Cyngerdd Nadolig Maesyneuadd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Am rai blynyddoedd hyd at tua 1960 bu '''Cyngerdd Nadolig Maesyneuadd''' yn achlysur pwysig yn Nhrefor. Fe'i cynhelid gyda'r nos ar Ddydd Nadolig ac roedd...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:07, 5 Hydref 2021

Am rai blynyddoedd hyd at tua 1960 bu Cyngerdd Nadolig Maesyneuadd yn achlysur pwysig yn Nhrefor. Fe'i cynhelid gyda'r nos ar Ddydd Nadolig ac roedd y capel helaeth yn llawn yn gyson gyda'r pentrefwyr a thrigolion o ardaloedd cyfagos yn tyrru yno. Deuai cantorion o fri fel David Lloyd a Leila Megane i berfformio ynddo, yn ogystal â doniau lleol. Fodd bynnag, aeth poblogrwydd y cyngerdd i lawr yn rhyfeddol o sydyn yn y diwedd a dywedir mai'r prif reswm am hynny oedd dyfodiad nifer cynyddol o setiau teledu i gartrefi'r fro at ddiwedd y 1950au.

Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol