Melin Eisteddfa Isaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Melin Eisteddfa Isaf''' yn ardal Nasareth, ond ym mhlwyf Clynnog Fawr. Melin lifio coed oedd hi, yn sefyll ar y nant sydd yn rhedeg i law...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:05, 21 Ebrill 2021

Roedd Melin Eisteddfa Isaf yn ardal Nasareth, ond ym mhlwyf Clynnog Fawr. Melin lifio coed oedd hi, yn sefyll ar y nant sydd yn rhedeg i lawr o ardal Cors y Llyn ac yn ymuno ag Afon Llyfni gen Dol-gau, sef y nant a ddynodai'r ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni. Mae'r adeilad i'w weld ar fapiau Ordnans 1888 hyd 1954, ond dim ond mapiau 25" i'r filltir a gyhoeddwyd ym 1900 a 1918 sy'n nodi ei fod yn felin lifio coed, ac felly ni ellir fod yn sicr pryd y bu'n gweithio y tu allan i'r ystod yna o ddyddiadau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau