Edmund Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Y Parch Edmund Francis i Edmund Francis heb adael dolen ailgyfeirio |
||
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd oedd '''Edmund Francis'''. Dywed Myrddin Fardd yn ''Enwogion Sir Gaernarfon'' iddo gael ei eni yn Hafoty Drwsgl ym mhlwyf [[Llanwnda]],<ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', t.88.</ref> ond yn yr erthygl arno yn ''Y Bywgraffiadur Gymreig'' dywedir mai gŵr o Fôn ydoedd mae'n fwy na thebyg gan i'w fam, Lydia Francis, gael ei bedyddio yn Amlwch ac yno hefyd y bedyddiwyd yntau ar 8 Hydref 1786.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', (Llundain, 1953),t.252.</ref> Dechreuodd bregethu cyn 1790 ac ar 1 Rhagfyr 1795 fe'i hurddwyd yn gynorthwywr i Christmas Evans, a oedd bryd hynny'n coleddu daliadau'r Sandemaniaid, neu'r Bedyddwyr Albanaidd. Glynodd Edmund Francis wrth y daliadau hynny gydol ei oes. Symudodd i Gaernarfon ym 1799 i weithio fel clerc i fasnachwr llechi, Richard Roberts, a oedd hefyd yn berchennog [[Chwarel | Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd oedd '''Edmund Francis'''. Dywed Myrddin Fardd yn ''Enwogion Sir Gaernarfon'' iddo gael ei eni yn Hafoty Drwsgl ym mhlwyf [[Llanwnda]],<ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', t.88.</ref> ond yn yr erthygl arno yn ''Y Bywgraffiadur Gymreig'' dywedir mai gŵr o Fôn ydoedd mae'n fwy na thebyg gan i'w fam, Lydia Francis, gael ei bedyddio yn Amlwch ac yno hefyd y bedyddiwyd yntau ar 8 Hydref 1786.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', (Llundain, 1953),t.252.</ref> Dechreuodd bregethu cyn 1790 ac ar 1 Rhagfyr 1795 fe'i hurddwyd yn gynorthwywr i Christmas Evans, a oedd bryd hynny'n coleddu daliadau'r Sandemaniaid, neu'r Bedyddwyr Albanaidd. Glynodd Edmund Francis wrth y daliadau hynny gydol ei oes. Symudodd i Gaernarfon ym 1799 i weithio fel clerc i fasnachwr llechi, Richard Roberts, a oedd hefyd yn berchennog [[Chwarel Cilgwyn]]. Pan fu farw Roberts ym 1815, sefydlodd Francis fusnes ŷd a blawd ac roedd yn gweithredu hefyd dros [[Gwaith copr Drws-y-coed|waith copr Drws-y-coed]]. Tua 1801 sefydlodd Francis eglwysi i'r Bedyddwyr Albanaidd yng Nghaernarfon a [[Llanllyfni]] gan weithredu fel gweinidog arnynt. Er nad oedd yn bregethwr dawnus yn ôl y sôn, credai'n angerddol yn ei ddaliadau ac roedd ganddo synnwyr cyffredin cadarn a gwybodaeth gyffredinol eang. Cyfieithodd waith Archibald McLean, ''Comisiwn Crist i'w Apostolion'', i'r Gymraeg. Bu farw 5 Rhagfyr 1831 a'i gladdu ym [[Mynwent Bara Caws|mynwent y Bedyddwyr Albanaidd]] yn Llanllyfni, lle ceir yr englyn a ganlyn ar ei gofeb: | ||
Gwir astud ffyddiog Gristion - oedd Edmund | Gwir astud ffyddiog Gristion - oedd Edmund |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:40, 24 Mehefin 2021
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd oedd Edmund Francis. Dywed Myrddin Fardd yn Enwogion Sir Gaernarfon iddo gael ei eni yn Hafoty Drwsgl ym mhlwyf Llanwnda,[1] ond yn yr erthygl arno yn Y Bywgraffiadur Gymreig dywedir mai gŵr o Fôn ydoedd mae'n fwy na thebyg gan i'w fam, Lydia Francis, gael ei bedyddio yn Amlwch ac yno hefyd y bedyddiwyd yntau ar 8 Hydref 1786.[2] Dechreuodd bregethu cyn 1790 ac ar 1 Rhagfyr 1795 fe'i hurddwyd yn gynorthwywr i Christmas Evans, a oedd bryd hynny'n coleddu daliadau'r Sandemaniaid, neu'r Bedyddwyr Albanaidd. Glynodd Edmund Francis wrth y daliadau hynny gydol ei oes. Symudodd i Gaernarfon ym 1799 i weithio fel clerc i fasnachwr llechi, Richard Roberts, a oedd hefyd yn berchennog Chwarel Cilgwyn. Pan fu farw Roberts ym 1815, sefydlodd Francis fusnes ŷd a blawd ac roedd yn gweithredu hefyd dros waith copr Drws-y-coed. Tua 1801 sefydlodd Francis eglwysi i'r Bedyddwyr Albanaidd yng Nghaernarfon a Llanllyfni gan weithredu fel gweinidog arnynt. Er nad oedd yn bregethwr dawnus yn ôl y sôn, credai'n angerddol yn ei ddaliadau ac roedd ganddo synnwyr cyffredin cadarn a gwybodaeth gyffredinol eang. Cyfieithodd waith Archibald McLean, Comisiwn Crist i'w Apostolion, i'r Gymraeg. Bu farw 5 Rhagfyr 1831 a'i gladdu ym mynwent y Bedyddwyr Albanaidd yn Llanllyfni, lle ceir yr englyn a ganlyn ar ei gofeb:
Gwir astud ffyddiog Gristion - oedd Edmund Ddiwyd, mwyn a ffyddlon; Cywir ei fryd, carai ei fron Ddaioni i'w gyd-ddynion.