Siân Gwenllian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Sian Gwenllian i Siân Gwenllian: Acen |
(Dim gwahaniaeth)
|
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:32, 18 Gorffennaf 2021
Etholwyd Siân Gwenllian (ganed 1956) yn aelod o Senedd Cymru yn etholiad 2016. Mae'n cynrychioli etholaeth Arfon fel aelod o Blaid Cymru ac yn yr etholiad diwethaf roedd ganddi fwyafrif o 4,162 o bleidleisiau. Yn dilyn yr etholiad fe'i penodwyd yn llefarydd Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol, yr iaith Gymraeg, Cydraddoldeb a Chynllunio. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Bwyllgor y Senedd dros Blant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Busnes y Senedd. Daeth yn gyd-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru yn 2018, gyda Rhun ap Iorwerth, yr Aelod Senedd dros Fôn yn gweithredu fel y dirprwy arweinydd arall. Hefyd yn Nhachwedd 2018 fe'i penodwyd yn un o Gomisiynwyr Comisiwn y Cynulliad ac roedd yn gyfrifol am ieithoedd swyddogol ac am y modd y darperid gwasanaethau i Aelodau'r Senedd.
Cyn iddi gael ei hethol i'r Senedd bu Siân Gwenllian yn gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, gan gynrychioli'r Felinheli, ei phentref genedigol a lle mae'n dal i fyw. Bu'n gyfrifol rhwng 2010 a 2012 am bortffolio cyllid yr awdurdod. Rhwng 2012 a 2014 roedd yn aelod o'r Cabinet dros Addysg, gyda chyfrifoldeb penodol dros blant a phobl ifanc; roedd yn ddirprwy arweinydd y Cyngor yn ogystal. Fe'i penodwyd yn Hyrwyddwr Busnesau Bach Gwynedd yn 2014, gyda chyfrifoldeb dros hyrwyddo'r sector hwn yn y sir.
Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Friars, Bangor cyn mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, lle'r enillodd radd mewn daearyddiaeth a chyflawni cwrs ôl-radd mewn newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel gohebydd a chyflwynydd newyddion i'r BBC a HTV, yn ohebydd gyda Golwg ac yn swyddog y wasg gyda Chyngor Gwynedd cyn iddi gael ei hethol yn gynghorydd sirol dros y Felinheli. Ymunodd â Phlaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg tra oedd yn dal yn ddisgybl ysgol ac mae wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg, cydraddoldeb i ferched a dileu pob math o anghydraddoldeb. Bu'n briod â'r diweddar Dafydd Vernon o Ben-y-groes.[1]
Fe'i hailetholwyd i'r Senedd yn 2021 gan ddyblu ei mwyayfrif gyda 63.3% o’r bleidlais – y ganran uchaf o blith holl Aelodau Senedd Cymru.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma