Pistyll Dafn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Pistyll Dafn''' yn un o'r ychydig raeadrau sylweddol yn Uwchgwyrfai, ac yn cael ei nodi ar fapiau Ordnans. Yn ei llyfr ''Sul, Gŵyl a Gwaith''...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:50, 3 Ebrill 2021

Mae Pistyll Dafn yn un o'r ychydig raeadrau sylweddol yn Uwchgwyrfai, ac yn cael ei nodi ar fapiau Ordnans.

Yn ei llyfr Sul, Gŵyl a Gwaith ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn ar Afon Ddalfa, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. “Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.”[1]

  1. Catrin Parri Huws, Sul, Gŵyl a Gwaith (Gwasg Gwynedd, 1981).