Madog Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yn ôl achyddwyr roedd Madog Goch yn un o ddisgynyddion Cilmyn Droed-ddu, sefydlydd lled-chwedlonol teulu Glynllifon. Dywed Myrddin Fardd fod Madog Goch y...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:33, 25 Mehefin 2021

Yn ôl achyddwyr roedd Madog Goch yn un o ddisgynyddion Cilmyn Droed-ddu, sefydlydd lled-chwedlonol teulu Glynllifon. Dywed Myrddin Fardd fod Madog Goch yn hyddysg fel cyfreithiwr yn y cyfreithiau Cymreig a'i fod yn nodedig am ei haelioni a'i letygarwch. Ei lys oedd Tyddyn Madog Goch a chartrefodd wedyn yn Plas Hen. Priododd â Gwerfyl ferch Rhys ap Tudur o Fôn, a oedd yn un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, distain neu brif weinidog Llywelyn Fawr.[1]

Cyfeiriadau

1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.254.