Lottie Ogwen Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cantores enedigol o Drefor a enilodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd '''Lottie Ogwen Jones''' (Thomas yn ddiweddarach). Fe'i magwyd ar ae...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:24, 22 Gorffennaf 2021

Cantores enedigol o Drefor a enilodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd Lottie Ogwen Jones (Thomas yn ddiweddarach). Fe'i magwyd ar aelwyd gerddorol gyda'i mam, a ganai dan yr enw Llinos yr Eifl, yn gantores amlwg mewn cyngherddau ac eisteddfodau yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Brawd Lottie Ogwen oedd George Baum a fu'n adnabyddus fel canwr gwerin ar lwyfannau lleol a chenedlaethol. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf ail-briododd gan gymryd y cyfenw Thomas ac ymgartrefodd yn Y Ffôr yn ystod ei blynyddoedd olaf. Bu farw yn 2020.

Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol