John Evans D.D., Esgob Bangor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bu John Evans D.D. (1651? - 1724) yn egsob Bangor ac yna Meath yn Iwerddon. Er bod peth ansicrwydd, credir yn gryf mai yn Bryn Bychan, plwyf Llanaelhaearn...'
 
 
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Bu John Evans D.D. (1651? - 1724) yn egsob Bangor ac yna Meath yn Iwerddon. Er bod peth ansicrwydd, credir yn gryf mai yn Bryn Bychan, plwyf Llanaelhaearn, y ganed ef tua'r flwyddyn 1651. Roedd o deulu o fân uchelwyr a symudodd yn ddiweddarach i Plas Du, Llanarmon yn Eifionydd, er na chredir fod cysylltiad rhwng teulu John Evans a theulu adnabyddus yr Oweniaid a fu'n byw ym Mhlas Du cyn hynny. Bu'n fyfyriwr yn Rhydychen er bod ansicrwydd ynghylch pryd yn union y bu yno nac ym mha goleg y graddiodd ohono. Beth bynnag, wedi cymhwyso i fod yn weinidog gyda'r Eglwys Anglicanaidd, aeth i'r India ym 1678 fel caplan i'r East India Company, lle daeth yn esgob a llwyddo i gasglu cyfoeth sylweddol. Dychwelodd i Gymru ym 1696 pan benodwyd ef yn rheithor ei blwyf genedigol, Llanaelhaearn. Ddiwedd 1701 fe'i dyrchafwyd yn Esgob Bangor, y Cymro olaf i ddal y swydd honno am bron i ddwy ganrif. Yn Ionawr 1715 symudodd i Iwerddon pan benodwyd ef yn Esgob Meath a bu farw yn Nulyn 22 Mawrth 1724. O ran ei ddaliadau gwleidyddol roedd yn gefnogwr cryf i'r Chwigiaid a theulu brenhinol yr Hanoferiaid yn hytrach na'r Stiwardiaid Toriaidd. Gadawodd lawer o arian i Eglwys Iwerddon a £140 at reithordy Llanaelhaearn - swm sylweddol iawn ar y pryd. <sup>[1]</sup>
Bu '''John Evans''' D.D. (1651? - 1724) yn esgob Bangor ac yna Meath yn Iwerddon. Er bod peth ansicrwydd, credir yn gryf mai yn Bryn Bychan, plwyf [[Llanaelhaearn]], y ganed ef tua'r flwyddyn 1651. Roedd o deulu o fân uchelwyr a symudodd yn ddiweddarach i Plas Du, Llanarmon yn Eifionydd, er na chredir fod cysylltiad rhwng teulu John Evans a theulu adnabyddus yr Oweniaid a fu'n byw ym Mhlas Du cyn hynny. Bu'n fyfyriwr yn Rhydychen er bod ansicrwydd ynghylch pryd yn union y bu yno nac ym mha goleg y graddiodd ohono. Beth bynnag, wedi cymhwyso i fod yn weinidog gyda'r Eglwys Anglicanaidd, aeth i'r India ym 1678 fel caplan i'r East India Company, lle daeth yn esgob a llwyddo i gasglu cyfoeth sylweddol. Dychwelodd i Gymru ym 1696 pan benodwyd ef yn rheithor ei blwyf genedigol, Llanaelhaearn. Ddiwedd 1701 fe'i dyrchafwyd yn Esgob Bangor, y Cymro olaf i ddal y swydd honno am bron i ddwy ganrif. Yn Ionawr 1715 symudodd i Iwerddon pan benodwyd ef yn Esgob Meath a bu farw yn Nulyn 22 Mawrth 1724. O ran ei ddaliadau gwleidyddol roedd yn gefnogwr cryf i'r Chwigiaid a theulu brenhinol yr Hanoferiaid yn hytrach na'r Stiwardiaid Toriaidd. Gadawodd lawer o arian i Eglwys Iwerddon a £140 at reithordy Llanaelhaearn - swm sylweddol iawn ar y pryd. <ref>Gweler erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', tt.224-5; hefyd John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', tt.74-5.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Gweler erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', tt.224-5; hefyd John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', tt.74-5.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Offeiriaid]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:26, 28 Mehefin 2021

Bu John Evans D.D. (1651? - 1724) yn esgob Bangor ac yna Meath yn Iwerddon. Er bod peth ansicrwydd, credir yn gryf mai yn Bryn Bychan, plwyf Llanaelhaearn, y ganed ef tua'r flwyddyn 1651. Roedd o deulu o fân uchelwyr a symudodd yn ddiweddarach i Plas Du, Llanarmon yn Eifionydd, er na chredir fod cysylltiad rhwng teulu John Evans a theulu adnabyddus yr Oweniaid a fu'n byw ym Mhlas Du cyn hynny. Bu'n fyfyriwr yn Rhydychen er bod ansicrwydd ynghylch pryd yn union y bu yno nac ym mha goleg y graddiodd ohono. Beth bynnag, wedi cymhwyso i fod yn weinidog gyda'r Eglwys Anglicanaidd, aeth i'r India ym 1678 fel caplan i'r East India Company, lle daeth yn esgob a llwyddo i gasglu cyfoeth sylweddol. Dychwelodd i Gymru ym 1696 pan benodwyd ef yn rheithor ei blwyf genedigol, Llanaelhaearn. Ddiwedd 1701 fe'i dyrchafwyd yn Esgob Bangor, y Cymro olaf i ddal y swydd honno am bron i ddwy ganrif. Yn Ionawr 1715 symudodd i Iwerddon pan benodwyd ef yn Esgob Meath a bu farw yn Nulyn 22 Mawrth 1724. O ran ei ddaliadau gwleidyddol roedd yn gefnogwr cryf i'r Chwigiaid a theulu brenhinol yr Hanoferiaid yn hytrach na'r Stiwardiaid Toriaidd. Gadawodd lawer o arian i Eglwys Iwerddon a £140 at reithordy Llanaelhaearn - swm sylweddol iawn ar y pryd. [1]

Cyfeiriadau

  1. Gweler erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, tt.224-5; hefyd John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, tt.74-5.