Lôn Eifion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Erthygl newydd
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Lôn Eifion''' yn un o nifer o lwybrau a ddatblygwyd gan y Cyngor Sir ar gyfer cerddwyr a beicwyr ers y 1980au. Mae hi'n rhan o lwybr seiclo cenedlaethol rhif 5, rhwng Bangor a Caerdydd.
[[Delwedd:loneifion.jpg|200px|bawd|de|Lôn Eifion ger y Groeslon]]


Trwy Uwchgwyrfai o un pen i'r llall mae Lôn Eifion yn dilyn llwybr hen [[Rheilffordd Sir Gaernarfon|reilfordd o Gaernarfon i Afon Wen]]. Wedi i'r lein gau a chael ei chodi ym 1967, arhosai gwely'r lein fel yr oedd gyda cerrig mawr balast drosti nes i ddefnydd newydd ymddangos pan oedd Pwerdy Dinorwig yn cael ei adeiladu. Roedd angen tunelli dirifedi o raean a thywod ar gyfer y gwaith, a chafwyd hyd i'r rhain yn ardal [[Pant Glas]] yng Nghefn Graeanog ac agowyd [[Chwarel Cefn Gaeanog|chwarel yno]]. Gan fod hyn yn berygl o greu traffig trwm ar ffyrdd troellog y cyfnod cyn agor [[Ffordd Osgoi Pen--y-groes|ffordd osgoi Pen-y-groes]], gosodwyd lôn breifat ag arwyneb tarmac ar hyd gwely'r rheilffordd o [[Croesfan Graeanog|Groesfan Graeanog]] i [[Llanwnda (pentref)|Lanwnda]]. Wedi i waith Dinorwig ddod i ben, trowyd y darn tarmac yn lôn seiclo - er i'r lôn yn dal i gael ei hadnabod yn lleol fel y 'lôn loris'.
Mae '''Lôn Eifion''' yn un o nifer o lwybrau a ddatblygwyd gan y Cyngor Sir ar gyfer cerddwyr a beicwyr ers y 1980au. Mae'n rhan o lwybr seiclo cenedlaethol rhif 8, rhwng Bangor a Chaerdydd.


Maes o law, estynnodd y Cyngor Sir yr wyneb caled ar yr hen drac belled â Bryncir i'r de a hyd Cei Caernarfon i'r Gogledd.
Trwy Uwchgwyrfai o un pen i'r llall mae Lôn Eifion yn dilyn llwybr hen [[Rheilffordd Sir Gaernarfon|reilfordd o Gaernarfon i Afon Wen]]. Wedi i'r lein gau a chael ei chodi ym 1967, arhosodd gwely'r lein fel yr oedd gyda cherrig mawr balast drosto nes i ddefnydd newydd iddi ymddangos pan oedd Pwerdy Dinorwig yn cael ei adeiladu. Roedd angen tunelli dirifedi o raean a thywod ar gyfer y gwaith hwnnw, a chafwyd hyd i'r rhain yn ardal [[Pant-glas]] yng Nghefn Graeanog ac agorwyd [[Chwarel Cefn Graeanog|chwarel]] yno. Gan fod hyn yn berygl o achosi traffig trwm ar ffyrdd troellog y cyfnod cyn agor [[Ffordd Osgoi Pen-y-groes|ffordd osgoi Pen-y-groes]], gosodwyd lôn breifat ag arwyneb tarmac iddi ar hyd gwely'r rheilffordd o [[Croesfan Graeanog|Groesfan Graeanog]] i [[Llanwnda (pentref)|Lanwnda]]. Wedi i waith Dinorwig ddod i ben, trowyd y darn tarmac yn lôn seiclo - er i'r lôn ddal i gael ei hadnabod yn lleol fel y 'lôn loris'.
 
Maes o law, estynnodd y Cyngor Sir yr wyneb caled ar yr hen drac cyn belled â Bryncir i'r de a hyd at Gei Caernarfon i'r gogledd.


[[Categori:Cludiant]]
[[Categori:Cludiant]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:01, 11 Ionawr 2022

Lôn Eifion ger y Groeslon

Mae Lôn Eifion yn un o nifer o lwybrau a ddatblygwyd gan y Cyngor Sir ar gyfer cerddwyr a beicwyr ers y 1980au. Mae'n rhan o lwybr seiclo cenedlaethol rhif 8, rhwng Bangor a Chaerdydd.

Trwy Uwchgwyrfai o un pen i'r llall mae Lôn Eifion yn dilyn llwybr hen reilfordd o Gaernarfon i Afon Wen. Wedi i'r lein gau a chael ei chodi ym 1967, arhosodd gwely'r lein fel yr oedd gyda cherrig mawr balast drosto nes i ddefnydd newydd iddi ymddangos pan oedd Pwerdy Dinorwig yn cael ei adeiladu. Roedd angen tunelli dirifedi o raean a thywod ar gyfer y gwaith hwnnw, a chafwyd hyd i'r rhain yn ardal Pant-glas yng Nghefn Graeanog ac agorwyd chwarel yno. Gan fod hyn yn berygl o achosi traffig trwm ar ffyrdd troellog y cyfnod cyn agor ffordd osgoi Pen-y-groes, gosodwyd lôn breifat ag arwyneb tarmac iddi ar hyd gwely'r rheilffordd o Groesfan Graeanog i Lanwnda. Wedi i waith Dinorwig ddod i ben, trowyd y darn tarmac yn lôn seiclo - er i'r lôn ddal i gael ei hadnabod yn lleol fel y 'lôn loris'.

Maes o law, estynnodd y Cyngor Sir yr wyneb caled ar yr hen drac cyn belled â Bryncir i'r de a hyd at Gei Caernarfon i'r gogledd.