Pont Sarn Wyth-dŵr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Safai '''Pont Sarn Wyth-dŵr''' ger Chwarel Tal-y-sarn, plwyf [[Llandwrog]], | Safai '''Pont Sarn Wyth-dŵr''' ger [[Chwarel Tal-y-sarn]], plwyf [[Llandwrog]], ar y ffordd heibio Petris a [[Plas Dorothea|Phlas Dorothea]] ar y ffordd a arferai redeg o'r hen ffordd trwy'r dyffryn (ger [[Plas Tal-y-sarn]]) am [[Tan'rallt|Dan'rallt]]. Roedd yn croesi ar draws [[Afon Llyfnwy]], a oedd yn ffin rhwng plwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanllyfni]]. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1837-8 i gynllun gan John Lloyd, syrfewr y sir, gan Lewis Williams, saer maen, ar gost o £163. Roedd iddi un prif fwa a saith o sianeli neu gwlfertau llai.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/98</ref> | ||
Fe'i hail-adeiladwyd drachefn ym 1855, mewn ymateb efallai i lythyr a anfonwyd ym mis Mehefin 1855 gan Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr [[Arglwydd Newborough]], Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud fod yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd â phont neu gwlfert dros bob un nant, ond bod angen 5 pont sylweddol rhwng [[Pen-y-groes]] a [[Rhyd-ddu]].<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/24838.</ref> | |||
Roedd un prif fwa a saith sianel lai gan y bont hon. Defnyddiodd yr ymgymerwr wastraff o’r chwareli lleol i codi a chryfhau’r sarn. John Prichard, Brynhyfryd, plwyf Llanbeblig, oedd yr ymgymerwr ym 1855 ac fe gytunodd i wneud y gwaith a gwneud gwaith cynnal a chadw arni am saith mlynedd am y gost o £70.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/20</ref> | |||
Fe elwir y bont weithiau ar fapiau'n ''Bont Wythdir''.<ref>Mapiau Ordnans 6" i'r filltir (gol. 1af, 1888).</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:47, 14 Ionawr 2022
Safai Pont Sarn Wyth-dŵr ger Chwarel Tal-y-sarn, plwyf Llandwrog, ar y ffordd heibio Petris a Phlas Dorothea ar y ffordd a arferai redeg o'r hen ffordd trwy'r dyffryn (ger Plas Tal-y-sarn) am Dan'rallt. Roedd yn croesi ar draws Afon Llyfnwy, a oedd yn ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanllyfni. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1837-8 i gynllun gan John Lloyd, syrfewr y sir, gan Lewis Williams, saer maen, ar gost o £163. Roedd iddi un prif fwa a saith o sianeli neu gwlfertau llai.[1]
Fe'i hail-adeiladwyd drachefn ym 1855, mewn ymateb efallai i lythyr a anfonwyd ym mis Mehefin 1855 gan Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud fod yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd â phont neu gwlfert dros bob un nant, ond bod angen 5 pont sylweddol rhwng Pen-y-groes a Rhyd-ddu.[2]
Roedd un prif fwa a saith sianel lai gan y bont hon. Defnyddiodd yr ymgymerwr wastraff o’r chwareli lleol i codi a chryfhau’r sarn. John Prichard, Brynhyfryd, plwyf Llanbeblig, oedd yr ymgymerwr ym 1855 ac fe gytunodd i wneud y gwaith a gwneud gwaith cynnal a chadw arni am saith mlynedd am y gost o £70.[3]
Fe elwir y bont weithiau ar fapiau'n Bont Wythdir.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma