Pont Gelli-ffrydiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Saif '''Pont y Gelli''' neu '''Pont Gelli-ffrydiau''' ar y B4410, sef yr hen [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]], ger y tŷ tyrpeg rhwng [[Nantlle]] a [[Drws-y-coed]]. Fe saif ger fferm [[Gelli-ffrydiau]], dros afonig a elwir yn [[Afon Gelli-ffrydiau]] sy'n rhedeg i mewn i [[Afon Drws-y-coed]] ychydig uwch na [[Llyn Nantlle Uchaf]]. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 12 troedfedd uwchben dwr yr afon. Fe adeiladwyd yn newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud fod y brif angen yn y sir am waith ar bontydd newydd oedd ger [[Gelli-ffrydiau]], nid nepell o bentref [[Nantlle]], yn cynnwys '"Pont y Gelynan".<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/24855.</ref> Rhaid oedd i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon oedd yr ymgymerwr. Cost y gwaith oedd £52.10s.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/29</ref>
Saif '''Pont y Gelli''' neu '''Pont Gelli-ffrydiau''' ar y B4410, sef yr hen [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]], ger y tŷ tyrpeg rhwng [[Nantlle]] a [[Drws-y-coed]]. Fe saif ger fferm [[Gelli-ffrydiau]], dros afonig a elwir yn [[Afon Gelli-ffrydiau]], sy'n rhedeg i mewn i [[Afon Drws-y-coed]] ychydig uwch na [[Llyn Nantlle Uchaf]]. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 12 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Adeiladwyd y bont o'r newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud mai'r prif angen am waith ar bontydd yn y sir oedd ger [[Gelli-ffrydiau]], nid nepell o bentref [[Nantlle]], yn cynnwys '"Pont y Gelynan".<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/24855.</ref> Rhaid oedd i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon oedd yr ymgymerwr. Cost y gwaith oedd £52.10s.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/29</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:38, 13 Ionawr 2022

Saif Pont y Gelli neu Pont Gelli-ffrydiau ar y B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y tŷ tyrpeg rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Fe saif ger fferm Gelli-ffrydiau, dros afonig a elwir yn Afon Gelli-ffrydiau, sy'n rhedeg i mewn i Afon Drws-y-coed ychydig uwch na Llyn Nantlle Uchaf. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 12 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Adeiladwyd y bont o'r newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud mai'r prif angen am waith ar bontydd yn y sir oedd ger Gelli-ffrydiau, nid nepell o bentref Nantlle, yn cynnwys '"Pont y Gelynan".[1] Rhaid oedd i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon oedd yr ymgymerwr. Cost y gwaith oedd £52.10s.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/24855.
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/29