Ffynnon Rhedyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gorllwyn (sgwrs | cyfraniadau)
B cywiro sillafu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Ffynnon Rhedyw''' ar lan [[Afon Llyfnwy]], ryw chwarter milltir i'r Gogledd-orllewin o [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]]. Dywedir iddi fod yn hen ffynnon gyda chysylltiadau paganaidd a fabwysiadwyd gan Rhedyw fel ffynnon ag arwyddocad Cristionogol; gweler hyn mewn sawl ffynohonell, ond heb awdurdod cynnar am yr honiad<ref>e.e. Gwefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-llanllyfni-sant-rhedyw.htm]. Adalwyd 01.04.2018</ref>. Erbyn hyn, nid oes fawr i'w weld yno, er i Francis Jones nodi fod slabiau cerrig gerllaw yn awgrymu y bu iddi gael ei gwarchod gan waliau. Defnyddiwyd y dŵr ohoni ar gyfer bedyddiadau yn Eglwys Llanllyfni. Ni nodir unrhyw rinweddau meddygol nag ofergoelion yn perthyn i'r ffynnon, ac felly gellir tybio mai ffynnon at bwrpas yfed y dŵr ohoni mae hi wedi bod erioed, er dichon iddi gael ei chyfrif yn ffynnon sanctaidd.<ref>Francis Jones, ''The Holy Wells of Wales'' (Caerdydd, 1954), .152</ref>
Roedd '''Ffynnon Rhedyw''' ar lan [[Afon Llyfnwy]], rhyw chwarter milltir i'r gogledd-orllewin o [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]]. Dywedir ei bod yn hen ffynnon gyda chysylltiadau paganaidd a fabwysiadwyd gan Rhedyw fel ffynnon ag arwyddocâd Cristnogol iddi: gwelir hyn mewn sawl ffynhonnell, ond heb awdurdod cynnar i gadarnhau'r honiad,<ref>e.e., Gwefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-llanllyfni-sant-rhedyw.htm]. Adalwyd 01.04.2018</ref>. Erbyn hyn, nid oes fawr i'w weld yno, er i Francis Jones nodi bod slabiau cerrig gerllaw yn awgrymu y bu iddi gael ei gwarchod gan waliau ar un adeg. Defnyddiwyd y dŵr ohoni ar gyfer bedyddiadau yn Eglwys Llanllyfni. Ni nodir unrhyw rinweddau meddygol nag ofergoelion yn perthyn i'r ffynnon, ac felly gellir tybio mai ffynnon at bwrpas yfed y dŵr ohoni y bu erioed, er dichon iddi gael ei chyfrif yn ffynnon sanctaidd.<ref>Francis Jones, ''The Holy Wells of Wales'' (Caerdydd, 1954), .152</ref>


Fe ymddengys fod adeilad, neu waliau a grisiau at y dŵr, wedi cael eu codi yn y gorffennol, ac roedd peth dystiolaeth ar y safle mor ddiweddar â 30 mlynedd yn ôl.<ref>Gwefan Well Hopper, [https://wellhopper.wordpress.com/2017/07/22/ffynnon-rhedyw-llanllyfni/], adalwyd 01.04.2018. Mae lluniau lliw diweddar o'r safle ar y wefan hon.</ref> Pan ymwelodd archwilwyr y Comisiwn Henebion y safle ychydig cyn 1960, fe welsant lloc wedi'i amgáu, tua 10' wrth 8', gyda dwy droedfedd o ddyfnder o ddŵr ynddo. Roedd grisiau ar hyd dwy ochr, a rhywfaint o dystiolaeth o adeilad.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.II, (Llundain, 1960), t.212.</ref>
Fe ymddengys fod adeilad, neu waliau a grisiau at y dŵr, wedi cael eu codi yn y gorffennol, ac roedd peth tystiolaeth o hynny ar y safle mor ddiweddar â 30 mlynedd yn ôl.<ref>Gwefan Well Hopper, [https://wellhopper.wordpress.com/2017/07/22/ffynnon-rhedyw-llanllyfni/], adalwyd 01.04.2018. Mae lluniau lliw diweddar o'r safle ar y wefan hon.</ref> Pan ymwelodd archwilwyr y Comisiwn Henebion â'r safle ychydig cyn 1960, fe welsant loc wedi'i amgáu, tua 10' wrth 8', gyda dwy droedfedd o ddyfnder o ddŵr ynddo. Roedd grisiau ar hyd dwy ochr, a rhywfaint o dystiolaeth o adeilad.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.II, (Llundain, 1960), t.212.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:04, 1 Ionawr 2022

Roedd Ffynnon Rhedyw ar lan Afon Llyfnwy, rhyw chwarter milltir i'r gogledd-orllewin o Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni. Dywedir ei bod yn hen ffynnon gyda chysylltiadau paganaidd a fabwysiadwyd gan Rhedyw fel ffynnon ag arwyddocâd Cristnogol iddi: gwelir hyn mewn sawl ffynhonnell, ond heb awdurdod cynnar i gadarnhau'r honiad,[1]. Erbyn hyn, nid oes fawr i'w weld yno, er i Francis Jones nodi bod slabiau cerrig gerllaw yn awgrymu y bu iddi gael ei gwarchod gan waliau ar un adeg. Defnyddiwyd y dŵr ohoni ar gyfer bedyddiadau yn Eglwys Llanllyfni. Ni nodir unrhyw rinweddau meddygol nag ofergoelion yn perthyn i'r ffynnon, ac felly gellir tybio mai ffynnon at bwrpas yfed y dŵr ohoni y bu erioed, er dichon iddi gael ei chyfrif yn ffynnon sanctaidd.[2]

Fe ymddengys fod adeilad, neu waliau a grisiau at y dŵr, wedi cael eu codi yn y gorffennol, ac roedd peth tystiolaeth o hynny ar y safle mor ddiweddar â 30 mlynedd yn ôl.[3] Pan ymwelodd archwilwyr y Comisiwn Henebion â'r safle ychydig cyn 1960, fe welsant loc wedi'i amgáu, tua 10' wrth 8', gyda dwy droedfedd o ddyfnder o ddŵr ynddo. Roedd grisiau ar hyd dwy ochr, a rhywfaint o dystiolaeth o adeilad.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. e.e., Gwefan Dyffryn Nantlle, [1]. Adalwyd 01.04.2018
  2. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954), .152
  3. Gwefan Well Hopper, [2], adalwyd 01.04.2018. Mae lluniau lliw diweddar o'r safle ar y wefan hon.
  4. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.II, (Llundain, 1960), t.212.