Pont Ffatri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif '''Pont Ffatri''' rhwng [[Pen-y-groes]] a phentref [[Llanllyfni]] ar yr hen briffordd i Dremadog, ger y ffatri wlân ar [[Afon Llyfnwy]]. Enw swyddogol y bont yw ''Pont Llanllyfni''. | Saif '''Pont Ffatri''' rhwng [[Pen-y-groes]] a phentref [[Llanllyfni]] ar yr hen briffordd i Dremadog, ger y ffatri wlân ar [[Afon Llyfnwy]]. Enw swyddogol y bont yw ''Pont Llanllyfni''. | ||
Mae [[Ffair Llanllyfni]]'n dal i gael ei chynnal ac yn y canrifoedd | Mae [[Ffair Llanllyfni]]'n dal i gael ei chynnal ac, yn y canrifoedd a fu, dyma oedd un o brif ffeiriau'r sir lle cyflogid gweision am y flwyddyn i ddod. Arferai'r sawl oedd am edrych am le newydd am y flwyddyn ymgaslgu ar y bont hon adeg ffair lle gallent gwrdd â chyflogwyr.<ref>Erthygl Wicipedia ar Afon [https://cy.wikipedia.org/wiki/Afon]</ref> | ||
Pont un bwa yw, wedi ei | Pont un bwa yw, wedi ei hadeiladu o’r newydd ym 1855, yn lle’r un oedd yno gynt. Mae ei huchder yn 12 troedfedd, ac mae’n 30 troedfedd o un ochr i’r llall. Yr un pryd, fe wnaed cryn welliant i raddiant y ffordd gan leddfu’r oleddf rhwng yr afon a’r pentref. Fe’i hadeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £685.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/27</ref> Roedd yr ailraddio'n golygu ailadeiladu 100 llath o [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]], a achosodd gryn drafferth i syrfewr y prosiect, Richard Owen, gan nad oedd hi wedi ei chwblhau erbyn Rhagfyr y flwyddyn honno.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/25083.</ref> | ||
Mae'r enw lleol ar y bont yn cyfeirio at [[Ffatri wlân Bryn]] sydd gerllaw. | Mae'r enw lleol ar y bont yn cyfeirio at [[Ffatri wlân Bryn]] sydd gerllaw. | ||
Enw'r bont fechan ar waelod gallt pentref Llanllyfni yw [[Pont y Rheithordy]]. | |||
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:43, 10 Ionawr 2022
Saif Pont Ffatri rhwng Pen-y-groes a phentref Llanllyfni ar yr hen briffordd i Dremadog, ger y ffatri wlân ar Afon Llyfnwy. Enw swyddogol y bont yw Pont Llanllyfni.
Mae Ffair Llanllyfni'n dal i gael ei chynnal ac, yn y canrifoedd a fu, dyma oedd un o brif ffeiriau'r sir lle cyflogid gweision am y flwyddyn i ddod. Arferai'r sawl oedd am edrych am le newydd am y flwyddyn ymgaslgu ar y bont hon adeg ffair lle gallent gwrdd â chyflogwyr.[1]
Pont un bwa yw, wedi ei hadeiladu o’r newydd ym 1855, yn lle’r un oedd yno gynt. Mae ei huchder yn 12 troedfedd, ac mae’n 30 troedfedd o un ochr i’r llall. Yr un pryd, fe wnaed cryn welliant i raddiant y ffordd gan leddfu’r oleddf rhwng yr afon a’r pentref. Fe’i hadeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £685.[2] Roedd yr ailraddio'n golygu ailadeiladu 100 llath o ffordd dyrpeg, a achosodd gryn drafferth i syrfewr y prosiect, Richard Owen, gan nad oedd hi wedi ei chwblhau erbyn Rhagfyr y flwyddyn honno.[3]
Mae'r enw lleol ar y bont yn cyfeirio at Ffatri wlân Bryn sydd gerllaw.
Enw'r bont fechan ar waelod gallt pentref Llanllyfni yw Pont y Rheithordy.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma