John Roberts, Archddiacon Meirionnydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed y Parchedig John Roberts M.A. yn ffermdy Hafod y Wern ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1729. Prin yw'r wybodaeth amdano ond llwyddodd i fynd i Brifysgol Rh...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 13:25, 25 Mehefin 2021
Ganed y Parchedig John Roberts M.A. yn ffermdy Hafod y Wern ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1729. Prin yw'r wybodaeth amdano ond llwyddodd i fynd i Brifysgol Rhydychen lle'r enillodd radd M.A. Fe'i penodwyd wedyn yn rheithor Boduan ac, yn ddiweddarach, yn rheithor Llanbedrog ac yn Archddiacon Meirionnydd. Roedd ganddo fywoliaeth eglwysig segur ym Môn hefyd. Treuliodd weddill ei ddyddiau yn Llanbedrog lle bu farw ar 7 Awst 1802 yn 73 oed. Mae ei fedd i'w weld ym mynwent yr eglwys.[1]
Cyfeiriadau
1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.314