Twm Elias: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Mae Twm Elias (Thomas Richards Elias i roi iddo'i enw llawn) yn naturiaethwr, arbenigwr ar lên gwerin, darlithydd ac awdur nifer o gyfrolau yn ymwneud â byd natur, hanes amaethyddiaeth, arferion a defodau gwerin a choelion ac arwyddion yn ymwneud â'r tywydd.  
Mae '''Twm Elias''' (g.1947) (Thomas Richards Elias i roi iddo'i enw llawn) yn naturiaethwr, arbenigwr ar lên gwerin, darlithydd ac awdur nifer o gyfrolau yn ymwneud â byd natur, hanes amaethyddiaeth, arferion a defodau gwerin a choelion ac arwyddion yn ymwneud â'r tywydd.  

Fe'i ganed ym 1947 gan dyfu i fyny yn ffermdy Hafod y Wern ar y llethrau uwchlaw pentref Clynnog. Erbyn hyn mae ef a'i deulu wedi ymgartrefu yn Nebo ers rhai blynyddoedd bellach. Graddiodd mewn llysieueg amaethyddol o Brifysgol Bangor, gan wneud gwaith ymchwil pellach yno ac ym Mhrifysgol Aberystwyth. Am bymtheg mlynedd ar hugain, o 1979 tan iddo ymddeol yn 2014, bu'n ddarlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog, gan arwain cyrsiau'n ymwneud â gwylio adar, cerdded cefn gwlad, y porthmyn a llên gwerin yn arbennig. Mae'n parhau i arwain rhai o'r cyrsiau hyn o hyd. Mae wedi ymwneud hefyd â nifer o gyrff a sefydliadau sy'n hyrwyddo cadwraeth a gwarchod bywyd gwyllt, a mwynhau cefn gwlad. Er enghraifft, ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd.  
Fe'i ganed ym 1947 gan dyfu i fyny yn ffermdy Hafod y Wern ar y llethrau uwchlaw pentref [[Clynnog Fawr]]. Erbyn hyn mae ef a'i deulu wedi ymgartrefu yn [[Nebo]] ers rhai blynyddoedd bellach. Graddiodd mewn llysieueg amaethyddol o Brifysgol Bangor, gan wneud gwaith ymchwil pellach yno ac ym Mhrifysgol Aberystwyth. Am bymtheg mlynedd ar hugain, o 1979 tan iddo ymddeol yn 2014, bu'n ddarlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog, gan arwain cyrsiau'n ymwneud â gwylio adar, cerdded cefn gwlad, y porthmyn a llên gwerin yn arbennig. Mae'n parhau i arwain rhai o'r cyrsiau hyn o hyd. Mae wedi ymwneud hefyd â nifer o gyrff a sefydliadau sy'n hyrwyddo cadwraeth a gwarchod bywyd gwyllt, a mwynhau cefn gwlad. Er enghraifft, ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd.  

Mae'n awdur nifer o lyfrau; cyhoeddwyd ei lyfrau cynharaf ar wahanol rywogaethau o flodau, megis ''Blodau'r Gwrych'' (1985) a ''Blodau'r Gors'' (1988) gan Wasg Dwyfor, tra cyhoeddwyd ei lyfrau diweddaraf gan Wasg Carreg Gwalch. Ymhlith y rheini gellir nodi ''Tro Trwy'r Tymhorau'' (2007); ''Am y Tywydd - Dywediadau, Rhigymau a Choelion'' (2008); ''Y Dyrnwr Mawr'' (2017) (gydag Emlyn Richards); a'i lyfr diweddaraf (gyda Dafydd Guto), ''Cymru ar Stampiau'r Byd'' (2021). Mae hefyd yn olygydd y cylchgrawn ''Fferm a Thyddyn'' a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn, ar Galan Mai a Chalan Gaeaf. Yn ogystal mae'n gyfrannwr cyson o'r dechrau i'r cylchgrawn ''Llafar Gwlad'' ac wedi bod yn trefnu penwythnos Llafar Gwlad yn Nhan y Bwlch ers blynyddoedd.  

Mae Twm Elias yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau Cymreig ac yn gyfrannwr sefydlog i'r rhaglen radio ''Galwad Cynnar''. Cyfrannodd i raglenni eraill hefyd fel ''Natur Wyllt'' a ''Seiat Byd Natur''. Cafodd ei urddo i wisg wen Gorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011 am ei gyfraniad i faes astudiaethau natur a llên gwerin.

{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Awduron]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 08:49, 28 Ebrill 2021

Mae Twm Elias (g.1947) (Thomas Richards Elias i roi iddo'i enw llawn) yn naturiaethwr, arbenigwr ar lên gwerin, darlithydd ac awdur nifer o gyfrolau yn ymwneud â byd natur, hanes amaethyddiaeth, arferion a defodau gwerin a choelion ac arwyddion yn ymwneud â'r tywydd.

Fe'i ganed ym 1947 gan dyfu i fyny yn ffermdy Hafod y Wern ar y llethrau uwchlaw pentref Clynnog Fawr. Erbyn hyn mae ef a'i deulu wedi ymgartrefu yn Nebo ers rhai blynyddoedd bellach. Graddiodd mewn llysieueg amaethyddol o Brifysgol Bangor, gan wneud gwaith ymchwil pellach yno ac ym Mhrifysgol Aberystwyth. Am bymtheg mlynedd ar hugain, o 1979 tan iddo ymddeol yn 2014, bu'n ddarlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog, gan arwain cyrsiau'n ymwneud â gwylio adar, cerdded cefn gwlad, y porthmyn a llên gwerin yn arbennig. Mae'n parhau i arwain rhai o'r cyrsiau hyn o hyd. Mae wedi ymwneud hefyd â nifer o gyrff a sefydliadau sy'n hyrwyddo cadwraeth a gwarchod bywyd gwyllt, a mwynhau cefn gwlad. Er enghraifft, ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd.

Mae'n awdur nifer o lyfrau; cyhoeddwyd ei lyfrau cynharaf ar wahanol rywogaethau o flodau, megis Blodau'r Gwrych (1985) a Blodau'r Gors (1988) gan Wasg Dwyfor, tra cyhoeddwyd ei lyfrau diweddaraf gan Wasg Carreg Gwalch. Ymhlith y rheini gellir nodi Tro Trwy'r Tymhorau (2007); Am y Tywydd - Dywediadau, Rhigymau a Choelion (2008); Y Dyrnwr Mawr (2017) (gydag Emlyn Richards); a'i lyfr diweddaraf (gyda Dafydd Guto), Cymru ar Stampiau'r Byd (2021). Mae hefyd yn olygydd y cylchgrawn Fferm a Thyddyn a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn, ar Galan Mai a Chalan Gaeaf. Yn ogystal mae'n gyfrannwr cyson o'r dechrau i'r cylchgrawn Llafar Gwlad ac wedi bod yn trefnu penwythnos Llafar Gwlad yn Nhan y Bwlch ers blynyddoedd.

Mae Twm Elias yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau Cymreig ac yn gyfrannwr sefydlog i'r rhaglen radio Galwad Cynnar. Cyfrannodd i raglenni eraill hefyd fel Natur Wyllt a Seiat Byd Natur. Cafodd ei urddo i wisg wen Gorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011 am ei gyfraniad i faes astudiaethau natur a llên gwerin.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau