Beuno Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sant Cymreig oedd Beuno (bu farw c.642). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Clynnog Fawr yng Ngwynedd. Bywgraffiad Mae'r unig fuchedd sydd ar gae...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Sant Cymreig oedd Beuno (bu farw c.642). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Clynnog Fawr yng Ngwynedd.
Sant o Gymro oedd '''Beuno''' (bu farw c.642). Ei brif enwogrwydd yw fel sylfaenydd clas [[Clynnog Fawr]] ond roedd ei ddylanwad (yn bersonol neu drwy ei ddilynwyr) yn fawr, gan fod nifer helaeth o eglwysi Cymru wedi eu cysegru iddo. (Gweler isod).
Bywgraffiad


Mae'r unig fuchedd sydd ar gael yn hwyr, yn dyddio o tua 1350, yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi. Dywedir ei fod yn perthyn i deulu brenhinol Morgannwg, ac iddo gael ei eni ym Mhowys, ar lan Afon Hafren. Cafodd ei addysgu yng Nghaerwent cyn ymsefydlu yn Aberriw. Yn ddiweddarach bu yng Ngwyddelwern a Threffynnon, cyn ymsefydlu yng Nglynnog. Dywedir i'r tir i sefydlu'r clas yng Nghlynnog gael ei roi gan bennaeth o'r enw Gwyddeint, cefnder i frenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, oedd yn teyrnasu rhwng tua 620 a 633.
==Bywgraffiad==


Dywedir fod y santes Gwenffrewi yn nith iddo. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad a hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen a chleddyf. Gosododd Beuno ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a'i hadfywio.
Mewn gwirionedd, heblaw am ei enw a'r ychydig ffeithiau y gellir eu dehongli oherwydd dosbarthiad cysegriadau iddo, mae llawer o'r ffeithiau am ei fywyd yn tueddu mwy at fyth na ffaith. Cydnabyddir, fodd bynnag, ei fod yn ffigwr hanesyddol ac yn un o bileri'r eglwys Geltaidd yng ngogledd Cymru. Mae'r unig fuchedd iddo sydd ar gael yn un hwyr, yn dyddio o tua 1350, a hynny yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi. Dywedir ei fod yn perthyn i deulu brenhinol Morgannwg, ac iddo gael ei eni ym Mhowys, ar lan Afon Hafren. Cafodd ei addysgu yng Nghaerwent cyn ymsefydlu yn Aberriw. Yn ddiweddarach bu yng Ngwyddelwern a Threffynnon, cyn ymsefydlu yng Nghlynnog. Dywedir i'r tir i sefydlu'r clas yng Nghlynnog gael ei roi gan bennaeth o'r enw Gwyddeint, cefnder i frenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, oedd yn teyrnasu rhwng tua 620 a 633. Mae'n bur sicr mai Beuno oedd pennaeth, neu abad, cyntaf y sefydliad.
Eglwysi


Mae'r eglwysi a gysegrwyd i Sant Beuno yn cynnwys Aberffraw a Trefdraeth ar Ynys Môn a Chlynnog, Penmorfa, Carnguwch, Pistyll, a Botwnnog yng Ngwynedd. Ym Mhowys mae Llanycil, Gwyddelwern, Aberriw a Betws Cydewain wedi eu cysegru iddo.
Dywedir fod y santes Gwenfrewi yn nith iddo. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad â hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen â chleddyf. Gosododd Beuno ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a'i hadfywio. Mae adfer pennau i'w cael yn nifer o chwedlau am wyrthiau a wnaed ganddo.
 
Daeth Beuno'n wrthrych cwlt yn y Canol Oesoedd, ac addas oedd bod ei eglwys (a ailadeiladwyd yn llwyr rhwng 1480 a 1530) yn arhosfan bwysig, os nad yn nod ynddi ei hun, ar lwybr y pererinion i Enlli.


Mae ei ddydd gŵyl ar 21 Ebrill.
Mae ei ddydd gŵyl ar 21 Ebrill.
==Eglwysi a gysegrwyd i Feuno==
[[Delwedd:Eglwys Clynnog c1975.jpg|bawd|300px|de|Eglwys Clynnog Fawr]]
Mae'r eglwysi a gysegrwyd i Feuno Sant yn cynnwys Aberffraw a Threfdraeth yn Ynys Môn a Chlynnog, Penmorfa, Carnguwch, Pistyll, a Botwnnog yng Ngwynedd. Ym Mhowys  a Meirionnydd mae Llanycil, Gwyddelwern, Aberriw a Betws Cydewain wedi eu cysegru iddo.
{{eginyn}}
[[Categori:Saint]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:22, 1 Ionawr 2022

Sant o Gymro oedd Beuno (bu farw c.642). Ei brif enwogrwydd yw fel sylfaenydd clas Clynnog Fawr ond roedd ei ddylanwad (yn bersonol neu drwy ei ddilynwyr) yn fawr, gan fod nifer helaeth o eglwysi Cymru wedi eu cysegru iddo. (Gweler isod).

Bywgraffiad

Mewn gwirionedd, heblaw am ei enw a'r ychydig ffeithiau y gellir eu dehongli oherwydd dosbarthiad cysegriadau iddo, mae llawer o'r ffeithiau am ei fywyd yn tueddu mwy at fyth na ffaith. Cydnabyddir, fodd bynnag, ei fod yn ffigwr hanesyddol ac yn un o bileri'r eglwys Geltaidd yng ngogledd Cymru. Mae'r unig fuchedd iddo sydd ar gael yn un hwyr, yn dyddio o tua 1350, a hynny yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi. Dywedir ei fod yn perthyn i deulu brenhinol Morgannwg, ac iddo gael ei eni ym Mhowys, ar lan Afon Hafren. Cafodd ei addysgu yng Nghaerwent cyn ymsefydlu yn Aberriw. Yn ddiweddarach bu yng Ngwyddelwern a Threffynnon, cyn ymsefydlu yng Nghlynnog. Dywedir i'r tir i sefydlu'r clas yng Nghlynnog gael ei roi gan bennaeth o'r enw Gwyddeint, cefnder i frenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, oedd yn teyrnasu rhwng tua 620 a 633. Mae'n bur sicr mai Beuno oedd pennaeth, neu abad, cyntaf y sefydliad.

Dywedir fod y santes Gwenfrewi yn nith iddo. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad â hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen â chleddyf. Gosododd Beuno ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a'i hadfywio. Mae adfer pennau i'w cael yn nifer o chwedlau am wyrthiau a wnaed ganddo.

Daeth Beuno'n wrthrych cwlt yn y Canol Oesoedd, ac addas oedd bod ei eglwys (a ailadeiladwyd yn llwyr rhwng 1480 a 1530) yn arhosfan bwysig, os nad yn nod ynddi ei hun, ar lwybr y pererinion i Enlli.

Mae ei ddydd gŵyl ar 21 Ebrill.

Eglwysi a gysegrwyd i Feuno

Eglwys Clynnog Fawr

Mae'r eglwysi a gysegrwyd i Feuno Sant yn cynnwys Aberffraw a Threfdraeth yn Ynys Môn a Chlynnog, Penmorfa, Carnguwch, Pistyll, a Botwnnog yng Ngwynedd. Ym Mhowys a Meirionnydd mae Llanycil, Gwyddelwern, Aberriw a Betws Cydewain wedi eu cysegru iddo.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma