Llewelyn Turner: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''Syr Llewelyn Turner''' (1823-1903) yn y Parkia, cartref y teulu, yn fab i William Turner a'i wraig Jane (Williams). Yr oedd yn flaenllaw ym mywy...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:10, 2 Ionawr 2022

Ganwyd Syr Llewelyn Turner (1823-1903) yn y Parkia, cartref y teulu, yn fab i William Turner a'i wraig Jane (Williams). Yr oedd yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus a dinesig tref Caernarfon, gan chwarae rhan flaenllaw adeg y colera yn y dref ym 1867 - gan fynnu clirio llawer o slymiau y dref . Sefydlodd y Royal Welsh Yacht Club. Bu'n is-gwnstabl castell Caernarfon a Bu'n weithjgar efo badau achub. Priododd ym 1878. Bu'n siryf Sir Gaernarfon, 1886-7. Bu farw 18 Medi 1903.[1]

Masnachwr yng Nghaernarfon a ganolbwyntiodd ar y diwydiant llechi ydoedd, a'i brif gysylltiad â Uwchgwyrfai oedd ei ymwneud â rhai o gwmnïau'r chwareli, yn benodol Chwarel Brynfferam.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur ar lein: erthygl ar William Turner, ei dad.