Gwylmabsant Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Cynhelid '''Gwylmabsant Clynnog''' ar y dydd Llun wedi'r Sulgwyn bob blwyddyn. | Cynhelid '''Gwylmabsant Clynnog''' ar y dydd Llun wedi'r Sulgwyn bob blwyddyn. Hon oedd un o wylmabsantau pwysicaf yn y fro, ac yr oedd iddi enw o fod yn llawn rialtwch, cwffio a meddwi, er yn ei hanfod ei phwrpas oedd clodfori a dathlu bywyd [[Sant Beuno]], sylfaenydd [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|eglwys y plwyf]]. "Adeg o gynnwrf a rhialtwch ac o ymladd a meddwi", meddai William Hobley am yr Wylmabsant, â'i dafod yn ei foch, "canys heblaw lledrithiau'r anweledig, rhaid cael hefyd gynnwrf cig a gwaed cyn bydd byd neb rhyw ddyn yn un llawn a boddhaol".<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.10</ref> | ||
Ceir hanes o rywbryd tua 1770 am [[Robert Thomas, Y Ffridd]] ger pentref [[Nantlle]] yn cychwyn allan i ymladd dros ei blwyf, sef plwyf [[Llanllyfni]], | Ceir yn llyfr Hobley hanes o rywbryd tua 1770 am [[Robert Thomas, Y Ffridd]] ger pentref [[Nantlle]] yn cychwyn allan i ymladd dros ei blwyf, sef plwyf [[Llanllyfni]], ar ddydd Llun Sulgwyn : | ||
Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o’r Ffridd, “a chlamp o ffon dderwen yn ei law,’’ a’i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. "Tewch â gwirioni, ffyliaid,” ebe yntau, “myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango’r hanner dwsin arall.” Yn y modd hynny Robert y pencampwr! | Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o’r Ffridd, “a chlamp o ffon dderwen yn ei law,’’ a’i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. "Tewch â gwirioni, ffyliaid,” ebe yntau, “myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango’r hanner dwsin arall.” Yn y modd hynny Robert y pencampwr! | ||
ond ar y ffordd fe glywodd sŵn pregethu a chafodd dröedigaeth, gan droi (yn llythrennol) am adref. Meddai Hobley wedyn: | ond ar y ffordd fe glywodd sŵn pregethu a chafodd dröedigaeth, gan droi (yn llythrennol) am adref. Meddai Hobley wedyn: | ||
Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.111</ref> | Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.111</ref> | ||
Gyda dylanwad y Methodistiaid yn yr ardal yn cryfhau a threfn gynyddol yn | Gyda dylanwad y Methodistiaid yn yr ardal yn cryfhau a threfn gynyddol yn ymledu trwy'r wlad gyda thwf cyflogaeth yn y chwareli, edwinodd bywiogrwydd yr hen wyliau mabsant a'r ffeiriau a gynhelid yn aml yn gysylltiedig â'r gwyliau hynny. Nid cyd-ddigwyddiad efallai yw'r ffaith fod cyfarfodydd darllen ysgolion Sul [[Dosbarth Clynnog|dosbarth Methodistaidd Clynnog]], a sefydlwyd gan [[Eben Fardd]] yng nghylch [[Clynnog Fawr]], wedi arfer cael eu cynnal ar ddydd Llun Sulgwyn bob blwyddyn.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.12-17</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:01, 8 Rhagfyr 2021
Cynhelid Gwylmabsant Clynnog ar y dydd Llun wedi'r Sulgwyn bob blwyddyn. Hon oedd un o wylmabsantau pwysicaf yn y fro, ac yr oedd iddi enw o fod yn llawn rialtwch, cwffio a meddwi, er yn ei hanfod ei phwrpas oedd clodfori a dathlu bywyd Sant Beuno, sylfaenydd eglwys y plwyf. "Adeg o gynnwrf a rhialtwch ac o ymladd a meddwi", meddai William Hobley am yr Wylmabsant, â'i dafod yn ei foch, "canys heblaw lledrithiau'r anweledig, rhaid cael hefyd gynnwrf cig a gwaed cyn bydd byd neb rhyw ddyn yn un llawn a boddhaol".[1]
Ceir yn llyfr Hobley hanes o rywbryd tua 1770 am Robert Thomas, Y Ffridd ger pentref Nantlle yn cychwyn allan i ymladd dros ei blwyf, sef plwyf Llanllyfni, ar ddydd Llun Sulgwyn :
Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o’r Ffridd, “a chlamp o ffon dderwen yn ei law,’’ a’i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. "Tewch â gwirioni, ffyliaid,” ebe yntau, “myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango’r hanner dwsin arall.” Yn y modd hynny Robert y pencampwr!
ond ar y ffordd fe glywodd sŵn pregethu a chafodd dröedigaeth, gan droi (yn llythrennol) am adref. Meddai Hobley wedyn:
Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw.[2]
Gyda dylanwad y Methodistiaid yn yr ardal yn cryfhau a threfn gynyddol yn ymledu trwy'r wlad gyda thwf cyflogaeth yn y chwareli, edwinodd bywiogrwydd yr hen wyliau mabsant a'r ffeiriau a gynhelid yn aml yn gysylltiedig â'r gwyliau hynny. Nid cyd-ddigwyddiad efallai yw'r ffaith fod cyfarfodydd darllen ysgolion Sul dosbarth Methodistaidd Clynnog, a sefydlwyd gan Eben Fardd yng nghylch Clynnog Fawr, wedi arfer cael eu cynnal ar ddydd Llun Sulgwyn bob blwyddyn.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma