Pandy Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Pandy Llanllyfni''' yn bandy neu felin bannu. Pannu yw'r broses o drin brethynnau wedi'u gweu er mwyn i'r defnydd fod yn orffenedig a'r gwehyddu'...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:47, 23 Ebrill 2021

Roedd Pandy Llanllyfni yn bandy neu felin bannu. Pannu yw'r broses o drin brethynnau wedi'u gweu er mwyn i'r defnydd fod yn orffenedig a'r gwehyddu'n glos a llyfn. safai'r pandy hwn ar Afon-y-felin yn y caeau i'r dwyrain o bentref Llanllyfni, ac mae ei bodolaeth yno'n tystio i lewyrch gynt y diwydiant gwlân yn Nyffryn Nantlle.