mawr i eistedd dau neu dri chant ar unwaith.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.226-7, 231
  2. Y Genedl Gymreig, 26 Mawrth 1895, t.4
  3. Owen Ll. Williams, Atgofion am Rhos Isaf, llawysgrif mewn dwylo preifat; atgynhyrchir yr ysgrif yng Ngof y Cwmwd.