Cwmni Chwareli Llechi'r Goron yn Sir Gaernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd y '''Caernarvonshire Crown Slate Quarries Co. Ltd''' yn gyfrifol am chwareli Chwarel Cors-y-Bryniau, Chwarel Moel Tryfan a Chwarel Cilgwyn...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:35, 13 Ebrill 2021

Roedd y Caernarvonshire Crown Slate Quarries Co. Ltd yn gyfrifol am chwareli Chwarel Cors-y-Bryniau, Chwarel Moel Tryfan a Chwarel Cilgwyn o 1918 ymlaen. Rhwng 1918 a 1931, daeth yn rhan o gwmni arall, sef yr Amalgamated Slate Association Ltd., a geisiodd eu gweithredu ar y cyd gyda Chwarel Rhos yng Nghapel Curig.

Siomwyd y cwmni gan y diffyg galw am lechi ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, gyda llawer llai o weithwyr oedd yn gyflogedig gan y cwmni. Daeth y gwaith yn y chwarel olaf i weithredu, sef Chwarel Cors-y-bryniau i ben erbyn 1972 am resymau iechyd a diogelwch.[1] Mae'r cwmni'n dali fodoli ac erbyn hyn wedi canfod marchnad newydd mewn gwerthu rwbl fel deunydd sylfaen i adeiladu ffyrdd ac ati.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau