Gallt-y-pill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Gallt-y-pill''' yn fferm yn ardal Penfforddfelen uwchben y Groeslon, ac yn rhan o ystad fechan Llwyn-y-gwallch ym mhlwyf Llandwrog. E...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:24, 12 Gorffennaf 2021

Mae Gallt-y-pill yn fferm yn ardal Penfforddfelen uwchben y Groeslon, ac yn rhan o ystad fechan Llwyn-y-gwallch ym mhlwyf Llandwrog.

Erbyn 1840 roedd y fferm, ynghyd â Llwyn-y-gwalch, yn eiddo i ddyn o'r enw Frank Jones Walker Jones, a Thomas Parry oedd y tenant, yn ffermio 22 erw oedd yn gymysgedd o dir âr a thir pori. Dyma enwau'r caeau: Cae hyll, Cae bwyn, Werglodd mawn, Werglodd big, Cae garreg, Gyto, Cae newydd, Cae Gyto, Cae talcen tŷ, Cae beudy, Werglodd fawr a Werglodd dopiog.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau