Helynt Cyfarfod Misol Rhostryfan 1874: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bu cryn helynt yng '''Nghyfarfod Misol Rhostryfan''', a gynhaliwyd yng nghapel Horeb (M.C.) ddydd Llun 7 Rhagfyr 1874, gan i amryw o'r gweinidogion a'r bl...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Bu cryn helynt yng '''Nghyfarfod Misol Rhostryfan''', a gynhaliwyd yng nghapel Horeb (M.C.) ddydd Llun 7 Rhagfyr 1874, gan i amryw o'r gweinidogion a'r blaenoriaid a oedd yn bresennol fynd yn sâl ar ôl bwyta cig drwg i ginio yno.  
Bu cryn helynt yng '''Nghyfarfod Misol Rhostryfan''', a gynhaliwyd yng nghapel [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan|Horeb (M.C.)]] ddydd Llun 7 Rhagfyr 1874, gan i amryw o'r gweinidogion a'r blaenoriaid a oedd yn bresennol fynd yn sâl ar ôl bwyta cig drwg i ginio yno.  

Ceir yr hanes gan W. Gilbert Williams yn ei ysgrif fer "Angau yn y Crochan".<sup>[1]</sup> Daw teitl yr ysgrif o adnod yn Ail Lyfr y Brenhinoedd yn y Beibl ac er na fu i'r anffawd yn Rhostryfan fod yn angau i neb, diolch i'r drefn, eto achosodd gryn annifyrrwch i lawer. Rhoddid cryn fri ar baratoi bwyd mewn cyfarfodydd misol bryd hynny ac aeth merched capel Horeb ati i baratoi gwledd i'r rhai a ddeuai i'r cyfarfod. Cawsant fenthyg crochan pres mawr gan Mrs Sampson Roberts, Bodaden, i ferwi'r cig ynddo ond, gwaetha'r modd, ar ôl paratoi'r cig ar y dydd Gwener cyn y cyfarfod misol, fe'i gadawyd yn y crochan dros y Sul. Adweithiodd y cig â metel y crochan ac aeth yn ddrwg erbyn y dydd Llun, er ei bod yn dywydd oer a gaeafol. O ganlyniad, erbyn diwedd y prynhawn roedd llawer o'r gweinidogion a'r blaenoriaid yn dioddef yn enbyd oddi wrth ddolur rhydd ac yn gorfod rhuthro allan o'r capel. Un o'r dioddefwyr oedd y Parchedig Robert Ellis, Ysgoldy, a bregethai gyda'r nos wedi'r cyfarfod misol. Bu'n rhaid iddo ef ffoi o'r pulpud tra oedd y gynulleidfa'n canu emyn a chafodd noson annifyr iawn wedyn yn fferm Bodgarad, lle'r arhosai dros nos.  
Ceir yr hanes gan [[W. Gilbert Williams]] yn ei ysgrif fer "Angau yn y Crochan".<ref>I gael yr hanes yn llawn, gweler "Angau yn y Crochan" yn W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Cyhoeddiadau Mei, Awst 1983), tt. 135-7.</ref> Daw teitl yr ysgrif o adnod yn Ail Lyfr y Brenhinoedd yn y Beibl ac er na fu i'r anffawd yn [[Rhostryfan]] fod yn angau i neb, diolch i'r drefn, eto achosodd gryn annifyrrwch i lawer. Rhoddid cryn fri ar baratoi bwyd mewn cyfarfodydd misol bryd hynny ac aeth merched capel Horeb ati i baratoi gwledd i'r rhai a ddeuai i'r cyfarfod. Cawsant fenthyg crochan pres mawr gan Mrs Sampson Roberts, [[Bodaden]], i ferwi'r cig ynddo ond, gwaetha'r modd, ar ôl paratoi'r cig ar y dydd Gwener cyn y cyfarfod misol, fe'i gadawyd yn y crochan dros y Sul. Adweithiodd y cig â metel y crochan ac aeth yn ddrwg erbyn y dydd Llun, er ei bod yn dywydd oer a gaeafol. O ganlyniad, erbyn diwedd y prynhawn roedd llawer o'r gweinidogion a'r blaenoriaid yn dioddef yn enbyd oddi wrth ddolur rhydd ac yn gorfod rhuthro allan o'r capel. Un o'r dioddefwyr oedd y Parchedig Robert Ellis, Ysgoldy, a bregethai gyda'r nos wedi'r cyfarfod misol. Bu'n rhaid iddo ef ffoi o'r pulpud tra oedd y gynulleidfa'n canu emyn a chafodd noson annifyr iawn wedyn yn fferm [[Bodgarad]], lle'r arhosai dros nos.  

Yn dilyn yr anffawd, dywedir i Mrs Sampson Roberts (a oedd yn un o hoelion wyth yr achos yn Horeb) adael y crochan tramgwyddus yn rhodd i'r eglwys. Fel y gellid disgwyl, nid oedd amryw eisiau ei weld wedyn. Yn fuan wedyn roedd angen lampau olew newydd yng nghapel Horeb a daethpwyd i gytundeb â masnachwr o Gaernarfon i gyfnewid y crochan pres am set o lampau!  

Mrs Sampson Roberts oedd y gyntaf i'w chladdu ym mynwent Llanwnda dan y "Drefn Newydd", a ganiatâi i weinidog anghydffurfiol wasanaethu mewn angladd ym mynwent yr eglwys Anglicanaidd. Cyn pasio'r ddeddf a ganiatâi hynny, dim ond ficer neu reithor y plwyf a gai wasanaethu ym mynwent yr eglwys. Fe wnaeth hynny dramgwyddo ficer Llanwnda yn fawr ar y pryd gan ei fod yn rhagweld y byddai llawer o anghydffurfwyr y plwyf yn dilyn esiampl teulu Bodaden wedi hynny.  
Mrs Sampson Roberts oedd y gyntaf i'w chladdu ym mynwent [[Llanwnda]] dan y "Drefn Newydd", a ganiatâi i weinidog anghydffurfiol wasanaethu mewn angladd ym mynwent yr eglwys Anglicanaidd. Cyn pasio'r ddeddf a ganiatâi hynny, dim ond ficer neu reithor y plwyf a gai wasanaethu ym mynwent yr eglwys. Fe wnaeth hynny dramgwyddo ficer Llanwnda yn fawr ar y pryd gan ei fod yn rhagweld y byddai llawer o anghydffurfwyr y plwyf yn dilyn esiampl teulu Bodaden wedi hynny.  

== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

1. I gael yr hanes yn llawn, gweler "Angau yn y Crochan" yn W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Cyhoeddiadau Mei, Awst 1983), tt. 135-7.
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Iechyd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:00, 29 Rhagfyr 2021

Bu cryn helynt yng Nghyfarfod Misol Rhostryfan, a gynhaliwyd yng nghapel Horeb (M.C.) ddydd Llun 7 Rhagfyr 1874, gan i amryw o'r gweinidogion a'r blaenoriaid a oedd yn bresennol fynd yn sâl ar ôl bwyta cig drwg i ginio yno.

Ceir yr hanes gan W. Gilbert Williams yn ei ysgrif fer "Angau yn y Crochan".[1] Daw teitl yr ysgrif o adnod yn Ail Lyfr y Brenhinoedd yn y Beibl ac er na fu i'r anffawd yn Rhostryfan fod yn angau i neb, diolch i'r drefn, eto achosodd gryn annifyrrwch i lawer. Rhoddid cryn fri ar baratoi bwyd mewn cyfarfodydd misol bryd hynny ac aeth merched capel Horeb ati i baratoi gwledd i'r rhai a ddeuai i'r cyfarfod. Cawsant fenthyg crochan pres mawr gan Mrs Sampson Roberts, Bodaden, i ferwi'r cig ynddo ond, gwaetha'r modd, ar ôl paratoi'r cig ar y dydd Gwener cyn y cyfarfod misol, fe'i gadawyd yn y crochan dros y Sul. Adweithiodd y cig â metel y crochan ac aeth yn ddrwg erbyn y dydd Llun, er ei bod yn dywydd oer a gaeafol. O ganlyniad, erbyn diwedd y prynhawn roedd llawer o'r gweinidogion a'r blaenoriaid yn dioddef yn enbyd oddi wrth ddolur rhydd ac yn gorfod rhuthro allan o'r capel. Un o'r dioddefwyr oedd y Parchedig Robert Ellis, Ysgoldy, a bregethai gyda'r nos wedi'r cyfarfod misol. Bu'n rhaid iddo ef ffoi o'r pulpud tra oedd y gynulleidfa'n canu emyn a chafodd noson annifyr iawn wedyn yn fferm Bodgarad, lle'r arhosai dros nos.

Yn dilyn yr anffawd, dywedir i Mrs Sampson Roberts (a oedd yn un o hoelion wyth yr achos yn Horeb) adael y crochan tramgwyddus yn rhodd i'r eglwys. Fel y gellid disgwyl, nid oedd amryw eisiau ei weld wedyn. Yn fuan wedyn roedd angen lampau olew newydd yng nghapel Horeb a daethpwyd i gytundeb â masnachwr o Gaernarfon i gyfnewid y crochan pres am set o lampau!

Mrs Sampson Roberts oedd y gyntaf i'w chladdu ym mynwent Llanwnda dan y "Drefn Newydd", a ganiatâi i weinidog anghydffurfiol wasanaethu mewn angladd ym mynwent yr eglwys Anglicanaidd. Cyn pasio'r ddeddf a ganiatâi hynny, dim ond ficer neu reithor y plwyf a gai wasanaethu ym mynwent yr eglwys. Fe wnaeth hynny dramgwyddo ficer Llanwnda yn fawr ar y pryd gan ei fod yn rhagweld y byddai llawer o anghydffurfwyr y plwyf yn dilyn esiampl teulu Bodaden wedi hynny.

Cyfeiriadau

  1. I gael yr hanes yn llawn, gweler "Angau yn y Crochan" yn W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, Awst 1983), tt. 135-7.