Tiboeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Enw amgen ar [[Llyfr Beuno|Lyfr Beuno]] yw '''Tiboeth''', a gedwid yn [[Eglwys beuno sant, Clynnog Fawr]] nes iddo ddiflannu tua 200 mlynedd yn ôl.
Enw amgen ar [[Llyfr Beuno|Lyfr Beuno]] yw '''Tiboeth''', a gedwid yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] nes iddo ddiflannu tua 200 mlynedd yn ôl. Mewn erthygl ar hanes plwyf [[Clynnog Fawr|Clynnog]] yn ''Y Gwladgarwr 1838''<ref>Erthygl gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) dan y llythrennau E.T. yn ''Y Gwladgarwr'' 1838, tt.40-45. (Mae'r erthygl yn ei chyfanrwydd yn bur ddifyr.) </ref>, dywed [[Eben Fardd]] fod y llyfr hwn yn cynnwys llawer o hen hanes eglwysig ac yr honnid iddo gael ei ysgrifennu gan y sant [[Twrog Sant|Twrog]]. Yn ôl Eben diflannodd y llyfr o [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|Eglwys Clynnog]] tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ond nid yw'n nodi unrhyw ffynhonnell dros hynny. Eglura ymhellach fod y llyfr wedi cael ei alw yn "Tiboeth" neu "Diboeth" oherwydd iddo lwyddo i oroesi heb ei niweidio ar dri achlysur pan aeth Eglwys Beuno ar dân ar wahanol adegau yn y gorffennol. Oherwydd iddo ddod yn ddianaf drwy'r fflamau fe'i galwyd y "Di-boeth". Yn ôl traddodiad cedwid y llyfr naill ai o fewn cloriau haearn neu mewn cist haearn ac felly y llwyddodd i oroesi'r tanau. Ar derfyn ei bwt am y "Tiboeth" yn yr erthygl dywed Eben ymhellach ei fod wedi cael ar ddeall i'r llyfr fynd i feddiant "un o ddysgedigion Cymröaidd yr oes aeth heibio", a theimlai y dylai disgynyddion yr unigolyn hwnnw ei ddychwelyd i'w briod le. Fodd bynnag, nid yw'n rhoi unrhyw syniad inni pwy oedd ganddo mewn golwg, gwaetha'r modd. Felly, mae dirgelwch y "Tiboeth" yn parhau!
 
== Cyfeiriadau ==
 
 


[[Categori:Hanes]]
[[Categori:Hanes]]
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Crefydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:51, 16 Tachwedd 2021

Enw amgen ar Lyfr Beuno yw Tiboeth, a gedwid yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr nes iddo ddiflannu tua 200 mlynedd yn ôl. Mewn erthygl ar hanes plwyf Clynnog yn Y Gwladgarwr 1838[1], dywed Eben Fardd fod y llyfr hwn yn cynnwys llawer o hen hanes eglwysig ac yr honnid iddo gael ei ysgrifennu gan y sant Twrog. Yn ôl Eben diflannodd y llyfr o Eglwys Clynnog tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ond nid yw'n nodi unrhyw ffynhonnell dros hynny. Eglura ymhellach fod y llyfr wedi cael ei alw yn "Tiboeth" neu "Diboeth" oherwydd iddo lwyddo i oroesi heb ei niweidio ar dri achlysur pan aeth Eglwys Beuno ar dân ar wahanol adegau yn y gorffennol. Oherwydd iddo ddod yn ddianaf drwy'r fflamau fe'i galwyd y "Di-boeth". Yn ôl traddodiad cedwid y llyfr naill ai o fewn cloriau haearn neu mewn cist haearn ac felly y llwyddodd i oroesi'r tanau. Ar derfyn ei bwt am y "Tiboeth" yn yr erthygl dywed Eben ymhellach ei fod wedi cael ar ddeall i'r llyfr fynd i feddiant "un o ddysgedigion Cymröaidd yr oes aeth heibio", a theimlai y dylai disgynyddion yr unigolyn hwnnw ei ddychwelyd i'w briod le. Fodd bynnag, nid yw'n rhoi unrhyw syniad inni pwy oedd ganddo mewn golwg, gwaetha'r modd. Felly, mae dirgelwch y "Tiboeth" yn parhau!

Cyfeiriadau

  1. Erthygl gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) dan y llythrennau E.T. yn Y Gwladgarwr 1838, tt.40-45. (Mae'r erthygl yn ei chyfanrwydd yn bur ddifyr.)