Alexander Marshall: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Alexander Marshall''' yn reolwr cyffredinol Rheilffordd Nantlle dan Edward Preston, y prydleswr o 1856 ymlaen.<ref>JIC Boyd ''Narrow Gaug...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Alexander Marshall''' yn reolwr cyffredinol [[Rheilffordd Nantlle]] dan [[Edward Preston]], y prydleswr o 1856 ymlaen.<ref>JIC Boyd ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', Cyf 1, tt.29,112.</ref> Fe adawodd ei swydd, fodd bynnag, ym 1862, gan symud o'r ardal. Mae'n debyg iddo fod yn boblogaidd ymysg y dosbarth busnes yn Nyffryn Nantlle, gan iddynt gynnal cinio ffarwèl iddo yn [[Tafarn y Stag|Nafarn y Stag]], [[Pen-y-groes]], pan dderbyniodd dysteb o gwpan a lwyau arian. Gofidiai'r rhai oedd yno am yr amgylchiadau a'i orfododd i ymddiswyddo o'i swydd.<ref>''North Wales Chronicle'', 15.11.1862.</ref>
Ganwyd '''Alexander Marshall''' ym 1816 yn yr Alban. Mae'n bur debyg mai Alexander Marshall a Janet Mitchell oedd enwau ei rieni, o Irvine, Swydd Ayr. Bu yn Iwerddon am ran o'i yrfa, gan briodi ei wraig, Eliza Anne (oedd 18 mlynedd yn iau nag ef) yno. Roedd ei ferch hynaf Fanny wedi ei geni yno ym 1856, ond yr oedd ei ail blentyn, Amelia Jannet, wedi ei geni ym mhlwyf Llanbeblig ddwy flynedd yn ddiweddarach. Gellir amau felly iddo ddod i ardal Uwchgwyrfai tua 1856-7, er mwyn derbyn swydd efo [[Rheilffordd Nantlle]]. Fe'i disgrifir yng nghyfrifiad 1861 fel "rheolwr rheilffordd". Erbyn hynny, roedd trydydd plentyn, Eliza Anne, wedi ei geni i'r pâr, y tro hwn yn Llanllyfni. Ym 1861, cyfeiriad y teulu oedd [[Pen-y-groes]], ychydig ddrysau o Dafarn y Stag's Head  - a drws nesaf i Hugh Hughes, portar ar y rheilffordd. Roedd adeilad a ddefnyddid fel gorsaf Rheilffordd Nantlle wrth ochr y Stag's Head.<ref>Cyfrifiad 1861, plwyf Llanllyfni. </ref> 
 
Roedd Marshall yn rheolwr cyffredinol [[Rheilffordd Nantlle]] dan [[Edward Preston]], y prydleswr o 1856 ymlaen.<ref>JIC Boyd ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', Cyf 1, tt.29,112.</ref> Fe adawodd ei swydd, fodd bynnag, ym 1862, gan symud o'r ardal. Mae'n debyg iddo fod yn boblogaidd ymysg y dosbarth busnes yn Nyffryn Nantlle, gan iddynt gynnal cinio ffarwèl iddo yn [[Tafarn y Stag, Pen-y-groes|Nhafarn y Stag]], [[Pen-y-groes]], pan dderbyniodd dysteb o gwpan a llwyau arian. Gofidiai'r rhai oedd yno am yr amgylchiadau a'i gorfododd i ymddiswyddo o'i swydd.<ref>''North Wales Chronicle'', 15.11.1862.</ref>
 
Ceir sawl cyfeiriad ato yn y papurau newydd yng nghyd-destun y rheilffordd o Gonwy i Lanrwst a oedd yn cael ei hadeiladu, 1861-3.<ref>''North Wales Chronicle'', 1861-3, ''passim''.</ref> Gan mai Edward Preston oedd yr is-gontractor ar gyfer adeiladu'r lein honno, mae'n debyg fod ganddo berthynas broffesiynol gyda Preston y tu hwnt i fusnes Rheilffordd Nantlle.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:29, 19 Ionawr 2022

Ganwyd Alexander Marshall ym 1816 yn yr Alban. Mae'n bur debyg mai Alexander Marshall a Janet Mitchell oedd enwau ei rieni, o Irvine, Swydd Ayr. Bu yn Iwerddon am ran o'i yrfa, gan briodi ei wraig, Eliza Anne (oedd 18 mlynedd yn iau nag ef) yno. Roedd ei ferch hynaf Fanny wedi ei geni yno ym 1856, ond yr oedd ei ail blentyn, Amelia Jannet, wedi ei geni ym mhlwyf Llanbeblig ddwy flynedd yn ddiweddarach. Gellir amau felly iddo ddod i ardal Uwchgwyrfai tua 1856-7, er mwyn derbyn swydd efo Rheilffordd Nantlle. Fe'i disgrifir yng nghyfrifiad 1861 fel "rheolwr rheilffordd". Erbyn hynny, roedd trydydd plentyn, Eliza Anne, wedi ei geni i'r pâr, y tro hwn yn Llanllyfni. Ym 1861, cyfeiriad y teulu oedd Pen-y-groes, ychydig ddrysau o Dafarn y Stag's Head - a drws nesaf i Hugh Hughes, portar ar y rheilffordd. Roedd adeilad a ddefnyddid fel gorsaf Rheilffordd Nantlle wrth ochr y Stag's Head.[1]

Roedd Marshall yn rheolwr cyffredinol Rheilffordd Nantlle dan Edward Preston, y prydleswr o 1856 ymlaen.[2] Fe adawodd ei swydd, fodd bynnag, ym 1862, gan symud o'r ardal. Mae'n debyg iddo fod yn boblogaidd ymysg y dosbarth busnes yn Nyffryn Nantlle, gan iddynt gynnal cinio ffarwèl iddo yn Nhafarn y Stag, Pen-y-groes, pan dderbyniodd dysteb o gwpan a llwyau arian. Gofidiai'r rhai oedd yno am yr amgylchiadau a'i gorfododd i ymddiswyddo o'i swydd.[3]

Ceir sawl cyfeiriad ato yn y papurau newydd yng nghyd-destun y rheilffordd o Gonwy i Lanrwst a oedd yn cael ei hadeiladu, 1861-3.[4] Gan mai Edward Preston oedd yr is-gontractor ar gyfer adeiladu'r lein honno, mae'n debyg fod ganddo berthynas broffesiynol gyda Preston y tu hwnt i fusnes Rheilffordd Nantlle.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad 1861, plwyf Llanllyfni.
  2. JIC Boyd Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf 1, tt.29,112.
  3. North Wales Chronicle, 15.11.1862.
  4. North Wales Chronicle, 1861-3, passim.