Cymdeithas Caernarfon at Ymlyd a Chosbi Lladron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Cymdeithas Caernarfon i Cymdeithas Caernarfon at Ymlyd a Chosbi Lladron heb adael dolen ailgyfeirio
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Cymdeithas Caernarfon yn Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai tuag at ymlyd a chosbi Lladron''' yn enw anhylaw ar un o'r mentrau cynharaf i geisio atal troseddu a delio gyda drwgweithredwyr. Fe'i ffurfiwyd yn nechrau'r 19g, bron i hanner can mlynedd cyn i [[Heddlu Sir Gaernarfon]] gael ei ffurfio. Ar y pryd, roedd angen i unrhyw un a ddioddefodd yn sgil trosedd erlyn y drwgweithredwyr (a bwrw eu bod yn hysbys) trwy ofyn i ynad heddwch am warant i'w llusgo o flaen ynad neu lys. Ceir hysbysiad yn y ''North Wales Gazette'', 1813, sydd yn esbonio sut oedd y Gymdeithas am daclo'r mater. Dyma adysgrif o'r hysbyseb yn y papur hwnnw:
Roedd '''Cymdeithas Caernarfon yn Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai tuag at ymlyd a chosbi Lladron''' yn enw anhylaw ar un o'r mentrau cynharaf i geisio atal troseddu a delio gyda drwgweithredwyr. Fe'i ffurfiwyd yn nechrau'r 19g, bron i hanner can mlynedd cyn i [[Heddlu Sir Gaernarfon]] gael ei ffurfio. Ar y pryd, roedd angen i unrhyw un a ddioddefodd o ganlyniad i drosedd erlyn y drwgweithredwyr (a bwrw eu bod yn gwybod pwy oeddent) trwy ofyn i ynad heddwch am warant i'w llusgo o flaen ynad neu lys. Ceir hysbysiad yn y ''North Wales Gazette'', 1813, sydd yn esbonio sut roedd y Gymdeithas am fynd i'r afael â'r mater. Dyma adysgrif o'r hysbyseb yn y papur hwnnw:

  Nyni y sawl a ddodasom ein Henwau oddi tanodd (yn preswylio tu mewn i un o'r ddau Gwmmwd uchod) a ymrwymasom mewn Ammodau Cyttundeb, i ganlyn ar, a chospi pob math o ddynion wnelont mewn unrhyw fath o Ladrad, neu Feloni ar ein Heiddo ni, neu un rhyw o honom, ar ein cyd gost ein hunain: A thu ag at ddwyn i ben yn fwy effeithiol ein Bwriad, yr ydym yn siccr fwriadau talu y Gwobrau canlynol i bob rhyw un, yr hwn trwy ei dystiolaeth a fedro gyhuddo, a phrofi allan, y sawl a gaffer yn euog o unrhyw o'r Troseddiadau canlynol, sef:

Llinell 62: Llinell 62:
  The President requests the favor of the Members' company at the annual Meeting, on Tuesday the Ist of June, 1813, to settle business before dinner, ordered at the Goat Inn, in Carnarvon, at two o'clock. THOMAS JONES, President.<ref>''North Wales Gazette'', 20.5.1813</ref>

Mae'n ddiddorol sylwi ar ddau neu dri o bethau ynglŷn â'r hysbyseb yma. Yn gyntaf, mae'r hysbyseb yn y Gymraeg, mewn papur Saesneg - peth anarferol iawn ym 1813 - heblaw am y frawddeg olaf, sydd mewn Saesneg gan ei bod wedi ei chyfeirio'n benodol at yr aelodau oedd, mae'n debyg, yn ddwyieithog (ac un neu ddau o bosib yn Saeson uniaith, a barnu oddi wrth rai o'r cyfenwau). Mae hyn yn awgrymu mai ymysg y boblogaeth leol yr oedd y drwgweithredwyr a'r rhai a fyddai'n gwybod digon amdanynt i "sbragio" arnynt er mwyn hawlio'r wobr.
Mae'n ddiddorol sylwi ar ddau neu dri o bethau ynglŷn â'r hysbyseb yma. Yn gyntaf, mae'r hysbyseb yn y Gymraeg, mewn papur Saesneg - peth anarferol iawn ym 1813 - heblaw am y frawddeg olaf, sydd yn Saesneg, gan ei bod wedi ei chyfeirio'n benodol at yr aelodau oedd, mae'n debyg, yn ddwyieithog (ac un neu ddau o bosib yn Saeson uniaith, a barnu oddi wrth rai o'r cyfenwau). Mae hyn yn awgrymu mai ymysg y boblogaeth leol yr oedd y drwgweithredwyr a'r rhai a fyddai'n gwybod digon amdanynt i "sbragio" arnynt er mwyn hawlio'r wobr.

Yn ail, sylwer mai ychydig o rai a oedd yn byw y tu allan i'r dref oedd yn aelodau, er bod y Gymdeithas yn cynnwys Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai i gyd. A yw hyn yn awgrymu bod llawer mwy o droseddu yn y dref?  

Yn olaf, er (mae'n debyg) y gallai unrhyw un ymuno â'r Gymdeithas, nid oedd ond yn gwobrwyo gwybodaeth pan oedd eiddo un o'r aelodau wedi ei ddwyn neu ei ddifetha; nid oedd yn adnodd i weithredu dros bawb - a chan fod yr aelodaeth yn hysbys, hawdd fyddai i osgoi eiddo'r rheiny oedd yn aelodau! Yn y bôn, felly, math o gymdeithas hunan-yswirio sydd yma.
Yn olaf, er (mae'n debyg) y gallai unrhyw un ymuno â'r Gymdeithas, nid oedd ond yn gwobrwyo gwybodaeth pan oedd eiddo un o'r aelodau wedi ei ddwyn neu ei ddifetha; nid oedd yn adnodd i weithredu dros bawb - a chan fod yr aelodaeth yn hysbys, hawdd fyddai osgoi eiddo'r rheiny oedd yn aelodau! Yn y bôn, felly, math o gymdeithas hunan-yswirio sydd yma.

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:52, 24 Ionawr 2022

Roedd Cymdeithas Caernarfon yn Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai tuag at ymlyd a chosbi Lladron yn enw anhylaw ar un o'r mentrau cynharaf i geisio atal troseddu a delio gyda drwgweithredwyr. Fe'i ffurfiwyd yn nechrau'r 19g, bron i hanner can mlynedd cyn i Heddlu Sir Gaernarfon gael ei ffurfio. Ar y pryd, roedd angen i unrhyw un a ddioddefodd o ganlyniad i drosedd erlyn y drwgweithredwyr (a bwrw eu bod yn gwybod pwy oeddent) trwy ofyn i ynad heddwch am warant i'w llusgo o flaen ynad neu lys. Ceir hysbysiad yn y North Wales Gazette, 1813, sydd yn esbonio sut roedd y Gymdeithas am fynd i'r afael â'r mater. Dyma adysgrif o'r hysbyseb yn y papur hwnnw:

