Hugh Williams, Cwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Brodor o gyffiniau'r Efailnewydd ger Pwllheli oedd [[Hugh Williams]] a chafodd waith yn hogyn ifanc fel gwas ffarm yng [[Cwm Coryn|Nghwm Coryn]], [[Llanaelhaearn]]. Dyna pryd y dechreuodd fynychu oedfaon [[Capel Bethlehem (A), Trefor]].
Brodor o gyffiniau'r Efailnewydd ger Pwllheli oedd '''Hugh Williams''' a chafodd waith yn hogyn ifanc fel gwas ffarm yng [[Cwm Coryn|Nghwm Coryn]], [[Llanaelhaearn]]. Dyna pryd y dechreuodd fynychu oedfaon [[Capel Bethlehem (A), Trefor]].

Priododd ag Elizabeth, merch William Thomas, hen godwr canu'r Bedyddwyr yn y plwyf, a bu'r ddau yn weithgar gyda'r Ysgol Sul undebol a gynhelid am gyfnod ym Meudy Gwyn Sychnant (gerllaw Cae Cropa). Yn fuan ar ôl priodi aethant i fyw i Caerfoty-bach, sydd er canrif a rhagor o dan domen fawr [[Chwarel yr Eifl]]. Bu'n gweini ar y ffermydd lleol a hefyd yn ystod y cynhaeaf ŷd yn Sir Fôn, yn ogystal â bod yn un o weithlu cloddio twnel y rheilffordd ym Mhenmaenmawr.

Llinell 50: Llinell 50:
Roedd Hugh Williams yn Hen-hen-hen-hen-daid i'r Prifardd [[Guto Dafydd]], enillydd y goron yn Eisteddfodau Sir Gâr (2014) a Sir Conwy (2019).
Roedd Hugh Williams yn Hen-hen-hen-hen-daid i'r Prifardd [[Guto Dafydd]], enillydd y goron yn Eisteddfodau Sir Gâr (2014) a Sir Conwy (2019).

Claddwyd Hugh Williams ym mynwent Llanaelhaearn.
Claddwyd Hugh Williams ym mynwent Llanaelhaearn ganol mis Mawrth 1893. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parchedigion Roderick Lumley (ei weinidog), Roberts, Pwllheli, a Davies, Llithfaen. Claddwyd dan y drefn newydd.

[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Emynwyr]]
[[Categori:Emynwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:19, 18 Awst 2021

Brodor o gyffiniau'r Efailnewydd ger Pwllheli oedd Hugh Williams a chafodd waith yn hogyn ifanc fel gwas ffarm yng Nghwm Coryn, Llanaelhaearn. Dyna pryd y dechreuodd fynychu oedfaon Capel Bethlehem (A), Trefor.

Priododd ag Elizabeth, merch William Thomas, hen godwr canu'r Bedyddwyr yn y plwyf, a bu'r ddau yn weithgar gyda'r Ysgol Sul undebol a gynhelid am gyfnod ym Meudy Gwyn Sychnant (gerllaw Cae Cropa). Yn fuan ar ôl priodi aethant i fyw i Caerfoty-bach, sydd er canrif a rhagor o dan domen fawr Chwarel yr Eifl. Bu'n gweini ar y ffermydd lleol a hefyd yn ystod y cynhaeaf ŷd yn Sir Fôn, yn ogystal â bod yn un o weithlu cloddio twnel y rheilffordd ym Mhenmaenmawr.

Bu'n nodedig am ei sêl i'r achos ym Methlehem (Maesyneuadd) gydol ei oes ac am gyfnod yn y 1850au yn gyd-ddiacon yno â Threfor Jones, Rheolwr Chwarel yr Eifl. Byddai wrth ei fodd yn cyfansoddi emynau, a mabwysiadodd yn enw barddol, Iolo Goch. Gwaetha'r modd nid erys ond un o'i emynau.

Llwyddiant yr Efengyl
Boed llwyddiant i'r Efengyl
Ledaenu tros y byd,
Nes cael i lawr y delwau
A'r holl eilunod mud ;
Y bwystfil a'r gau-broffwyd
A'r pagan gyda hwy
Fo'n plygu i enw'r Iesu
A'i ddwyfol farwol glwy.
Yr Iesu a groeshoeliwyd
Ar fynydd Calfarî,
Yw Awdur yr Efengyl
A'i theilwng wrthrych hi.
Daw eto lwythau Israel
O bedwar gwynt y nef
A'u dagrau ar eu gruddiau
I'w ogoneddu ef.
Ysbeiliodd angau creulon
O'i hen awdurdod gaeth
Cyn toriad gwawr y bora
Yn rhydd o'i rwymau daeth.
Goriadau pyrth marwolaeth
Oedd wrth ei wregys Ef,
Esgynnodd i ogoniant,
Mae 'nghadw yn y nef.

Ceir rhai pytiau byrion o'i waith hwnt ac yma, a'r oll, hyd y gwyddys, yn Feiblaidd e.e.

Danfonodd Duw ei Air i ni
Oedd addas i'n cynghori,
Trwy ysbrydoliaeth Tri yn Un
Derbyniodd y proffwydi...

Elias ar lan afon Cerith
Y gigfran ddaeth ar adain gyflym
A darn o fara yn ei gylfin,
Digon, gwir, a bara yn ei chylfin.

Roedd Hugh Williams yn Hen-hen-hen-hen-daid i'r Prifardd Guto Dafydd, enillydd y goron yn Eisteddfodau Sir Gâr (2014) a Sir Conwy (2019).