William Glynn, archddiacon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd y Dr '''William Glynn''' (marw 1557) yn drydydd mab i [[Robert ap Meredydd]], pennaeth [[Teulu Glynn (Glynllifon)]] a'i wraig Ellen Bulkeley o Fiwmares. Fe'i gymhwysodd yn Ddoethur yn y Gyfraith, ac yn cael gyrfa lewyrchus yn yr Eglwys. Yn y man fe ddyrchafwyd yn Archddiacon Môn, tra oedd ei frawd hŷn, y Dr [[Morus Glynn, archddiacon|Morus Glynn]] yn Archddiacon Meirionnydd. Roedd hefyd yn rheithor plwyf [[Clynnog Fawr]] a sawl man arall.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.262</ref>.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.172-3</ref>
Roedd Dr '''William Glynn''' (marw 1537) yn drydydd mab i [[Robert ap Meredydd]], pennaeth [[Teulu Glynn (Glynllifon)]] a'i wraig Ellen Bulkeley o Fiwmares. Cymhwysodd yn Ddoethur yn y Gyfraith a chafodd yrfa lewyrchus yn yr Eglwys. Yn y man fe'i dyrchafwyd yn Archddiacon Meirionnydd (gan ddilyn ei frawd hŷn, Dr [[Morus Glynn|Morus Glynn]] yn Archddiacon Meirionnydd); ac wedyn yn Archddiacon Môn o 1524 ymlaen.<ref>British History Online, ''Archdeacons of Anglesey'', [https://www.british-history.ac.uk/fasti-ecclesiae/1300-1541/vol11/pp9-10], cyrchwyd 2.3.2020</ref> Bu'n ddirprwy abl iawn yn y swyddogaethau hyn  i'r Esgob Thomas Skevington, Esgob Bangor, oedd hefyd yn abad Abaty Beaulieu yn Swydd Hants ac felly'n absennol o'i esgobaeth am lawer o'r amser. Mae Skevington yn enwog am sbarduno ailadeiladu'r eglwys gadeiriol ym Mangor, ac i William Glynn y syrthiodd y cyfrifoldeb o wireddu dymuniad yr esgob. Wedi i'r eglwys gadeiriol gael ei chwblhau, mae'n amlwg y trowyd sylw'r seiri maen at gwblhau adeiladu [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|Eglwys Clynnog]] ar ei newydd wedd.<ref>A.H. Dodd, ''A History of Caernarvonshire, 1284-1900'' (Caernarfon, 1968), t.42</ref> Roedd hefyd yn rheithor plwyf [[Clynnog Fawr]] a sawl man arall.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.262</ref>.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.172-3</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:11, 7 Ionawr 2022

Roedd Dr William Glynn (marw 1537) yn drydydd mab i Robert ap Meredydd, pennaeth Teulu Glynn (Glynllifon) a'i wraig Ellen Bulkeley o Fiwmares. Cymhwysodd yn Ddoethur yn y Gyfraith a chafodd yrfa lewyrchus yn yr Eglwys. Yn y man fe'i dyrchafwyd yn Archddiacon Meirionnydd (gan ddilyn ei frawd hŷn, Dr Morus Glynn yn Archddiacon Meirionnydd); ac wedyn yn Archddiacon Môn o 1524 ymlaen.[1] Bu'n ddirprwy abl iawn yn y swyddogaethau hyn i'r Esgob Thomas Skevington, Esgob Bangor, oedd hefyd yn abad Abaty Beaulieu yn Swydd Hants ac felly'n absennol o'i esgobaeth am lawer o'r amser. Mae Skevington yn enwog am sbarduno ailadeiladu'r eglwys gadeiriol ym Mangor, ac i William Glynn y syrthiodd y cyfrifoldeb o wireddu dymuniad yr esgob. Wedi i'r eglwys gadeiriol gael ei chwblhau, mae'n amlwg y trowyd sylw'r seiri maen at gwblhau adeiladu Eglwys Clynnog ar ei newydd wedd.[2] Roedd hefyd yn rheithor plwyf Clynnog Fawr a sawl man arall.[3].[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. British History Online, Archdeacons of Anglesey, [1], cyrchwyd 2.3.2020
  2. A.H. Dodd, A History of Caernarvonshire, 1284-1900 (Caernarfon, 1968), t.42
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172-3