Nyni y sawl a ddodasom ein Henwau oddi tanodd (yn preswylio tu mewn i un o'r ddau Gwmmwd uchod) a ymrwymasom mewn Ammodau Cyttundeb, i ganlyn ar, a chospi pob math o ddynion wnelont mewn unrhyw fath o Ladrad, neu Feloni ar ein Heiddo ni, neu un rhyw o honom, ar ein cyd gost ein hunain: A thu ag at ddwyn i ben yn fwy effeithiol ein Bwriad, yr ydym yn siccr fwriadau talu y Gwobrau canlynol i bob rhyw un, yr hwn trwy ei dystiolaeth a fedro gyhuddo, a phrofi allan, y sawl a gaffer yn euog o unrhyw o'r Troseddiadau canlynol, sef:
Torri Ty neu Dau yn y nos, neu Fyrglari, neu ladrad Pen-ffordd ar draed neu Geffyl £3. 3. 0 
Dwyn ymaith neu ladratta unrhyw Farch Caseg, Ceffyl, Dispaidd, Buwch, neu unrhyw anifeiliaid eraill wedi cwbl dyfu £2. 2. 0 
Dwyn Lloi, Dynewaid, Defaid, Wyn, Moch, ac ader Dofion £0. 10. 6 
Torri, dryllio, neu ddwyn ymaith unrhyw Lidiardau, neu Wrychoedd neu ddwyn i ffordd Baels, Ystlysbyst, Raels, neu Gledrennau, neu unrhyw fath o waith haearn a berthyno iddynt, £0. 10. 6                            Lladratta, neu ddwyn ymaith Yd, neu Ydau, allan o unrhyw Cae neu Ysgu bor, wedi neu heb ei ddyrnu £2. 2. 0 
Lladrata, neu ddwyn ymaith unrhyw Laswellt, ac Yd neu Lafur, a Gwair ar ei droed, neu wedi ei dorri i lawr, neu yn sefyll yn ei Faes, neu Stwce, neu Fân-gocciau neu ddwyn ymaith Faip, neu Byttatws; neu ddwyn ymaith, dryllio,neu niweidio Troliau, Erydr, neu unrhyw Gâr Hwsmonaeth arall, a godro Gwartheg Cymmydogion, a dwyn ymaeth eu IIaetlh £1. 1.
Dirisglio, torri Coed ieuaingc na hen na dryllio Cloddiau lle maent hwy yn tyfu, naei un math arall o ddistryw beth bynnag, am yr Hanes a gaiff Wobro £2. 2. 0 
Ac am bob cam-droseddiad, Ffeloni neu Farus-weithred arall na henwid monynt uchod, y fath Wobr ac a wnelo y Committee neu gymmastau o bump o Wyr y Gymdeithas lwfio neu ganniattau iddynt. Ac ymhellach, i gynnorthwyo'r Aelodau i gospi Drwg-weithredwyr. Fod y gost neu draul gael ei dalu o'r Trysor sydd wedi ei sefydlu i'r pwrpas, tu ag at galyn y Gospedigaeth ym mlaen, os gwel y nifer fwyaf o'r Aelodau fod y cyfryw beth yn haeddol o Gospedigaeth yn ddi-falais neu ddrwg ewyllys. 
Enwau Cymdeithwyr Caernarfon a'i Chyffiniau.
PLWY LLANBEBLIG.  
O. A. Poole, Yswain
W. G. Griffith, Yswain
William Williams,  Yswain  
Zac. Jones, Yswain 
John Ellis, Yswain
Y Parchedig Henry Jones
Y Parchedig Owen Jones 
Y Parchedig David Williams 
Evan Herbert  
John Haslem, Yswain 
Parchedig John Lloyd 
Robert Roberts, Yswain 
John Evans, Yswain 
Mr. J. Wakeman 
Mr. M. Fleming 
Mr. John Oakes 
Mr. John Byrne 
Mr. Richard Pritchard 
Mr Robert Humphreys 
Mr Robert Jones 
Mr. Thomas Rathbone 
Mr. Robert Parry 
Captain William Griffith 
Mr. Griffith Jones 
Mr. David Hughes 
Mr. Evan Jones 
Mr. G. Bettiss 
Edward G. Roberts, Yswain 
Mr William Griffith Barker 
Mr. Robert Beaver 
LLANBEBLIG 
Mr. John Hughes 
Mr. Henry Jones 
PLWY LLANDWROG. 
Thomas Lewis, Yswain 
John Griffith J Yswain 
Y Parchedig William Griffith 
CLYNNOG. 
Hugh Rowlands, Yswain 
Parchedig John Williams 
LLANRUG 
Parchedig P. Williams 
Parchedig Owen Rowlands 
LLANDDEINIOLEN 
Owen Roberts 
LLANFAIR ISGAER. 
Mr. Robert Williams 
Mr. Evan Jones 
Mr. John Roberts
The President requests the favor of the Members' company at the annual Meeting, on Tuesday the Ist of June, 1813, to settle business before dinner, ordered at the Goat Inn, in Carnarvon, at two o'clock. THOMAS JONES, President.[1]

Mae'n ddiddorol sylwi ar ddau neu dri o bethau ynglŷn â'r hysbyseb yma. Yn gyntaf, mae'r hysbyseb yn y Gymraeg, mewn papur Saesneg - peth anarferol iawn ym 1813 - heblaw am y frawddeg olaf, sydd yn Saesneg, gan ei bod wedi ei chyfeirio'n benodol at yr aelodau oedd, mae'n debyg, yn ddwyieithog (ac un neu ddau o bosib yn Saeson uniaith, a barnu oddi wrth rai o'r cyfenwau). Mae hyn yn awgrymu mai ymysg y boblogaeth leol yr oedd y drwgweithredwyr a'r rhai a fyddai'n gwybod digon amdanynt i "sbragio" arnynt er mwyn hawlio'r wobr.

Yn ail, sylwer mai ychydig o rai a oedd yn byw y tu allan i'r dref oedd yn aelodau, er bod y Gymdeithas yn cynnwys Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai i gyd. A yw hyn yn awgrymu bod llawer mwy o droseddu yn y dref?

Yn olaf, er (mae'n debyg) y gallai unrhyw un ymuno â'r Gymdeithas, nid oedd ond yn gwobrwyo gwybodaeth pan oedd eiddo un o'r aelodau wedi ei ddwyn neu ei ddifetha; nid oedd yn adnodd i weithredu dros bawb - a chan fod yr aelodaeth yn hysbys, hawdd fyddai osgoi eiddo'r rheiny oedd yn aelodau! Yn y bôn, felly, math o gymdeithas hunan-yswirio sydd yma.

Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 20.5.1813