Pont Chatham: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Pont Chatham''' yn croesi Afon Carrog ger ei haber ym mhen uchaf Y Foryd. Mae'n croesi'r ffin rhwng plwyf Llanwnda a phlwyf Llandwrog...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:23, 28 Hydref 2021

Mae Pont Chatham yn croesi Afon Carrog ger ei haber ym mhen uchaf Y Foryd. Mae'n croesi'r ffin rhwng plwyf Llanwnda a phlwyf Llandwrog. Pompren neu bont droed ydyw, yn cysylltu'r lôn sy'n rhedeg heibio fferm Chatham i lawr at yr afon gyda Llwybr y Cob ym mhlwyf Llandwrog. Mae'r bont bresennol yn weddol fodern, ac yn ffurfio rhan o Llwybr Arfordir Cymru, ond bu pont yma ers o leiaf 1888, gan ei bod i'w gweld ar fap Ordnans a gyhoeddwyd y flwyddyn honno. Bu rhyd ar draws yr afon yn union i'r de o'r bont, ond mae honno wedi hen ddiflannu.

Ni ddylid cymysgu'r bompren hon gyda'r bont a adeiladid gan yr awdurdiodau milwrol i gysylltu Gwersyll Chatham a Morfa Dinlle a Maes Awyr ytr RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd.