Chwedl Garth Dorwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Hen chwedl yw stori '''Garth Dorwen''', sy'n perthyn i fferm [[Garth Dorwen]], rhwng [[Y Groeslon]] a [[Pen-y-groes|Phen-y-groes]].  
Hen chwedl yn ymwneud â'r Tylwyth Teg yw stori '''Garth Dorwen''', sy'n perthyn i fferm [[Garth Dorwen]], rhwng [[Y Groeslon]] a [[Pen-y-groes|Phen-y-groes]].  


Yn ôl y stori, roedd dynes oedrannus yn byw yn Garth Dorwen ar un cyfnod ac yr oedd fydwraig fedrus. Digwyddodd iddi gyflogi morwyn o Gaernarfon o'r enw Eilian, ac amdani hi yn bennaf y mae'r chwedl - ceir cae o'r enw Cae Eilian hyd heddiw yno, ac enwir 'Weirglodd y Forwyn' ar ei hôl.  
Yn ôl y stori, roedd dynes oedrannus yn byw yn Garth Dorwen ar un cyfnod ac yr oedd yn fydwraig fedrus. Roedd arni hi a'i gŵr eisiau cyflogi morwyn ac aethant i Ffair Caernarfon i'r diben hwnnw. Gwelodd yr hen wraig ferch ifanc hynod hardd yn disgwyl cael ei chyflogi a gwnaeth delerau â hi i ddod i weithio i Garth Dorwen. Eilian oedd enw'r forwyn dlos ac amdani hi yn bennaf y mae'r chwedl - ceir cae o'r enw Cae Eilian yno hyd heddiw, ac enwir 'Weirglodd y Forwyn' ar ei hôl.  


Roedd Eilian wedi mynd i nyddu yng ngolau'r lloer un noswaith, ac o'r noson honno wedyn ni ddaru neb ei gweld fyth eto.  
Gyda'r nos yn y gaeaf arferai'r hen wraig ac Eilian nyddu brethyn wrth y tân. Ond aeth Eilian allan i nyddu yng ngolau'r lloer un noswaith, a phwy oedd yn digwydd bod allan hefyd ond y Tylwyth Teg. Ymunodd Eilian â nhw ac nid aeth yn ôl i'r fferm at yr hen wraig a'i gŵr. Yn naturiol bu chwilio mawr amdani, ond yn gwbl ofer.


Ymhen amser wedyn, daeth gŵr bonheddig i ddrws Garth Dorwen i ofyn help yr hen ddynes at ei wraig. Aeth hithau gydag ef, a chyrhaeddodd blasty enfawr ac yno buodd yn helpu gwraig y gŵr bonheddig hwnnw. Ar ôl i'r babi gyrraedd, aeth at y tân i'w drin, a daeth y gŵr botel o eli arbennig i iro llygaid y babi. Rhybuddiodd y gŵr nad oedd y ddynes i gyffwrdd â'i llygaid ei hun gyda'r eli, ond er hyn digwyddodd iddi grafu ei llygad ar hap. Yn sydyn, roedd yr hen ddynes yn medru gweld delwedd wahanol drwy'r llygad honno - a gwelodd eneth ifanc yn gorwedd ar lwyth o frigau a cherrig, a sylweddolodd mai ei morwyn, Eilian yr oedd.  
Ymhen amser wedyn, daeth gŵr bonheddig i ddrws Garth Dorwen i ofyn a fyddai'r hen ddynes yn dod at ei wraig a oedd ar fin geni babi. Aeth hithau gydag ef, a chyrhaeddodd blasty enfawr ac yno buodd yn helpu gwraig y gŵr bonheddig hwnnw. Ar ôl i'r babi gyrraedd, aeth at y tân i'w drin, a daeth y gŵr â photel o eli arbennig i iro llygaid y babi. Rhybuddiodd y gŵr nad oedd y ddynes i gyffwrdd â'i llygaid ei hun gyda'r eli, ond gwaetha'r modd digwyddodd iddi rwbio un llygad a oedd yn cosi ac roedd ychydig o'r eli yn dal i fod ar ben ei bys. Yn sydyn, roedd yr hen wraig yn medru gweld delwedd wahanol drwy'r llygad hwnnw - a gwelodd eneth ifanc yn gorwedd ar lwyth o frigau a cherrig, a sylweddolodd mai ei morwyn, Eilian, ydoedd.  


Aeth amser heibio, a digwyddodd yr hen ddynes fod yn Ffair Gaernarfon pan welodd y gŵr bonheddig eto. Gofynnodd iddo, "Sut mae Eilian?", ac atebodd yntau fod popeth yn iawn. Gofynnodd iddi, "gyda pha lygaid y gwelwch chi fi?", a phan bwyntiodd hi at un o'i llygaid dyma'r gŵr yn tynnu'r llygad allan gyda llafrwynen.  
Aeth amser heibio, a digwyddodd yr hen ddynes fod yn Ffair Gaernarfon pan welodd y gŵr bonheddig eto. Gofynnodd iddo, "Sut mae Eilian?", ac atebodd yntau fod popeth yn iawn. Gofynnodd iddi, "gyda pha lygaid y gwelwch chi fi?", a phan bwyntiodd hi at un o'i llygaid dyma'r gŵr yn tynnu'r llygad allan gyda llafrwynen.<ref>John Rhys, ''Celtic Folklore'' (Cyfrol 1, Caergrawnt 2015) tt. 212-213</ref>


{{eginyn}}
=== Llên Gwerin Sir Gaernarfon ===


Ceir fersiwn helaeth o'r stori hon wedi ei hadrodd yn ddifyr gan John Jones (Myrddin Fardd) yn ei gyfrol bwysig ''Llên Gwerin Sir Gaernarfon''. Dywed Myrddin fod fersiwn debyg o'r stori yn gysylltiedig ag ardal Pencoed yn Eifionydd; un gwahaniaeth rhwng y stori honno â stori Garth Dorwen yw mai i ffair gyflogi Pwllheli yr aeth yr hen ŵr a'r hen wraig o Bencoed i chwilio am forwyn, yn hytrach nag i ffair Caernarfon. Fel arall, mae'r ddwy fersiwn yn bur debyg i'w gilydd. <ref>Myrddin Fardd (John Jones), ''Llên Gwerin Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1908), tt.93-4.</ref>


==Ffynhonnell==
{{eginyn}}
 
Rhys, John ''Celtic Folklore'' (Cyfrol 1, cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt 2015) tud. 212-213




==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}




[[Categori:Chwedloniaeth]]
[[Categori:Chwedloniaeth]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 08:18, 9 Ebrill 2021

Hen chwedl yn ymwneud â'r Tylwyth Teg yw stori Garth Dorwen, sy'n perthyn i fferm Garth Dorwen, rhwng Y Groeslon a Phen-y-groes.

Yn ôl y stori, roedd dynes oedrannus yn byw yn Garth Dorwen ar un cyfnod ac yr oedd yn fydwraig fedrus. Roedd arni hi a'i gŵr eisiau cyflogi morwyn ac aethant i Ffair Caernarfon i'r diben hwnnw. Gwelodd yr hen wraig ferch ifanc hynod hardd yn disgwyl cael ei chyflogi a gwnaeth delerau â hi i ddod i weithio i Garth Dorwen. Eilian oedd enw'r forwyn dlos ac amdani hi yn bennaf y mae'r chwedl - ceir cae o'r enw Cae Eilian yno hyd heddiw, ac enwir 'Weirglodd y Forwyn' ar ei hôl.

Gyda'r nos yn y gaeaf arferai'r hen wraig ac Eilian nyddu brethyn wrth y tân. Ond aeth Eilian allan i nyddu yng ngolau'r lloer un noswaith, a phwy oedd yn digwydd bod allan hefyd ond y Tylwyth Teg. Ymunodd Eilian â nhw ac nid aeth yn ôl i'r fferm at yr hen wraig a'i gŵr. Yn naturiol bu chwilio mawr amdani, ond yn gwbl ofer.

Ymhen amser wedyn, daeth gŵr bonheddig i ddrws Garth Dorwen i ofyn a fyddai'r hen ddynes yn dod at ei wraig a oedd ar fin geni babi. Aeth hithau gydag ef, a chyrhaeddodd blasty enfawr ac yno buodd yn helpu gwraig y gŵr bonheddig hwnnw. Ar ôl i'r babi gyrraedd, aeth at y tân i'w drin, a daeth y gŵr â photel o eli arbennig i iro llygaid y babi. Rhybuddiodd y gŵr nad oedd y ddynes i gyffwrdd â'i llygaid ei hun gyda'r eli, ond gwaetha'r modd digwyddodd iddi rwbio un llygad a oedd yn cosi ac roedd ychydig o'r eli yn dal i fod ar ben ei bys. Yn sydyn, roedd yr hen wraig yn medru gweld delwedd wahanol drwy'r llygad hwnnw - a gwelodd eneth ifanc yn gorwedd ar lwyth o frigau a cherrig, a sylweddolodd mai ei morwyn, Eilian, ydoedd.

Aeth amser heibio, a digwyddodd yr hen ddynes fod yn Ffair Gaernarfon pan welodd y gŵr bonheddig eto. Gofynnodd iddo, "Sut mae Eilian?", ac atebodd yntau fod popeth yn iawn. Gofynnodd iddi, "gyda pha lygaid y gwelwch chi fi?", a phan bwyntiodd hi at un o'i llygaid dyma'r gŵr yn tynnu'r llygad allan gyda llafrwynen.[1]

Llên Gwerin Sir Gaernarfon

Ceir fersiwn helaeth o'r stori hon wedi ei hadrodd yn ddifyr gan John Jones (Myrddin Fardd) yn ei gyfrol bwysig Llên Gwerin Sir Gaernarfon. Dywed Myrddin fod fersiwn debyg o'r stori yn gysylltiedig ag ardal Pencoed yn Eifionydd; un gwahaniaeth rhwng y stori honno â stori Garth Dorwen yw mai i ffair gyflogi Pwllheli yr aeth yr hen ŵr a'r hen wraig o Bencoed i chwilio am forwyn, yn hytrach nag i ffair Caernarfon. Fel arall, mae'r ddwy fersiwn yn bur debyg i'w gilydd. [2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. John Rhys, Celtic Folklore (Cyfrol 1, Caergrawnt 2015) tt. 212-213
  2. Myrddin Fardd (John Jones), Llên Gwerin Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1908), tt.93-4.